– Senedd Cymru am 5:38 pm ar 10 Hydref 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os yw'r Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?
Felly, symudwn ymlaen at y ddadl fer, a galwaf ar Mark Reckless i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Mark.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet am hwyluso'r ddadl hon.
Ar 17 Rhagfyr, bydd tollau ar bontydd Hafren yn cael eu diddymu. Bydd chwyldro'n digwydd i ddaearyddiaeth economaidd de Cymru a gorllewin Lloegr. Nid oes unman mewn sefyllfa well i elwa arno na Chasnewydd. Ac nid rhoi diwedd ar y tollau yw'r unig newid i'n seilwaith a fydd yn hybu Casnewydd. Dylai trydaneiddio'r rheilffordd o Lundain i Gaerdydd olygu bod trenau o Gasnewydd yn cyrraedd Paddington Llundain mewn awr a 35 munud. Gyda CrossRail, bydd hynny'n golygu y gallwch adael Casnewydd a bod yn Canary Wharf o dan ddwy awr.
Ac yna, wrth gwrs, mae'r M4. Addawodd maniffesto'r Blaid Lafur, a dyfynnaf,
'Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4,' ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi hyrwyddo'r ffordd honno drwy ymchwiliad cyhoeddus ers hynny. Felly, tair gwobr fawr a addawyd ar gyfer Casnewydd, de Cymru a thu hwnt; a gânt eu cyflawni?
Ar y tollau, ydynt, maent yn mynd. Yn wahanol i rai prosiectau eraill, yn arbennig ail groesfan Dartford, mae'r addewid a wnaed ac y deddfwyd ar ei gyfer yn 1992, y byddai tollau i ariannu ail bont Hafren yn rhai dros dro, yn mynd i gael ei gadw. Ac o edrych ar y farchnad dai yng Nghasnewydd a Sir Fynwy, mae'r sector preifat yn ymateb. Drwy Cymorth i Brynu—Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith sylweddol ar adeiladu cartrefi newydd. Yn wir, ers mis Ebrill 2016, mae 20 y cant cyfan o waith adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru a gefnogir drwy Cymorth i Brynu wedi bod yng Nghasnewydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau fod Llywodraeth Cymru'n croesawu adeiladu tai ar y raddfa hon, wedi'i gefnogi gan ddiddymu tollau'r Hafren? Y rheswm rwy'n gofyn yw nad yw pob llais, gan gynnwys rhai o fewn ei blaid ei hun, i'w weld yn ei groesawu—[Torri ar draws.] O fewn y Blaid Lafur—plaid Ysgrifennydd y Cabinet, a'ch plaid chi yn wir. Cwynodd rhai y byddai diddymu'r tollau yn golygu mwy o dagfeydd; dywedodd eraill y byddai pobl sy'n symud yma o Fryste yn gwneud dim ond codi prisiau tai ac o ddim budd i Gymru. Wrth gwrs, un ffordd o liniaru unrhyw gynnydd mewn prisiau tai yw adeiladu mwy o gartrefi ac ar sail yr ystadegau Cymorth i Brynu o leiaf, mae Casnewydd wedi bod yn adeiladu 10 gwaith yn fwy o gartrefi na Sir Fynwy, lle mae'r cynnydd yn y prisiau wedi bod yn fwy.
Ymhellach, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod mai gwerthoedd preswyl cynyddol a fydd yn rhyddhau llawer mwy o safleoedd yng Nghasnewydd ac yn helpu adeiladwyr tai i dalu tuag at seilwaith, cytundebau adran 106 a thai fforddiadwy? Buaswn yn pwysleisio nad cynyddu swm a dewis y tai sydd ar gael yn unig y mae adeiladu tai yn ei wneud; mae hefyd yn hybu twf economaidd, yn creu swyddi ac yn cynhyrchu refeniw treth.
