Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 10 Hydref 2018.
Yn anffodus, nid yw technoleg ffonau symudol wedi'i datganoli i Gymru. Pe byddai, gallwn ateb y cwestiwn hwnnw mewn ffordd symlach o lawer. Ond rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i drafod sut yn union y bydd y sbectrwm 5G yn cael ei werthu, a bydd llawer yn dibynnu ar sut y caiff ei werthu yn y diwedd. A dyna pam fod yr Arloesfa yn edrych ar gyfres gyfan o ardaloedd peilot arloesol ar gyfer 5G fel y gallwn gasglu'r dystiolaeth i ddylanwadu ar ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at dechnoleg 5G pan ddaw ar y farchnad yn y pen draw.