Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Ddirprwy Lywydd, mae amcanestyniadau Bangor yn seiliedig ar ddemograffeg yn hytrach na newidiadau ymddygiadol, a ni chredaf y byddai'r cynnig a wnaed gan yr Aelod y prynhawn yma yn gwneud llawer i newid y sbardunau demograffig sylfaenol hynny. Addawodd mewn ateb cynharach y byddai'n darparu ei dystiolaeth ei hun i ategu'r achos a wnaed ganddo, ac fel y dywedais gerbron y Pwyllgor Cyllid, er nad yw ei achos wedi fy argyhoeddi, rwyf bob amser yn agored i ddarllen tystiolaeth newydd.