Bellach mae'r dreth trafodiadau tir wedi'i datganoli, a bydd cyfran dda o'r dreth incwm hefyd o fis Ebrill ymlaen. Os yw Casnewydd yn gallu denu mwy o bobl sy'n gweithio ym Mryste ar gyflogau da, bydd Casnewydd a Llywodraeth Cymru yn elwa. Bydd niferoedd uwch o weithwyr proffesiynol yn byw yng nghanol y ddinas hefyd yn hybu'r galw am adfywio economïau nos, manwerthu a hamdden yng Nghasnewydd. Byddai hynny, wrth gwrs, yn cael ei gefnogi hefyd gan fwy o weithredu i wella gwasanaethau strydoedd, yn enwedig palmentydd a ffryntiadau siopau. Hefyd mae angen i'r cyngor a'r heddlu gryfhau eu hymdrechion i gadw pobl yn ddiogel yng nghanol y ddinas, yn enwedig yn ystod y nos. Dylwn gydnabod hefyd fy mod wedi cytuno i roi munud o fy amser i Jayne Bryant yn nes ymlaen, ac edrychaf ymlaen at glywed ei barn ar rai o'r materion hyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod gennych uchelgais y dylem allu teithio rhwng Caerdydd Canolog a Temple Meads Bryste mewn hanner awr yn unig. A allech egluro a yw hynny'n caniatáu ar gyfer aros yng Nghasnewydd? A allech hefyd esbonio beth fydd effaith debygol y newidiadau yng nghynlluniau Network Rail ar gyfer trydaneiddio? Rydym yn clywed llawer iawn, ac yn briodol felly, am y siom a achoswyd gan ganslo trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe. A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa effaith y bydd newid y cynlluniau ar gyfer trydaneiddio, yn dilyn y cynnydd sydyn mewn costau o gymharu â'r hyn a ddisgwylid pan gytunwyd ar y trydaneiddio'n wreiddiol—y newidiadau rhwng y brif reilffordd a Temple Meads Bryste—pa effaith fydd y rheini'n ei chael ar ein huchelgais i wella'r cysylltedd rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste?
Hefyd, beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud wrthym am yr oedi i'r newidiadau mawr sydd eu hangen i'r amserlen cyn y gallwn elwa ar amseroedd teithio cyflymach i Lundain o dde Cymru? A oes angen dull cwbl newydd hefyd o drefnu gwasanaethau aros ar hyd prif reilffordd de Cymru? Mae'r defnydd o orsaf Cyffordd Twnnel Hafren wedi cynyddu bedair gwaith. Mae gennym fuddsoddiad sydd i'w groesawu'n fawr o £50 miliwn ar gyfer gorsaf newydd yn Llanwern. Rwyf hefyd yn ddiolchgar fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn gadarnhaol wrth gyfarfod ag ymgyrchwyr dros orsaf rodfa newydd ym Magwyr a Gwndy. Yn rhyfeddol, efallai ein bod hefyd ar fin gweld gorsaf drên newydd a ariennir yn breifat yn Llaneirwg, a allai fod yn barcffordd ar gyfer Caerdydd. Byddai'n cadw llawer o filoedd o geir allan o Gaerdydd, ond mae'n sicr y byddai hefyd yn galw am batrwm gwasanaeth cwbl newydd ar hyd prif reilffordd de Cymru, ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd. A yw uchelgais Llywodraeth Cymru yn cyfateb i'r cyfle sydd ar gael?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych gyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd yng Nghymru, ond mae Casnewydd angen ichi i lywio cyfrifoldebau ac atebolrwydd newidiol ar yr ochr arall i afon Hafren hefyd er mwyn cefnogi datblygiad economaidd trawsffiniol. Yn ogystal â Marvin Rees, maer etholedig Bryste, bellach mae gennym Tim Bowles, a etholwyd yn faer ar Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr, gyda phwerau sylweddol sy'n berthnasol i'ch portffolio yma. Mae Maer Bowles wedi rhoi llawer iawn o bwyslais ar gysylltiadau â de Cymru, ac mae'n dweud