Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 10 Hydref 2018.
Roeddwn am siarad yn y ddadl hon oherwydd bod etholwyr pryderus wedi cysylltu â mi. Rwy'n credu ein bod yn dechrau cynsail beryglus os ydym yn dechrau cwestiynu barn arbenigwyr gwyddonol. Credaf ein bod wedi gweld y broblem honno yn ein gwleidyddiaeth yn ddiweddar ac mae'n dod yn fwyfwy cyffredin. Credaf fod yn rhaid inni dderbyn bod y profion a gynhaliwyd yn 2009, 2013 a 2017 yn iawn i ganfod nad oedd unrhyw risg radiolegol i iechyd pobl neu i'r amgylchedd. Ond wedi dweud hynny—[Torri ar draws.] Fe ildiaf, gwnaf.