Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 10 Hydref 2018.
Gyda phob parch, fe drof at y dystiolaeth arbenigol a roddwyd, fel y'i cyflwynwyd yn y ddadl hon i'r Pwyllgor Deisebau gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Cefas a ddywedodd eu bod yn barod i wneud hynny pe baent yn cael cyfarwyddyd i'w wneud. Rwy'n parchu eich statws yn y sefydliad hwn, Jenny, ond buaswn yn troi at y dystiolaeth arbenigol yma, ac rwy'n credu y dylid cynnal profion. [Cymeradwyaeth.] Rhun ap Iorwerth.