Darpariaeth o Fand Eang yn Nwyrain Casnewydd

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:01, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny, arweinydd y tŷ. Fel y gwyddoch, ni chyrhaeddodd cam 1 o Cyflymu Cymru bentrefi Langstone, Llanfaches, Trefesgob ac Allteuryn yn Nwyrain Casnewydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod cyfarfod wedi digwydd gydag un o'ch swyddogion ac eraill i drafod y problemau. Mae'r trigolion lleol yn y pentrefi hynny'n edrych ymlaen yn eiddgar at gyfnod 2, a thybed—cyhoeddiad yr wythnos nesaf, rwy'n gwybod, ond tybed a oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd ynglŷn â'r problemau sy'n wynebu'r trigolion hynny.