Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 10 Hydref 2018.
Mewn gwirionedd, nid yw hynny yn fy maes portffolio, ond rwy'n cael trafodaethau helaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gylch. Mae Mark Isherwood yn nodi set gymhleth o faterion—a hynny'n gwbl briodol. Nid wyf yn credu mai dyna yw canlyniad y newid, ond nid fy maes portffolio i ydyw, felly bydd yn rhaid i mi ysgrifennu ato, oherwydd bydd yn rhaid i mi ymgynghori â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n gyfrifol am y portffolio ar gyfer y gronfa benodol honno.