Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 10 Hydref 2018.
Ddirprwy Lywydd, mae'r gyllideb ddrafft yn dangos ymdrechion ar draws Llywodraeth Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau gwirioneddol a wynebir ganddynt. Mae'r gostyngiad o lai na £15 miliwn yn y grant cynnal refeniw yng Nghymru dros 75 y cant yn llai na thoriad Llywodraeth y DU i awdurdodau lleol yn Lloegr y flwyddyn nesaf.