Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 10 Hydref 2018.
Wel, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pob rhan o'r sector cyhoeddus, yn enwedig ein hawdurdodau lleol, wedi bod yn gyfranogwyr gwych yn y coffâd hwn dros y pedair blynedd diwethaf. Rydym yn sôn am ddiwedd y digwyddiadau coffáu hynny bellach, ac fel y clywsom yn gynharach wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn brin o arian ar hyn o bryd, ond mae'r un peth yn wir am y Comisiwn o ran penderfynu sut y mae angen iddo rannu ei adnoddau. Buaswn yn gobeithio, fodd bynnag, fod y strategaeth ymgysylltu sydd gennym, yn enwedig ymgysylltu ag ysgolion, wedi cyfrannu at ddealltwriaeth pobl ifanc o hyn ledled Cymru, nid yn unig ym Mae Caerdydd.