bod ei ranbarth yn edrych tuag at Lundain a de-ddwyrain Lloegr fel yr ardal economaidd gryfaf yn y DU, ond mae gorllewin Lloegr hefyd yn cynhyrchu gwerth ychwanegol gros cadarnhaol, ac mae'n credu fod ganddo lawer yn gyffredin â ni yn ne Cymru wrth edrych ar wella'r cysylltiad hwnnw a sicrhau bod mwy o'r ffyniant economaidd hwnnw'n dod ymhellach i'r gorllewin er budd ein pobl. Pan gyfarfûm â Maer Bowles, y mis diwethaf, roedd yn awyddus i weithio'n agosach gyda chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â dinas-ranbarth Caerdydd. Y tu hwnt i ddatblygiad preswyl, mae'n gweld cyfleoedd mawr i ni yng Nghasnewydd a thu hwnt i fanteisio ar brosiectau gweithgynhyrchu a masnachol hefyd o orllewin Lloegr, lle mae argaeledd safleoedd yn fwy cyfyngedig. Yn ddiweddar cyhoeddodd yr ynysoedd hyn ddarn gan Nicolas Webb ar y cyfleoedd a'r heriau i ranbarth yr Hafren. Mae'n dweud,
Byddai cynllunio ar gyfer dyfodol economaidd de-ddwyrain Cymru heb dalu sylw i lwyddiant economaidd Bryste yn debyg i Connecticut yn anwybyddu presenoldeb Dinas Efrog Newydd, a'i bod yn afresymol gweld cymudo o Gasnewydd i Fryste fel bygythiad i'r economi leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno?
Mae cyflogaeth yng Nghaerdydd yn canolbwyntio fwyfwy ar y canol, sy'n cael ei wasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyflogaeth yng Nghasnewydd yn fwy dibynnol ar barciau busnes oddi ar yr M4, wedi'u hatgyfnerthu gan fuddsoddiad i'w groesawu mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r parc gwyddoniaeth data a gefnogir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae angen i draffig lifo ar yr M4. Er y bydd ffordd liniaru'r M4 o fudd uniongyrchol i Gasnewydd, drwy ei chyffyrdd ger Llanwern a'r dociau a thrwy gynnig llwybr cynt, y fantais fwyaf i Gasnewydd fyddai lleihau tagfeydd ar yr M4 bresennol. Byddai hynny'n golygu mynediad haws at gyflogaeth. Byddai hefyd yn golygu ansawdd aer gwell.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn mynd i gadw eich addewid maniffesto: 'Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4'? Rwy'n deall bod cyfraith cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog wneud penderfyniad cynllunio ar sail yr adroddiad o'r ymchwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag, a yw hyn bellach i'w ddilyn gan, ac yn amodol ar, benderfyniad pellach a neilltuol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a ddylid cyflawni'r prosiect mewn gwirionedd, er ei fod yn ymrwymiad maniffesto? Ysgrifennydd Cabinet, a all pleidleiswyr yng Nghasnewydd ddibynnu ar yr hyn yr addawoch chi iddynt yn eich maniffesto? A wnewch chi gefnogi economi Casnewydd gyda'r seilwaith sydd ei angen arni i wneud y gorau o'i chyfleoedd?
Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am ganiatáu munud imi yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch o siarad heddiw fel rhywun sy'n hanu o Gasnewydd. Mae gan Gasnewydd ddiwylliant a hanes cyfoethog ac mae mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd yn y dyfodol. Roedd hi'n bleser croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i uwchgynhadledd fusnes a gynhaliais yn y Celtic Manor yn fy etholaeth ym mis Ebrill. Mynychodd cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o fusnesau lleol llwyddiannus—bach a mawr—y digwyddiad a edrychai dros y ganolfan gynadledda ryngwladol gyffrous sydd i agor y flwyddyn nesaf.
