Y Pumed Genhedlaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:25, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gynharach eleni, arweinydd y tŷ, roeddwn mewn rhannau gwledig o orllewin Kenya ac mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn yn arswydo at y ffaith bod eu signal symudol i'w weld yn well o lawer na'r hyn ydyw mewn rhai rhannau o fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd. Felly, tybed pa gamau y gallwch eu cymryd, o ystyried y pwerau datganoledig sydd gennych dros hawliau datblygu a ganiateir o ran uchder y mastiau teleffoni sydd gennym yng Nghymru, i roi cyfle gwell i'r mastiau hynny gyrraedd rhai rhannau gwledig anghysbell o'r wlad yn y dyfodol drwy godi'r cyfyngiadau ar uchder sydd ar waith ar hyn o bryd yn y system gynllunio?