2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 10 Hydref 2018.
Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf y prynhawn yma ar gyfer arweinydd y tŷ, llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch and prynhawn da.
Mae eich cyfrifoldebau, fel y gwyddoch, yn cynnwys diogelu'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau—
[Anghlywadwy.]—dechrau hynny. Mae'n ddrwg iawn gennyf, Mark Isherwood, ni chlywais beth y dechreuoch chi ei ddweud. Tybed a fyddech mor garedig â'i ailadrodd.
Fe wnaf ei ailadrodd. Fe siaradaf ychydig yn arafach. Mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys cydraddoldeb, diogelu'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau feddwl ymlaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau i bobl anabl, ac yn dweud na ddylech aros hyd nes y bydd unigolyn anabl yn wynebu anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaeth.
Ymgorfforwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl gan Lywodraeth Cymru yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Rhan 2: cod ymarfer, a ddywedai fod
'Rhaid i awdurdodau lleol geisio grymuso pobl i gynhyrchu atebion arloesol' drwy rwydweithiau lleol a chymunedau, a bod hyn
'yn golygu rhoi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyfraniad pobl at gynllunio a gweithredu gwasanaethau.'
Nawr, rwyf wedi codi'r cwestiwn hwn gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru sawl tro: pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryder, y gofid a'r difrod cynyddol a achosir pan fo asiantaethau cyhoeddus iawn yn methu cyflawni'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau hynny? Rhoddaf ychydig o enghreifftiau i chi. Soniais ychydig wythnosau yn ôl fod Sir y Fflint wedi rhoi eu contract ar gyfer gwasanaethau cymorth anabledd i asiantaethau allanol, nid yr FDF Centre for Independent Living, yr asiantaeth y mae'r gymuned anabledd leol yn dibynnu arni, a dywedasant wrthyf yn eu cyfarfod blynyddol na fuont yn rhan o'r penderfyniad. Y newyddion heddiw o Wrecsam, y bydd nifer o fusnesau cymdeithasol sy'n darparu gwaith ar gyfer pobl anabl yn cau, ond heb unrhyw gyfeiriad o gwbl at gynllunio a darparu gyda'r cymunedau yr effeithir arnynt. Gwyddom am y gymuned fyddar yng Nghonwy yn gorfod mynd at ombwdsmyn ar ôl i'w gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain gael eu diddymu. Ac wrth gwrs, pryder yng Nghaerdydd fod Autism Spectrum Connections Cymru wedi gorfod cael gwared ar wasanaethau o'u siop un stop, er bod y gymuned awtistiaeth leol yn dweud nad ymgynghorwyd â hwy a'u bod yn dibynnu'n llwyr ar y gwasanaethau hynny. Felly, o ystyried eich cyfrifoldebau yn y meysydd hyn, sut y byddwch yn sicrhau yn awr fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i gynorthwyo'r awdurdodau lleol hyn i ddeall yn well beth sy'n rhaid iddynt ei wneud, a hefyd sut y bydd hynny nid yn unig o fudd i bobl anabl, ond hefyd, yn y pen draw, yn arbed arian iddynt hwy ac yn eu cynorthwyo i reoli eu cyllidebau'n well?
Nid wyf yn ymwybodol o holl fanylion rhai o'r enghreifftiau hynny, a buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai Mark Isherwood mor garedig â'u trosglwyddo i mi; rwy'n ymwybodol o rai ohonynt. Mae gennyf dri pheth i'w ddweud am hynny. Pan fo rhywun wedi ymrwymo i'r cod ymarfer caffael moesegol, dylent gydymffurfio ag ef, a byddaf yn codi hynny gyda'r awdurdodau lleol dan sylw lle nad ydynt yn cydymffurfio â'r cod. Nid mater i'r Llywodraeth yw sut yn union y maent yn cyflawni'r caffael, cyhyd â'u bod yn gwneud hynny'n unol â'r canllawiau. A byddwn yn cyhoeddi set newydd o ganllawiau—camau gweithredu ar anabledd—tuag at ddiwedd mis Tachwedd, yn sicr cyn diwedd tymor y Nadolig, a byddant yn mynd i'r afael â rhai o'r materion y mae'n eu codi, o ran dyletswyddau awdurdodau lleol a gorfodaeth. Cawsant eu datblygu i raddau helaeth drwy ymgynghori â chymunedau anabledd ledled Cymru. Bydd yn cael ei gyflwyno fel ymgynghoriad, a gobeithiaf yn fawr y byddwn yn gallu dod i gasgliad, ochr yn ochr â'n dinasyddion anabl, sy'n addas i'w hanghenion. A dyna'r ffordd rydym wedi ei gynllunio, er mwyn hwyluso'r pethau hynny.
