10. Dadl ar NDM6813 — Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:57, 10 Hydref 2018

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth yma. Rydw i eisiau jest ategu rhai pwyntiau i gychwyn yr oedd Rhun wedi'u gwneud wrth agor yr araith. Rydw i'n meddwl bod y ffaith bod Cefas a Chyfoeth Naturiol Cymru, y ddau ohonyn nhw, wedi dweud y gallan nhw fod yn gwneud mwy o waith, ac y byddan nhw'n barod i wneud mwy o waith, yn tanlinellu i fi'r ffaith eu bod nhw yn cydnabod bod yna ragor o waith y gellir ei wneud. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn troi ei hwyneb ac yn cadw ei phen i lawr ac yn palu ymlaen, i fi, yn codi cwestiynau gwirioneddol ynglŷn â pharodrwydd y Llywodraeth i wynebu lan i'r realiti bod yna fwy y gellir ei gwneud. Mae'r adwaith cyhoeddus yn dweud y stori. Mae'n dangos bod yna gonsýrn ymhlith pobl, bod yna amheuon a bod yna gwestiynau, a thra bod y cwestiynau yna ddim yn cael eu hateb yn ddigonol, yna fyddwn i'n tybio bod yna ddyletswydd yn rhywle i sicrhau bod y materion yna yn cael eu gwyntyllu yn fwy effeithiol. Wrth gwrs, tra bod yna gwestiynau yn aros, yna ni ddylai'r broses fynd yn ei blaen.

Nawr, rydw i eisiau cyfeirio at ddwy egwyddor benodol—yr egwyddor ragofalus, 'the precautionary principle', a hefyd egwyddor arall lle mae'r llygrydd yn talu, 'the polluter pays'.