Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 10 Hydref 2018.
Ie, wel, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed hynny. Nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Buaswn yn croesawu'r manylion am hynny y tu allan i'r Siambr, ac fe af ar drywydd y mater hwnnw. Nid wyf yn ymwybodol fy mod wedi cael llwyth o negeseuon e-bost yn anffodus. Mae'n amlwg fod y neges honno wedi llithro drwy'r rhwyd. Felly, rwy'n gwneud yr un cynnig eto, ond byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd y mater hwnnw. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed hynny, a byddwn yn mynd i'r afael â'r mater.