Diolch. Wel, gobeithiaf y bydd hynny'n helpu awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gael gwell dealltwriaeth o sut i gysoni eu rhwymedigaethau caffael â'u rhwymedigaethau i gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl leol, oherwydd mae'r ddau beth yn gwrthdaro.
Unwaith eto, gan nodi eich cyfrifoldebau, fe wyddoch fod yna uchelgais yng nghynllun 'Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' Llywodraeth Cymru i ddod ag iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol at ei gilydd, fel eu bod yn cael eu cynllunio a'u darparu o amgylch anghenion a dewisiadau unigolion. Ac mae Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud,
Efallai y bydd angen i ni newid y ffordd rydym yn talu am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Unwaith eto, gan nodi eich cyfrifoldebau, sut rydych chi'n ymateb i'r pryder cynyddol sy'n cael ei ddwyn i fy sylw fod awdurdodau lleol, mewn trafodaeth gyda byrddau iechyd, yn mynd â thaliadau uniongyrchol oddi wrth bobl sydd wedyn yn cael eu symud i ofal iechyd parhaus? Maent yn colli eu hannibyniaeth, maent yn colli eu gallu i fyw yn eu cartrefi eu hunain, weithiau gyda chymorth, ac yn aml iawn mae rhywun yn dweud wrthynt, drwy'r cymorth iechyd, y byddant yn gorfod symud i ryw fath o ddarpariaeth breswyl statudol, neu ofal wedi'i gomisiynu, yn hytrach na chael eu cartrefi eu hunain. Ac mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynnu na ddylid cyfuno cyllidebau personol, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, yn gwneud hyn yn waeth ac yn atal awdurdod lleol rhag cyfuno'r taliadau uniongyrchol gyda'r gyllideb gofal iechyd parhaus. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn galluogi'r bobl yr mae hyn yn effeithio arnynt i barhau i fyw'n annibynnol, yn hytrach na chael eu gorfodi i golli llais, dewis a rheolaeth ar eu bywydau eu hunain?
Mewn gwirionedd, nid yw hynny yn fy maes portffolio, ond rwy'n cael trafodaethau helaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gylch. Mae Mark Isherwood yn nodi set gymhleth o faterion—a hynny'n gwbl briodol. Nid wyf yn credu mai dyna yw canlyniad y newid, ond nid fy maes portffolio i ydyw, felly bydd yn rhaid i mi ysgrifennu ato, oherwydd bydd yn rhaid i mi ymgynghori â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n gyfrifol am y portffolio ar gyfer y gronfa benodol honno.
Wel, o ystyried eich cyfrifoldeb am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig, buaswn yn dadlau bod gennych rywfaint o gyfrifoldeb trosfwaol, er nad yw, yn amlwg, yn un o'ch cyfrifoldebau adrannol.
Oes; nid wyf yn dadlau nad oes. Rwyf wedi cael y trafodaethau hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid oes gennyf y manylion rydych yn gofyn amdanynt, gan nad yw'n rhan o fy nghyfrifoldeb portffolio.
