12. Dadl Fer: Casnewydd: economi, seilwaith a chyfleoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:50, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Yn ogystal, mae rhaglen y Cymoedd Technoleg hefyd yn hynod o gyffrous. Yn ddiweddar cyhoeddais £100 miliwn o arian Llywodraeth Cymru dros 10 mlynedd i gefnogi creu mwy na 1,500 o swyddi o ansawdd uchel. I gydnabod pwysigrwydd cynyddol technolegau digidol, rydym yn cynorthwyo nifer o fentrau i helpu cymwysterau technolegol y rhanbarth. Mae ein cefnogaeth i'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd yn enghraifft o'r gwerth a roddwn ar ddiwydiannau gwerth uchel. Mae'r cryfderau yn y sector hwn yn rhanbarth y de-ddwyrain wedi arwain, wrth gwrs, at sefydlu clwstwr cyntaf y byd o led-ddargludyddion cyfansawdd.

Gan aros gyda thema technoleg, mae Cymru hefyd wedi dod yn ganolfan ragoriaeth ym maes diogelwch seiber, gyda rhanbarth de Cymru'n cael ei adnabod fel lleoliad pwysig ar gyfer ymchwil a datblygu a masnacheiddio cynhyrchion a gwasanaethau amddiffyn a diogelwch. Gan gydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gref ar gyfer twf parhaus yr economi, rydym yn cefnogi academi feddalwedd genedlaethol gyntaf y DU. Mae data yn tyfu'n gyflym i fod yn rhan allweddol o'r economi fodern, a bydd yn parhau i hybu arloesedd a thwf economaidd yn y dyfodol y gallwn ei ragweld. Felly, mae'n galonogol gweld nifer sylweddol o fusnesau'n seiliedig ar ddata yn arloesi yn y maes hwn yn ne-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig yn ardal Casnewydd.

Wrth gwrs, mae Casnewydd hefyd yn gartref i nifer sylweddol o gyflogwyr mawr ym maes data a rheoli data—er enghraifft, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Eiddo Deallusol—ac mae'r campws gwyddoniaeth data newydd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer holl sectorau cyhoeddus a phreifat y DU a bydd yn sicr yn helpu i adeiladu enw da Cymru fel arweinydd rhyngwladol yn y maes hwn.

Wedyn, wrth gwrs, mae gennym Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru gwerth £84 miliwn i edrych ymlaen ati, ac mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo'n dda, fel y bydd yr holl Aelodau wedi gweld bellach, rwy'n siŵr. Bydd hwn yn ased enfawr ar gyfer Casnewydd a rhanbarth cyfan de-ddwyrain Cymru, gan ein galluogi i gystadlu ag unrhyw leoliad yn y DU ac Ewrop. Ceir tua 350 o weithwyr adeiladu ar y safle erbyn hyn a byddant yno dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn dod â £50 miliwn amcangyfrifedig i'r economi leol. Hefyd, yn hollbwysig i'r rhanbarth ac i Gymru gyfan yn fy marn i, fe fydd yn helpu i wella'r cynnig i'r economi ymwelwyr, ac o safbwynt lletygarwch yn enwedig, bydd yn helpu i wella ansawdd gwestai a'r ddarpariaeth gwely a brecwast yn y rhanbarth.

Nawr, yn dilyn uwchgynhadledd gyntaf twf Hafren ar 22 Ionawr yng Ngwesty'r Celtic Manor, lle'r oedd David Rosser, ein prif swyddog rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru, yn siarad, arweiniais drafodaeth ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru gydag arweinwyr busnes a dinesig o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, ac yn hollbwysig hefyd, gyda gorllewin Lloegr, i fesur yr awydd i gydweithio mwy ar y ddwy ochr i'r ffin. Rwy'n glir y gall y ddau ranbarth elwa o gysylltiadau economaidd agosach, ac y bydd creu'r pwerdy gorllewinol o gwmpas aber afon Hafren yn cyflwyno cynnig grymus ar gyfer denu mwy o fuddsoddiad, naill ai gan Lywodraeth y DU neu gan fuddsoddwyr tramor. Ac rwyf wedi gofyn i'r prif swyddog rhanbarthol arwain y gwaith hwn gyda chymheiriaid yn rhanbarth Bryste i archwilio sut y gellir bwrw ymlaen â hyn.

Buaswn yn croesawu adeiladu cartrefi newydd ychwanegol, a bydd y cyhoeddiad y bydd tollau afon Hafren yn cael eu diddymu ar 17 Rhagfyr hefyd yn hybu cysylltedd economaidd yn y rhanbarth. Rydym yn gwybod bod y ffigur, o ran y budd i Gymru, oddeutu £100 miliwn y flwyddyn, ac mewn perthynas ag adeiladu tai, er y buaswn yn croesawu adeiladu cartrefi newydd, buaswn yn dweud ei bod hi'n gwbl hanfodol fod y cartrefi hynny'n cael eu hadeiladu ar gyfer pobl a fyddai fel arall, efallai, yn cael eu gorfodi i adael y gymuned y maent wedi tyfu i fyny ynddi oherwydd prinder stoc tai, ac felly'n bris rhy uchel i'w dalu am eiddo sy'n bodoli'n barod.

O ran cysylltedd rheilffordd, rwyf wedi bod yn glir iawn yn fy ngohebiaeth a fy ymgysylltiad â Llywodraeth y DU fod angen inni weld amseroedd teithio rhwng de Cymru a Llundain a rhannau eraill o dde Lloegr yn lleihau, nid drwy gau gwasanaethau ar hyd ochr Cymru i'r brif reilffordd, ond ar ochr Lloegr. Credwn y gellid arbed amser drwy beidio ag aros mewn rhai mannau penodol. Ond mae'n ffaith drist, o ganlyniad i flynyddoedd o danfuddsoddi a chanslo trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe, nad yw hi bellach yn bosibl cyrraedd Llundain mewn amser cyflymach nag y byddai wedi'i gymryd 41 mlynedd yn ôl. Er efallai ein bod yn mynd i weld trydaneiddio i Gaerdydd, mae'n gwbl amlwg fod yn rhaid i drydaneiddio pellach, neu waith adfer i sicrhau bod amseroedd yn gwella, ddigwydd yn gyflym iawn.

Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi cyfarfod â Tim Bowles hefyd ar nifer o achlysuron. Rwy'n credu bod gennym berthynas waith gref iawn. Mae wedi ymweld â'r fan hon, mae wedi eistedd yn fy swyddfa ac rydym wedi rhannu ein safbwyntiau, sy'n hynod o debyg ar gydweithio trawsffiniol. Yn yr un modd, mae gennyf gysylltiadau tebyg â meiri metro yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac rwy'n gobeithio datblygu perthynas gadarnhaol debyg gyda'r maer metro yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Rwy'n credu'n gryf ac yn angerddol mewn cydweithio trawsffiniol. Gwn fod rhai yn y Siambr hon, er nad ydynt yn bresennol yma bellach, yn gwrthwynebu'n chwyrn ac yn llafar unrhyw gydweithio gyda'n partneriaid ar draws y ffin. Ond beth y mae'n ei ddweud am ein gwlad, fel gwlad ryngwladolaidd sy'n edrych tuag allan, os ydym yn dweud wrth ein cymdogion dros y ffin nad ydym eisiau gweithio gyda hwy?

Rwy'n hapus i ildio.