Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn gynnig eithaf syml heddiw, rwy'n meddwl, gyda phwrpas eithaf clir. Mae'n ymwneud â dweud wrth Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, 'Rhowch y gorau iddi. Rhowch y gorau i'r carthu sydd ar y gweill mewn perthynas ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley, rhowch y gorau i ollwng deunydd a garthwyd ar safle Cardiff Grounds, a rhowch y gorau i anwybyddu pryderon a godwyd gan nifer cynyddol o ddinasyddion, ac aelodau etholedig yn wir ar bob lefel ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd.'
Rwy'n siarad fel aelod o Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad, gan mai i'r pwyllgor hwnnw y cyflwynwyd deiseb ar 7 Tachwedd y llynedd, deiseb, a dyfynnaf, i
'Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd'.
Nawr, mae'n werth nodi'r iaith a ddefnyddir yn y ddeiseb honno, ac wrth wneud hynny, atgoffa ein hunain y dylem geisio bod yn wrthrychol yma, fel y mae angen i'r Llywodraeth fod yn sensitif i safbwyntiau pobl eraill. Er bod y deisebwyr yn cyfeirio at 'waddodion morol ymbelydrol', yn ganolog i ochr arall y ddadl, wrth gwrs, mae'r honiad nad oes unrhyw dystiolaeth fod unrhyw ddeunydd a allai fod yn beryglus yn y gwaddod. Felly, dyna'r cyd-destun.
Cynhaliwyd ymchwiliad byr gennym fel pwyllgor a chlywyd rhai o bryderon yr ymgyrchwyr fod deunydd a gâi ei garthu yn dod o ymyl pibellau gollyngiadau o Hinkley, fod data'n dangos y gallai gwaddodion a garthir ddal ymbelydredd cyfanredol sylweddol, mai dim ond tri niwclid penodol yr ymchwiliwyd iddynt yn y dadansoddiad yn hytrach na chynnwys llawer o rai eraill a allai fod yn bresennol. Roedd pryder nad oedd profion ar waddodion wedi'u cynnal ar ddyfnder digonol. Lleisiwyd pryderon ynglŷn â chanlyniadau symud y gwaddod ar fywyd morol ac roedd pryderon ynglŷn â'r posibilrwydd o drosglwyddo ymbelydredd o'r môr i'r tir, ac ati.
Rydym wedi gwrando'n ofalus fel pwyllgor ac wedi gwrando ar ochr arall y ddadl hefyd. Rhoddodd gwyddonwyr dystiolaeth gan Cefas, sef Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu, a oedd yn gyfrifol am y profion. Clywsom gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd, ac rydym wedi clywed tystiolaeth gan ddatblygwr yr orsaf bŵer, sef EDF. Mae pob un yn honni bod y wyddoniaeth yn gadarn, nad oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw berygl i'r cyhoedd, ac rydym yn sôn am lefelau isel iawn o ymbelydredd naturiol ac ymbelydredd wedi'i greu, fod lefelau ymbelydredd a ganfuwyd yn y gwaddod yn 2009, 2013, 2017 mor isel fel eu bod yn cyfateb i'r hyn nad yw'n ymbelydrol yn llygad y gyfraith, a bod pob gweithdrefn a dderbynnir yn rhyngwladol wedi'i dilyn cyn cyhoeddi'r drwydded garthu.
Felly, beth a wnawn yma heddiw? Wel, cynhaliwyd y profion hyn, dilynwyd y weithdrefn hon heb fod y mwyafrif llethol o bobl yn gwybod am y peth. Pan leisiwyd pryderon—ac fel rwy'n dweud, y tro cyntaf i mi glywed amdano oedd pan gyflwynwyd deiseb i'r Pwyllgor Deisebau, dyna pryd y dechreuais gymryd rhan am y tro cyntaf—yn ddealladwy, roedd llawer iawn o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd. Felly, beth y gellid ac y dylid bod wedi ei wneud ar y pwynt hwnnw?
Gadewch imi fynd â chi i gyfarfod ymchwiliad y Pwyllgor Deisebau gyda Cefas a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ôl ar 9 Ionawr eleni. Dyma drafodaeth rhyngof fi a Dr Kins Leonard, eu pennaeth diogelwch radiolegol. Awgrymais y gallent, mewn ymgynghoriad â'r rhai a wrthwynebai roi'r drwydded, gymryd rhai samplau ychwanegol, gan nodi o ble roeddent yn eu cymryd a dweud yn dryloyw wedyn beth yw'r data o'r mannau newydd hynny. Atebodd Dr Leonard,
Wel, nid oes gennyf wrthwynebiad i'r awgrym hwnnw. Credaf ei fod yn awgrym da iawn. Buaswn yn ychwanegu y byddem yn dilyn yr un weithdrefn yn union er mwyn gwneud hynny.