Iawn. Ac yn olaf, cwestiwn tebyg eto, sy'n ymwneud â rhan arall o'ch maes cyfrifoldeb: cymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr, Ffair, Syrcas, Sioe a Chychwyr. Maent wedi cyhoeddi bod diwrnod hyfforddi'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 5 Rhagfyr, ac rwy'n meddwl tybed sut rydych yn ymateb i hyn, sydd yn y wybodaeth yn yr hysbysiad a aeth allan:
Bydd y gweithdy'n canolbwyntio ar sut y mae'r mentrau polisi cyfredol sy'n gysylltiedig â "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru, 2015)" wedi gadael cymunedau Romani a Theithwyr Cymru ar ôl, yn enwedig o ran yr "Asesiadau Llesiant" a gynhaliwyd gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlwyd gan y Ddeddf a'r adolygiad diweddar o'r rhain gan Netherwood, Flynn a Lang (2017) ar ran Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe. Mae'r prosesau hanfodol hyn wedi anwybyddu anghenion pobl Romani a Theithwyr wrth "gynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory".
Nid wyf yn derbyn hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae gennym dri chynllun ar y gweill ar gyfer dinasyddion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cynllun 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr' ar 28 Mehefin, a oedd yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi'i wneud ers 2012 mewn perthynas â llety, addysg, iechyd a chyfranogiad cymunedol. Roedd yn cyflwyno ymrwymiadau newydd o ran cyflogaeth a hyfforddiant yn ogystal ag adeiladu pontydd gyda gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Rydym hefyd wedi cyflwyno asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr ac maent wedi nodi angen heb ei ddiwallu am 237 o leiniau preswyl a 33 o leiniau tramwy ledled Cymru. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n cynnal ail adolygiad blynyddol o'r asesiadau hynny ac rydym yn annog awdurdodau lleol i weithio gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i ddatblygu eu safleoedd bach preifat eu hunain, ac mae hynny'n cynnwys cysylltu ag awdurdodau cynllunio a sicrhau bod ganddynt ganiatadau cynllunio cywir ar waith.
Bydd yr Aelod yn gwybod, oherwydd rydym wedi cael llawer o drafodaethau ynglŷn â sut y mae'r grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cysylltu â'r asesiadau hynny a'r cymorth rydym yn gobeithio ei roi, i awdurdodau lleol ac i grwpiau unigol lle bo hynny'n briodol. Yn ystod 2017-18, er enghraifft, buddsoddwyd £3.4 miliwn o gyllid er mwyn ymestyn y safle presennol yng Ngwynedd, gan greu pum llain ychwanegol, safle naw llain yng Nghasnewydd, estyniad i safle dwy lain ym Mhowys a phrosiect adnewyddu nifer o safleoedd yn Sir Benfro. Felly, rydym mewn cysylltiad uniongyrchol â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac mae'r ymwneud wedi bod yn dda iawn, a'r ymateb wedi bod yn dda iawn i'r cynlluniau hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Mi fyddwch chi'n cofio mai ymgais i ddiddymu'r rheoliadau ynglŷn â dosbarthu bathodynnau glas dros dro oedd un o ddadleuon cyntaf y pumed Cynulliad. Ar yr adeg honno, mi wnaethom ni, ar ochr yma'r Siambr, eich cefnogi chi ar y sail bod cael cynllun diffygiol ar gyfer cynllun bathodynnau glas dros dro yn well na pheidio â chael un o gwbl. Ond, mae diffygion y cynllun newydd hwnnw bellach yn dod yn amlwg—diffygion yr oeddem ni wedi eu rhagweld, wrth gwrs.
Rydym yn gweld bod bathodynnau yn cael eu gwrthod i bobl, a phobl yn colli eu hannibyniaeth o ganlyniad i hynny gan fod disgwyl adferiad i'w hiechyd mewn llai na 12 mis. Mae gofyn i sefydliadau sy'n helpu pobl anabl i ymgeisio am y bathodynnau glas lofnodi dogfennau cyfreithiol sy'n rhoi baich profi'r rheol 12 mis yma ar y sefydliadau yma, efo'r posibilrwydd o ddirwyon uchel os ydyn nhw'n gwneud camgymeriad, sef helpu rhywun sydd efallai dim ond angen cadair olwyn am 11 mis ac nid 12, er enghraifft. A ydych chi'n meddwl, felly, ei bod hi'n amser edrych ar wella'r cynllun yma fel na fyddai'r elusennau'n gorfod wynebu plismona eu cleientiaid?
