10. Dadl ar NDM6813 — Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:18, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn awgrymu bod y canlyniadau wedi'u ffugio. Yr hyn a ddywedodd yr ymgyrchwyr ar hyd yr amser yw nad yw absenoldeb tystiolaeth yn dystiolaeth o absenoldeb, a'r hyn a awgrymais yn y Pwyllgor Deisebau, fel y dywedais, oedd gadewch i ni benderfynu, mewn ymgynghoriad ag ymgyrchwyr, ar set o baramedrau y gellir eu dilyn, gan gynnwys profion—profion gwahanol, efallai—ar ddyfnder, er mwyn dod i gasgliad y bydd pobl yn cytuno arno ar y cychwyn. Mae'n amlwg fod yna ddiffyg hyder, yn hytrach na diffyg ymddiriedaeth, mewn gwyddonwyr unigol. Adeiladu'r hyder hwnnw sydd angen inni ei wneud.