Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch i chi am godi hynny, Siân Gwenllian. Mae arnaf ofn nad yw hyn ychwaith yn fy maes portffolio yn uniongyrchol, er fy mod wedi cael llawer o sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Nid wyf yn gyfarwydd â'r mater ynglŷn â cheisiadau elusennau a nodwyd gennych, felly buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ysgrifennu ataf ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn cael y sgwrs honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.