Diolch i chi am godi hynny, Siân Gwenllian. Mae arnaf ofn nad yw hyn ychwaith yn fy maes portffolio yn uniongyrchol, er fy mod wedi cael llawer o sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Nid wyf yn gyfarwydd â'r mater ynglŷn â cheisiadau elusennau a nodwyd gennych, felly buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ysgrifennu ataf ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn cael y sgwrs honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
Iawn, diolch yn fawr. Mae dipyn bach yn od bod mater sydd yn sylfaenol yn un ynglŷn â chydraddoldeb mewn portffolio arall, ond mi wnaf ysgrifennu efo hynny.
Rwyf yn mynd i barhau i holi ynglŷn â bathodynnau glas achos mae wedi dod yn fwyfwy clir dros y ddegawd ddiwethaf fod agweddau llywodraethau tuag at bobl anabl wedi gogwyddo tuag at osod meini prawf sy'n fwyfwy llym a phrosesau sy'n fwyfwy biwrocrataidd, lle mae gofyn iddyn nhw brofi eu hanabledd a'u hawliau ac maen nhw'n dwyllwyr hyd nes ceir prawf i'r gwrthwyneb. Rydych yn gyfarwydd iawn â chanlyniad y profion taliad annibyniaeth personol—y PIP newydd—sef bod nifer uchel o benderfyniadau yn mynd yn erbyn pobl anabl a bod y penderfyniadau yma'n cael eu gwrthdroi yn aml iawn mewn apêl. Yn wir, mae yna nifer o Aelodau yn y Siambr yma wedi brwydro yn erbyn Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r polisïau yma. Ond mae'r bathodynnau glas o fewn eich rheolaeth chi fel Llywodraeth ac mae ein gwaith achos ni yn amlygu bod yr union beth sy'n digwydd efo PIP yn digwydd efo'r bathodynnau glas. Mae gen i etholwyr sydd wedi eu gwrthod heb asesiadau wyneb yn wyneb, pobl â phroblemau anadlu'n sydd wedi cael gwrthod bathodynnau glas am nad ydyn nhw'n defnyddio cymorthyddion cerdded am yr ychydig gamau y gallan nhw eu cymryd cyn mynd allan o wynt, a nifer o rai eraill sy'n wynebu dehongliad llym o'r rheolau nes cael apêl llwyddiannus. A ydy eich Llywodraeth chi felly mewn perygl o ddisgyn i'r un trap â'r hyn sy'n digwydd efo PIP, sef gwneud i bobl sy'n ceisio am fathodynnau glas deimlo fod y system yn eu herbyn nhw?
Rwy'n gobeithio'n fawr na fydd hynny'n digwydd. Er eglurder, nid oes gennyf unrhyw gyfrifoldeb portffolio uniongyrchol am nifer fawr o feysydd sy'n effeithio ar gydraddoldeb, oherwydd mae cydraddoldeb yn effeithio ar bopeth. Felly, mae gennyf rai cyfrifoldebau portffolio uniongyrchol. Ond rwy'n gyfrifol am sicrhau bod y dyletswyddau a'r rhwymedigaethau cydraddoldeb hynny'n cael eu cyflawni gan bob un o fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet. Felly, nid wyf yn ceisio osgoi fy nghyfrifoldeb mewn unrhyw ffordd; rwy'n dweud nad oes gennyf y manylion gyda mi gan mai Ysgrifennydd y Cabinet sydd â'r manylion hynny.
Wedi dweud hynny i gyd, y rheswm pam yr eglurais hynny yw oherwydd fy mod eisiau gweld y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei groesawu ledled Cymru, ac mae'r model hwnnw'n golygu nad ydym yn gofyn i'r unigolyn anabl wneud unrhyw beth na fyddem yn gofyn i unrhyw unigolyn arall ei wneud. Yn syml, rydym yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu'r unigolyn wrth iddynt gael mynediad at yr holl agweddau ar gymdeithas y mae angen iddynt gael mynediad atynt. Felly, rwy'n hapus iawn i ymrwymo i siarad â'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun i sicrhau nad ydym yn gwneud hynny.
