Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw. Arweinydd y tŷ, mae'n galonogol gweld fod Cymru eisoes yn dod yn arweinydd ym maes arloesi digidol drwy fentrau fel y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn fy etholaeth, Dwyrain De Cymru. Yn ddi-os, bydd technoleg y bumed genhedlaeth yn ysgogi technolegau newydd, a fydd yn cefnogi ac yn cyflymu cyfleoedd digidol ehangach ledled Cymru. Pa gynlluniau pellach y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i fanteisio ar y dechnoleg newydd hanfodol hon?