Mae arloesedd yn y sector preifat a chymorth gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi hwb sylweddol i'r economi leol. Mae busnesau sefydledig fel GoCompare, Airbus, Tata Steel a Chanolfan Ganser Rutherford De Cymru oll wedi dewis lleoli yng Nghasnewydd. Mae gennym y Swyddfa Eiddo Deallusol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'u campws gwyddoniaeth data rhagorol. Mae'r economi newydd yn dibynnu'n fawr ar fynediad at fand eang cyflym iawn, a nodaf, hyd yma, fod rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 miliwn ar draws y ddinas, gan hwyluso mwy o gysylltedd i filoedd o gartrefi a busnesau.
Casnewydd yw'r porth i Gymru, a bydd diddymu tollau pont Hafren ym mis Rhagfyr yn dod â chyfleoedd mawr i'r ddinas. Eto i gyd, fel gyda phob cyfle, ceir heriau ac ni allwn anwybyddu problem tagfeydd, a rhaid mynd i'r afael â hyn. Mae Casnewydd yn lle gwych i fyw ynddo a gwyddom fod mwy a mwy o bobl yn dewis gwneud eu cartref yn y ddinas hon. Law yn llaw â hynny, daw'r her o sicrhau bod gennym y seilwaith iawn i gefnogi twf.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am wneud pwyntiau pwysig iawn.
Rwy'n hynod o falch o'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud i gefnogi twf economaidd, gwella seilwaith a pharatoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol yn ne-ddwyrain Cymru, ac yng Nghasnewydd yn enwedig. Er enghraifft, dros 20 mlynedd ei hoes, disgwylir i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd sy'n werth £1.2 biliwn ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd a sbarduno £4 biliwn o fuddsoddiad sector preifat ychwanegol. Gyda £734 miliwn o fuddsoddiad wedi'i gynllunio, mae'r fargen £1.2 biliwn yn gosod metro de Cymru yng nghanol rhaglen seilwaith sylweddol.
Yn ogystal, mae rhaglen y Cymoedd Technoleg hefyd yn hynod o gyffrous. Yn ddiweddar cyhoeddais £100 miliwn o arian Llywodraeth Cymru dros 10 mlynedd i gefnogi creu mwy na 1,500 o swyddi o ansawdd uchel. I gydnabod pwysigrwydd cynyddol technolegau digidol, rydym yn cynorthwyo nifer o fentrau i helpu cymwysterau technolegol y rhanbarth. Mae ein cefnogaeth i'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd yn enghraifft o'r gwerth a roddwn ar ddiwydiannau gwerth uchel. Mae'r cryfderau yn y sector hwn yn rhanbarth y de-ddwyrain wedi arwain, wrth gwrs, at sefydlu clwstwr cyntaf y byd o led-ddargludyddion cyfansawdd.
Gan aros gyda thema technoleg, mae Cymru hefyd wedi dod yn ganolfan ragoriaeth ym maes diogelwch seiber, gyda rhanbarth de Cymru'n cael ei adnabod fel lleoliad pwysig ar gyfer ymchwil a datblygu a masnacheiddio cynhyrchion a gwasanaethau amddiffyn a diogelwch. Gan gydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gref ar gyfer twf parhaus yr economi, rydym yn cefnogi academi feddalwedd genedlaethol gyntaf y DU. Mae data yn tyfu'n gyflym i fod yn rhan allweddol o'r economi fodern, a bydd yn parhau i hybu arloesedd a thwf economaidd yn y dyfodol y gallwn ei ragweld. Felly, mae'n galonogol gweld nifer sylweddol o fusnesau'n seiliedig ar ddata yn arloesi yn y maes hwn yn ne-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig yn ardal Casnewydd.
Wrth gwrs, mae Casnewydd hefyd yn gartref i nifer sylweddol o gyflogwyr mawr ym maes data a rheoli data—er enghraifft, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Eiddo Deallusol—ac mae'r campws gwyddoniaeth data newydd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer holl sectorau cyhoeddus a phreifat y DU a bydd yn sicr yn helpu i adeiladu enw da Cymru fel arweinydd rhyngwladol yn y maes hwn.