Rwyf finnau hefyd yn gwrthwynebu'n chwyrn iawn y ffordd y cynhaliwyd asesiadau'r taliad annibyniaeth personol. Mae gennyf nifer o etholwyr sy'n wynebu problemau tebyg. Felly, rwy'n ymrwymo i siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd os yw'n digwydd, ni ddylai fod yn digwydd o gwbl.
Diolch yn fawr am hynny. Mae yna un agwedd arall buaswn i'n hoffi i chi ei thrafod efo'r Ysgrifennydd Cabinet economi, felly, sef y canllawiau sydd ymhlyg efo sefydliadau sydd yn berchen ar fysys mini yn defnyddio bathodynnau glas. Mae rheoliadau'r canllawiau wedi cael eu drafftio'n wael ac mae sefydliad sydd yn gobeithio mynd â phobl anabl allan ar dripiau ac yn y blaen yn cael trafferth efo'r holl system o gael bathodyn glas ar gyfer eu bws mini neu beth bynnag. Mae'r broblem yn y ffordd y mae'r rheoliadau wedi cael eu drafftio ac mae hynny'n creu problem i'r awdurdodau lleol wedyn yn y ffordd y maen nhw’n edrych arnyn nhw a diffyg eglurder.
Felly, a gaf i ofyn ichi hefyd edrych ar y mater yna? Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig. Rwy'n cymharu beth sy'n digwydd ar hyn o bryd efo bathodynnau glas efo beth sydd wedi bod yn digwydd efo PIP, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi nad dyna'r ffordd rydym ni eisiau gwneud pethau yng Nghymru.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi nad dyna'r ffordd rydym eisiau gwneud pethau yma. Byddaf yn sicr yn dwyn hynny i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn wir, Siân Gwenllian, buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn mynychu cyfarfod, pe bawn yn trefnu un, rhwng y tri ohonom fel y gallwn drafod y manylion.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr Arloesfa, sef asiantaeth flaenllaw Cymru ar gyfer twf busnes digidol, ei bod yn cynnal cyfarfod cyntaf y grŵp ychwanegol a sefydlwyd i baratoi a llunio rhaglen 5G genedlaethol gydlynol yng Nghymru. Bydd hyn yn cefnogi ecosystemau 5G ehangach y DU ac yn helpu i gyflwyno Cymru fel arweinydd byd ym maes datblygu a darparu 5G. A allwch chi roi'r newyddion diweddaraf am y cyhoeddiad hwn, arweinydd y tŷ?
Gallaf. Fel yr eglurais mewn ateb i gwestiwn cynharach, rydym yn awyddus iawn i gefnogi datblygiad 5G, gan gynnwys nifer fawr iawn o ardaloedd peilot ledled Cymru. Rydym yn bwriadu profi atebion arloesol ar draws y gwahanol agweddau ar gymdeithas yng Nghymru fel y gallwn ddangos beth y gall 5G ei wneud mewn amgylchiadau gwahanol ac o gael gwahanol feini prawf. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau, er enghraifft, mewn ardaloedd lle nad oes 4G o gwbl, nad oes angen i bobl ddringo ysgol a'u bod yn gallu llamneidio i fyny o 0G i'r brig, a dweud y gwir, mewn rhai ardaloedd. I'r perwyl hwnnw, rydym wedi bod yn cael llawer o drafodaethau ynglŷn â sut y gallwn hwyluso hynny. Mae hynny i gyd yn gysylltiedig â'r ffordd y bydd Llywodraeth y DU yn cynnal gwerthiant sbectrwm yn y pen draw. Felly, bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn sôn am y ffordd y cafodd 4G ei werthu. Nid oes pen draw i'w ddefnydd. Hoffwn weld hwnnw fel caniatâd cynllunio, felly os nad ydych wedi'i ddefnyddio o fewn pum mlynedd, bydd yn dychwelyd i'r sector cyhoeddus fel y gallwn ei ddefnyddio. Ond yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw ei fod wedi cael ei werthu i'r gweithredwr preifat ac ni allaf ei gael yn ôl. Buaswn yn hoffi gallu gwneud hynny'n fawr iawn.
Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw. Arweinydd y tŷ, mae'n galonogol gweld fod Cymru eisoes yn dod yn arweinydd ym maes arloesi digidol drwy fentrau fel y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn fy etholaeth, Dwyrain De Cymru. Yn ddi-os, bydd technoleg y bumed genhedlaeth yn ysgogi technolegau newydd, a fydd yn cefnogi ac yn cyflymu cyfleoedd digidol ehangach ledled Cymru. Pa gynlluniau pellach y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i fanteisio ar y dechnoleg newydd hanfodol hon?
Ie, fel y dywedoch chi, yn ddiweddar, deuthum i gytundeb gyda'r Arloesfa y byddant yn cynghori, yn ysgogi ac yn manteisio ar gyfleoedd y tirlun 5G sy'n dod i'r amlwg, yn cydlynu gwaith yr holl randdeiliaid a'r partneriaid cyflenwi allweddol, ac yn sefydlu fframweithiau llywodraethu priodol ar gyfer y gweithgarwch hwnnw.
Mae nifer fawr o brosiectau ar y gweill ledled Cymru. Soniais am yr un yn y coleg, er enghraifft. Rydym hefyd yn gwneud hyn fel rhan o'r parc technoleg modurol arfaethedig yng Nglyn Ebwy. Mae rhan fawr iawn o'r cynnig seilwaith digidol ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe yn canolbwyntio ar 5G, ac mae bargen ddinesig Caerdydd hefyd yn edrych arno.
Rwy'n dweud wrth yr Aelod ein bod yn awyddus iawn i wneud yn fawr o'r cyfle, ac nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na allwn fod yn un o'r gwledydd sy'n manteisio fwyaf. Fodd bynnag, dylwn hefyd ddweud wrth yr Aelod fod llawer o dechnolegau cyffrous eraill ar gael nad ydynt mor gyffrous, os mynnwch chi, â 5G. Felly, ar draws Cymru gyfan, rydym yn edrych ar ddefnydd effeithiol iawn o'r hyn a elwir yn dechnoleg rhwydwaith ardal eang pell, sydd ag amledd isel iawn. O ganlyniad, mae gan y dyfeisiau oes batri hir iawn a gallant fonitro pob math o bethau sy'n darparu data defnyddiol iawn i ni ar ynysu cymdeithasol, er enghraifft. Felly, mae gennym ddiddordeb brwd mewn nifer fawr o dechnolegau eraill hefyd.
Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb esboniadol hwnnw. A gaf fi droi at fater arall yn awr, a gwn eich bod o ddifrif am y mater hwn—sef bwlio, yn enwedig yng nghyd-destun ysgolion? O ystyried y digwyddiad trasig diweddar yn Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd yn Llanelli, lle cyflawnodd bachgen ifanc, Bradley John, a oedd yn dioddef o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, hunanladdiad ar safle'r ysgol oherwydd bwlio, a yw arweinydd y tŷ yn fodlon fod pob ysgol yn trin bwlio mewn ffordd briodol? Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, roedd rhieni'r bachgen wedi cwyno bod eu mab yn cael ei fwlio ar sawl achlysur ond nodwyd y cwynion hyn fel 'digwyddiadau' yn unig.
Mae gennym raglen wrth-fwlio helaeth iawn—unwaith eto, gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, sydd â chyfrifoldeb dros y rhaglen ysgolion. Rydym yn cefnogi nifer fawr o ddatblygiadau cwricwlwm. Yn ddiweddar rydym wedi cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r canllawiau ar berthnasoedd iach a pherthnasoedd rhywiol. Rydym yn cefnogi, er enghraifft, ymgyrchoedd Dewch Allan dros LGBT Stonewall Cymru, ac rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda nifer fawr o sefydliadau eraill sydd ag aelodau sy'n dioddef troseddau casineb yn arbennig, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd diogel iawn, yn ogystal â gweddill ein cymdeithas. Felly, mae gennym fframwaith mawr a helaeth iawn y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio ag ef er mwyn sicrhau nad ydym yn cael y math hwnnw o ymddygiad.
Diolch. Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Paul Davies.