Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:41, 10 Hydref 2018

Diolch yn fawr am hynny. Mae yna un agwedd arall buaswn i'n hoffi i chi ei thrafod efo'r Ysgrifennydd Cabinet economi, felly, sef y canllawiau sydd ymhlyg efo sefydliadau sydd yn berchen ar fysys mini yn defnyddio bathodynnau glas. Mae rheoliadau'r canllawiau wedi cael eu drafftio'n wael ac mae sefydliad sydd yn gobeithio mynd â phobl anabl allan ar dripiau ac yn y blaen yn cael trafferth efo'r holl system o gael bathodyn glas ar gyfer eu bws mini neu beth bynnag. Mae'r broblem yn y ffordd y mae'r rheoliadau wedi cael eu drafftio ac mae hynny'n creu problem i'r awdurdodau lleol wedyn yn y ffordd y maen nhw’n edrych arnyn nhw a diffyg eglurder.

Felly, a gaf i ofyn ichi hefyd edrych ar y mater yna? Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig. Rwy'n cymharu beth sy'n digwydd ar hyn o bryd efo bathodynnau glas efo beth sydd wedi bod yn digwydd efo PIP, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi nad dyna'r ffordd rydym ni eisiau gwneud pethau yng Nghymru.