Wedyn, wrth gwrs, mae gennym Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru gwerth £84 miliwn i edrych ymlaen ati, ac mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo'n dda, fel y bydd yr holl Aelodau wedi gweld bellach, rwy'n siŵr. Bydd hwn yn ased enfawr ar gyfer Casnewydd a rhanbarth cyfan de-ddwyrain Cymru, gan ein galluogi i gystadlu ag unrhyw leoliad yn y DU ac Ewrop. Ceir tua 350 o weithwyr adeiladu ar y safle erbyn hyn a byddant yno dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn dod â £50 miliwn amcangyfrifedig i'r economi leol. Hefyd, yn hollbwysig i'r rhanbarth ac i Gymru gyfan yn fy marn i, fe fydd yn helpu i wella'r cynnig i'r economi ymwelwyr, ac o safbwynt lletygarwch yn enwedig, bydd yn helpu i wella ansawdd gwestai a'r ddarpariaeth gwely a brecwast yn y rhanbarth.
Nawr, yn dilyn uwchgynhadledd gyntaf twf Hafren ar 22 Ionawr yng Ngwesty'r Celtic Manor, lle'r oedd David Rosser, ein prif swyddog rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru, yn siarad, arweiniais drafodaeth ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru gydag arweinwyr busnes a dinesig o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, ac yn hollbwysig hefyd, gyda gorllewin Lloegr, i fesur yr awydd i gydweithio mwy ar y ddwy ochr i'r ffin. Rwy'n glir y gall y ddau ranbarth elwa o gysylltiadau economaidd agosach, ac y bydd creu'r pwerdy gorllewinol o gwmpas aber afon Hafren yn cyflwyno cynnig grymus ar gyfer denu mwy o fuddsoddiad, naill ai gan Lywodraeth y DU neu gan fuddsoddwyr tramor. Ac rwyf wedi gofyn i'r prif swyddog rhanbarthol arwain y gwaith hwn gyda chymheiriaid yn rhanbarth Bryste i archwilio sut y gellir bwrw ymlaen â hyn.
Buaswn yn croesawu adeiladu cartrefi newydd ychwanegol, a bydd y cyhoeddiad y bydd tollau afon Hafren yn cael eu diddymu ar 17 Rhagfyr hefyd yn hybu cysylltedd economaidd yn y rhanbarth. Rydym yn gwybod bod y ffigur, o ran y budd i Gymru, oddeutu £100 miliwn y flwyddyn, ac mewn perthynas ag adeiladu tai, er y buaswn yn croesawu adeiladu cartrefi newydd, buaswn yn dweud ei bod hi'n gwbl hanfodol fod y cartrefi hynny'n cael eu hadeiladu ar gyfer pobl a fyddai fel arall, efallai, yn cael eu gorfodi i adael y gymuned y maent wedi tyfu i fyny ynddi oherwydd prinder stoc tai, ac felly'n bris rhy uchel i'w dalu am eiddo sy'n bodoli'n barod.
O ran cysylltedd rheilffordd, rwyf wedi bod yn glir iawn yn fy ngohebiaeth a fy ymgysylltiad â Llywodraeth y DU fod angen inni weld amseroedd teithio rhwng de Cymru a Llundain a rhannau eraill o dde Lloegr yn lleihau, nid drwy gau gwasanaethau ar hyd ochr Cymru i'r brif reilffordd, ond ar ochr Lloegr. Credwn y gellid arbed amser drwy beidio ag aros mewn rhai mannau penodol. Ond mae'n ffaith drist, o ganlyniad i flynyddoedd o danfuddsoddi a chanslo trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe, nad yw hi bellach yn bosibl cyrraedd Llundain mewn amser cyflymach nag y byddai wedi'i gymryd 41 mlynedd yn ôl. Er efallai ein bod yn mynd i weld trydaneiddio i Gaerdydd, mae'n gwbl amlwg fod yn rhaid i drydaneiddio pellach, neu waith adfer i sicrhau bod amseroedd yn gwella, ddigwydd yn gyflym iawn.
Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi cyfarfod â Tim Bowles hefyd ar nifer o achlysuron. Rwy'n credu bod gennym berthynas waith gref iawn. Mae wedi ymweld â'r fan hon, mae wedi eistedd yn fy swyddfa ac rydym wedi rhannu ein safbwyntiau, sy'n hynod o debyg ar gydweithio trawsffiniol. Yn yr un modd, mae gennyf gysylltiadau tebyg â meiri metro yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac rwy'n gobeithio datblygu perthynas gadarnhaol debyg gyda'r maer metro yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Rwy'n credu'n gryf ac yn angerddol mewn cydweithio trawsffiniol. Gwn fod rhai yn y Siambr hon, er nad ydynt yn bresennol yma bellach, yn gwrthwynebu'n chwyrn ac yn llafar unrhyw gydweithio gyda'n partneriaid ar draws y ffin. Ond beth y mae'n ei ddweud am ein gwlad, fel gwlad ryngwladolaidd sy'n edrych tuag allan, os ydym yn dweud wrth ein cymdogion dros y ffin nad ydym eisiau gweithio gyda hwy?
Rwy'n hapus i ildio.
Fe wyddoch beth rwy'n mynd i'w grybwyll, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fy mod wedi sôn amdano'n gynharach gyda'r Ysgrifennydd cyllid, ac rwyf wedi gwneud hynny gyda chi o'r blaen, sef ffordd osgoi Cas-gwent. Mae honno'n enghraifft o ble mae cydweithrediad trawsffiniol yn gwbl hanfodol. Felly, gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen â hynny, oherwydd os gallwn ddatrys problemau'r tagfeydd yng Nghas-Gwent a bod mwy o gapasiti yno, byddai mwy o gapasiti ar yr M4 yn ogystal.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr, a thrwy weithio'n agos gyda'n gilydd a chysoni blaenoriaethau ar y ddwy ochr i'r ffin, gallai ffordd osgoi Cas-gwent fod yn enghraifft wych o sut y gallwn ddarparu ar gyfer y bobl y mae pawb ohonom am weld eu cyfleoedd bywyd yn gwella. Ac mae enghraifft arall yn agosach i fy nghartref gyda'r gwaith y bûm yn ei wneud gyda chymheiriaid dros y ffin, gydag Owen Paterson a Chyngor Swydd Amwythig a Highways England, yn edrych ar sut y gallwn wella llif y traffig ar hyd yr A5 drwy ddefnyddio ein buddsoddiad ar ochr Cymru, ac annog a gobeithio bod Highways England yn buddsoddi yn yr un modd ar ochr Lloegr. Ond fel y dywedaf, rwy'n credu'n gryf mewn cydweithrediad trawsffiniol, a gweithio gyda'n partneriaid nid yn unig yn Lloegr ond yn yr Alban hefyd wrth gwrs ac yn Iwerddon a thu hwnt. Rwy'n credu'n gryf, Ddirprwy Lywydd, na allwn byth ganiatáu i'r wleidyddiaeth gasineb sy'n gyrru cenedlaetholdeb fygu partneriaeth neu gydweithredu neu undod neu'n wir, ein ffyniant.
Ac o ran yr ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd i'r M4—. [Torri ar draws.] O ran yr ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd i'r M4, wel, mae hwnnw bellach wedi'i gwblhau. Nid wyf yn meddwl fy mod i erioed wedi cael cymaint o fonllef oddi ar feinciau'r wrthblaid. [Chwerthin.] Rydych yn garedig iawn.
Mae'r ymchwiliad cyhoeddus bellach wedi dod i ben ac mae adroddiad yr arolygydd wedi'i dderbyn gan swyddogion sy'n cyflawni'r diwydrwydd dyladwy angenrheidiol wrth gwrs. Nid wyf eto wedi gweld yr adroddiad. Tra bo swyddogion yn cyflawni'r ymarfer diwydrwydd dyladwy hwnnw, ni fyddaf yn gweld yr adroddiad hwnnw. Ond ar ôl cael eu cyngor, gellir gwneud y penderfyniad ar y gorchmynion—y penderfyniad cynllunio i bob pwrpas—a bydd y penderfyniad hwnnw ac adroddiad yr arolygydd ar gael wedyn i'r holl Aelodau yn y Siambr hon.
