Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 10 Hydref 2018.
Mae'r llinell amser wedi bod yno, Ysgrifennydd y Cabinet. Mater i chi ar y meinciau hynny yw penderfynu a ydych am arwain ar y mater hwn, neu a ydych am gau'r drws ar y pwerau sydd ar gael i chi, ac ymdrin â phryderon ehangach y cyhoedd yn yr oriel a'r cyhoedd o gwmpas arfordir y De. Gallant gael atebion; fe ddylent gael atebion; a dylech chi gyflawni hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Pleidleisiwch dros y cynnig hwn heno. Tynnwch eich gwelliant yn ôl, fel y gallwn wneud cynnydd ar y mater hwn. Mae pobl yn haeddu hynny; gadewch i ni wneud cynnydd. [Cymeradwyaeth.]