Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 10 Hydref 2018.
Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at lythyr a gefais gan glerc tref Cyngor Tref y Barri. Mewn cyfarfod eithriadol ar 4 Hydref, penderfynodd y cyngor alw ar Lywodraeth Cymru—a dyfynnaf—i gyhoeddi tystiolaeth fanylach mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu i brofion pellach gael eu cynnal er mwyn darparu mwy o dryloywder; yn ail, i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi gweithgarwch gwaredu, i gynnal asesiad llawn o effaith amgylcheddol dympio gwaddod o Hinkley Point yn Cardiff Grounds ar arfordir Cymru ac amgylchedd morol Cymru, ac i roi rhaglen ymgysylltu ac ymgynghori eang ar waith gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.
Cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol, wrth gwrs, yng nghyfarfod Cyngor Tref y Barri. Roeddent yn mynegi pryderon dwys ynglŷn â diogelwch iechyd a monitro dympio mwd o Hinkley Point, ac rwy'n falch o fod wedi cyflawni eu cais i leisio gwrthwynebiadau cryf y cyngor i'r cynlluniau i waredu mwd ger arfordir y Fro.
Rwyf wedi mynegi fy mhryderon ynglŷn â Hinkley Point ar sawl achlysur yn y Siambr hon, ac rwyf am gyfeirio at y pwyntiau a wneuthum yn fwyaf diweddar. Gofynnais gwestiwn ar y datganiad busnes ynglŷn â natur yr asesiad o'r effaith amgylcheddol ar Hinkley Point, o safbwynt pryderon ynglŷn â'r mwd. Ac rwy'n deall fod y prif asesiad o'r effaith amgylcheddol wedi'i gynnal, wrth gwrs, gan Lywodraeth y DU ar gyfer adeiladu'r orsaf. Ond dilynais hyn gyda chais am eglurhad ar ymwneud Llywodraeth Cymru ac ystyriaeth ddilynol o broses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyntiau hynny.
Hefyd, yn ystod dadl y Pwyllgor Deisebau, nodais bryderon ynglŷn â'r hyn a ystyrir yn samplu digonol ar haenau dyfnach o fwd. Felly, yn amlwg, ceir llawer iawn o bryder cyhoeddus, ac rwy'n ymwybodol fod Richard Bramhall o'r Ymgyrch Ymbelydredd Lefel Isel, a chyn aelod o bwyllgor Llywodraeth y DU sy'n archwilio risgiau ymbelydredd allyrwyr mewnol, wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r profion. Felly, mae hwn yn gyfle heddiw i gofnodi'r cwestiynau hynny unwaith eto er mwyn i'r Llywodraeth ymateb iddynt.
Felly, rwy'n cadw at y pwyntiau a wnaed gennyf fi ac eraill yn y Siambr, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw. Rwy'n bryderus ar ran nifer fawr o etholwyr sydd wedi dwyn materion i fy sylw, ac i sylw cyd-Aelodau, rwy'n gwybod, materion sydd wedi dwysáu dros yr wythnos ddiwethaf. Credaf mai'r pwynt yw nad yw pobl wedi'u hargyhoeddi gan y datganiadau a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw'r dystiolaeth hyd yn hyn yn tawelu eu meddyliau, a chredaf fod galwad am fwy nag un ffynhonnell o dystiolaeth a phrofion pellach yn ddealladwy.
Credaf na fyddai gwelliant y Llywodraeth yn ystyrlon, o ran cydnabod y pryderon cyhoeddus eang hyn, oni bai ein bod yn eglur beth fyddai'n digwydd mewn gwirionedd o ganlyniad i gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu rhagor â'r cyhoedd er mwyn egluro'r broses. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i wneud datganiad yn ymrwymo i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu rhagor â'r cyhoedd ynglŷn â'r dystiolaeth a ddarparwyd hyd yn hyn, a dylai hyn gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymo i gyfarfod â'r cyhoedd a chyflwyno tystiolaeth wyddonol. A wnaiff hi gadarnhau y bydd hi'n adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar y camau a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad i'r cyfarwyddyd hwn gan Lywodraeth Cymru a chanlyniad ymgysylltu â'r cyhoedd?
Rwy'n cofio'r ymgysylltiad a gefais fel cynghorydd lleol ag adeiladu morglawdd Bae Caerdydd. O ganlyniad i'r pryderon a'r ymgyrchoedd eang, sicrhawyd mesurau diogelwch newydd gydag ymrwymiadau statudol yn arwain—un enghraifft yn unig—at gynnal arolygon dŵr daear cyn ac ar ôl adeiladu'r morglawdd. Sicrwydd ynglŷn â mesur diogelwch sydd ei angen arnom yma. Rhaid parchu a chydnabod ein hetholwyr a'u pryderon, a hyderaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parchu'r pwyntiau hyn yn ystod ymateb y Llywodraeth i'r ddadl heddiw.