Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 10 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl adroddiad 'Cenhedloedd Cysylltiedig' Ofcom ar gyfer Cymru, yr ardal sydd wedi gweld y gwelliant mwyaf yw Casnewydd, lle mae band eang cyflym iawn bellach wedi cyrraedd 96 y cant. Fodd bynnag, 66 y cant yn unig yw'r cysylltedd yng nghefn gwlad Cymru. Pa gynlluniau sydd gan yr arweinydd i gynyddu cysylltedd band eang cyflym iawn mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd neu fannau gwan i godi de-ddwyrain Cymru i lefel Casnewydd, er mwyn sicrhau bod y rhanbarth cyfan yn elwa o'r rhagolygon ar gyfer twf economaidd?