Ond y byddech yn mynd yn ddyfnach, efallai, awgrymais—gan gyfeirio at y pryder penodol na chafodd y samplau eu cymryd ar ddyfnder digonol. Atebodd yntau,
Wel, os yw hynny'n ofyniad i dawelu canfyddiad y cyhoedd, byddem yn hapus iawn i wneud hynny. Byddem yn dilyn y canllawiau a osodwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol yn y ffordd y byddwn yn ei wneud ac y byddwn yn asesu'r dos. Gallem ei wneud yn fwy tryloyw o ran sut y gwneir yr asesiad hwnnw yn yr adroddiad, a byddem yn barod iawn i gymryd rhan yn hynny os yw'n helpu canfyddiad y cyhoedd.
Wedyn, fe drois at ein tystion eraill, Cyfoeth Naturiol Cymru, a gofyn,
A gaf fi ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru ar hynny? ac atebodd John Wheadon, eu rheolwr gwasanaeth trwyddedu,
Unwaith eto, buaswn yn cefnogi'r ymateb gan Cefas ac fe edrychwn ni ar hynny.
Nawr, rwy'n credu mai'r camau y dylid bod wedi'u rhoi ar waith ar y pwynt hwnnw fyddai cynnal y profion pellach a awgrymais, ar ddyfnder ac mewn ymgynghoriad â phartïon sydd â diddordeb er mwyn ymateb i bryderon y cyhoedd. Mae'r ffaith na ddigwyddodd hynny wedi ein harwain i ble'r ydym heddiw, gyda'r carthu'n digwydd allan yn y môr a dinasyddion pryderus yn gweld Llywodraeth nad yw wedi gwrando arnynt, er i opsiynau gael eu cynnig ar gyfer ceisio lliniaru'r pryderon.
Heddiw, maent yn gweld y Llywodraeth, drwy eu gwelliant, yn dileu'r rhan fwyaf o'r cynnig a gyflwynwyd, gan wrthod cymryd rhan unwaith eto mewn proses y gellid ac y dylid bod wedi'i chynnal fisoedd yn ôl i geisio mwy o dystiolaeth ac i leddfu pryderon. Byddwn yn pleidleisiwn yn erbyn y gwelliant hwnnw. Byddwn hefyd yn pleidleisio yn erbyn yr ail welliant yn ôl cyngor ymgyrchwyr amgylcheddol sy'n nodi bod yna broblem dechnegol ynghlwm wrtho. Mae'n galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond mae ymgyrchwyr yn dweud nad yw cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol yn rhan o waith na chymhwysedd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Wrth gwrs, mae'r ymgyrchwyr am i'r asesiad hwnnw gael ei gynnal. Er bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig yn dweud mewn datganiad ar 29 Medi 2017, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu,
'Dengys y cofnodion bod y ceisiadau i waredu deunydd yn nyfroedd Cymru wedi ystyried yr Asesiad o Effaith Amgylcheddol prosiect Hinkley Point C.' mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod y llysoedd bellach wedi profi y byddai angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ar wahân, gan nad yw'r asesiad cyffredinol o'r effaith amgylcheddol yn cynnwys carthu. Heb asesiad penodol o'r effaith amgylcheddol, maent yn dadlau na allwch wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid caniatáu neu wrthod cais am drwydded.
Lywydd, nid wyf wedi manylu heddiw ar yr egwyddor o sut y gellid dympio unrhyw beth mor hawdd ar dir Cymru neu yn nyfroedd Cymru, ni waeth beth yw'r deunydd hwnnw. Rwyf wedi codi hynny yn y gorffennol, ac efallai y bydd eraill yn gwneud sylwadau ar hynny yn ystod y ddadl. Ond yn anad dim heddiw, mae'r cynnig hwn yn ymwneud â gwrando ar bobl a chydnabod pryderon go iawn. Nid yw hynny wedi digwydd, a gobeithio fy mod wedi gallu tynnu sylw at sut y gallai Llywodraeth sensitif fod wedi ymateb. Mae'r cynnig hwn yn datgan y dylent wneud hynny yn awr drwy atal y drwydded. Mae'r neges yn glir, ac i'r holl Aelodau, gan gynnwys y rhai ar feinciau'r Blaid Lafur, ar feinciau'r Llywodraeth sydd wedi dweud eu bod yn cytuno ac yn cydymdeimlo â phryderon eu hetholwyr: pleidleisiwch dros y cynnig hwn heddiw.