Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 10 Hydref 2018.
Credaf ei bod yn werth dweud, Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y pryderon gwirioneddol hynny, ac mae gennyf wir—. Rwy'n cymryd y pethau y mae awdurdodau lleol yn eu dweud wrthyf ynglŷn a'r pwysau y maent yn eu hwynebu wedi naw mlynedd o gyni o ddifrif. Serch hynny, cynyddodd gwariant refeniw gan lywodraeth leol yng Nghymru 1.3 y cant y llynedd—ni ddisgynnodd o gwbl; fe gynyddodd 1.3 y cant—a chynyddodd cyllid cyfalaf gan awdurdodau lleol yng Nghymru 5.5 y cant y llynedd. Ac er mor anodd yw pethau i bob un ohonom, o ran ceisio darparu gwasanaethau cyhoeddus gyda llai o adnoddau a galw cynyddol, gosodwyd y setliad i awdurdodau lleol eleni yn erbyn y cefndir hwnnw.