Iawn.
Efallai eich bod yn dod at hyn, Weinidog, ond a allwch egluro? Yn ôl fy nghyfrif i, rwy'n credu bod gennym oddeutu saith wythnos o'r tymor ar ôl, a phythefnos yr ochr hon i hanner tymor. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn gwneud y cyhoeddiad ac mae'n camu i lawr yn yr wythnos olaf, felly mae hynny'n gadael pum wythnos yr ochr arall i hanner tymor. Felly, mae yna saith wythnos seneddol yn weddill. Beth yw barn y Llywodraeth ynglŷn â pha bryd y byddant yn dod â'r penderfyniad hwnnw i'r Siambr, oherwydd rwy'n gobeithio mai drwy'r Siambr hon y gwneir y cyhoeddiad hwnnw, nid rhyw fath o gyhoeddiad yn y wasg?
Ac roeddwn ar fin dweud, mewn gwirionedd, y bydd penderfyniad ar adroddiad yr arolygydd ar gael i'r Aelodau wedyn cyn cael dadl a phleidlais ar y mater yn y Siambr, cyn y gwneir penderfyniadau terfynol ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu. Ond mae ein safbwynt yn glir iawn ac yn parhau i fod yn gyson â'r addewid yn ein maniffesto.
Wrth gwrs, rydym wedi arwain ar lawer mwy o brosiectau gweddnewidiol, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld y buddsoddiad gan CAF yn ardal Casnewydd, gan ddod â gwaith cydosod trenau amhrisiadwy i mewn. Mae wedi ein galluogi i ddenu mwy o ddiddordeb yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y cyhoeddiad ddoe ddiwethaf gan TALGO fod gogledd Cymru ar y rhestr fer fel safle posibl ar gyfer creu 1,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel, yn cynhyrchu rhai o drenau cyflym gorau'r byd. O ddechrau yn y dechrau, mae Cymru bellach wedi cael enw neilltuol o dda fel ardal sy'n arbenigo ar weithgynhyrchu trenau.
Ond wrth gwrs, yn olaf, rydym yn wynebu her Brexit, a pha her fwy y gall neb ohonom ei hwynebu na'n hymadawiad â'r UE? Yng Nghasnewydd, dinas sydd ag economi weithgynhyrchu mor gryf a lle mae llawer o fusnesau'n rhan o gadwyni cyflenwi cymhleth iawn a rhwydweithiau sy'n ymestyn ledled Ewrop, rwy'n credu bod y realiti hwnnw'n hysbys iawn. Felly, er gwaethaf argyhoeddiad cryf fod yn rhaid taro bargen, rwy'n credu ei bod hi lawn mor bwysig inni ddweud bod gennym gyfrifoldeb i baratoi ar gyfer ein hymadawiad â'r UE. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn ymwneud yn sylfaenol â'n heconomi. Mae'n ystyried posibiliadau yn y negodiadau Brexit ac fe'i cynlluniwyd i ateb heriau heddiw, ond lawn cymaint hefyd, i harneisio cyfleoedd yfory.
Nawr, hyderaf fod y ddadl hon wedi dangos, gyda'r holl bethau rydym yn eu gwneud fel Llywodraeth yng Nghasnewydd, yn ogystal ag ar draws Cymru gyfan, fod yna achos dros optimistiaeth a hyder yn y ddinas ac yn y rhanbarth yn awr ac yn y dyfodol. Rwy'n arbennig o falch hefyd fod yna gonsensws trawsbleidiol fod ein ffyniant yn y dyfodol yn dibynnu ar gydweithredu trawsffiniol cadarn.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.