Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch i’r Dirprwy Lywydd. Rwy’n gwneud y cynnig sydd ar y papur trefn.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ddatganiad ar ran Comisiwn y Cynulliad yn amlinellu ein strategaeth ddeddfwriaethol arfaethedig o ran diwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol mewn dau gam. Y cam cyntaf fyddai deddfu i newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol, i ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â threfniadau anghymhwyso, a gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad. Yr ail gam fyddai deddfu yn ystod tymor y Cynulliad yma ynghylch maint Senedd Cymru a’r dull a ddefnyddir i ethol ei Haelodau—yn amodol, wrth gwrs, ar gonsensws ar y materion yma.
Diben y ddadl heddiw yw i geisio cytundeb Aelodau i ganiatáu i’r Comisiwn gyflwyno’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth. Rydym yn gwneud hynny gan hyderu ein bod wedi ymgynghori’n eang ac yn gyhoeddus ar y cynigion hyn ac wedi cael llawer o sgyrsiau â rhanddeiliaid allweddol.
Os ydych yn cytuno i ganiatáu i’r Comisiwn gyflwyno’r Mesur hwn, cawn gyfle i drafod a dadlau manylion y polisi yn llawn wrth i’r Mesur fynd drwy broses graffu ddeddfwriaethol y Cynulliad. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi’i nodi’n flaenorol, ni fydd y cynigion hyn yn cael eu dwyn ymlaen oni bai fod consensws cyffredinol o blaid gwneud hynny. Byddai’n rhaid i uwchfwyafrif o 40 o Aelodau bleidleisio o blaid unrhyw Fesur yn y dyfodol cyn iddo gyrraedd y llyfrau statud, a byddai’n destun gwaith craffu, ymgynghori a thrafod trwyadl yn y Cynulliad yma a thu hwnt.
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Hydref, amlinellais amcanion allweddol y Mesur Senedd Cymru ac etholiadau (Cymru). Yr amcan cyntaf yw newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru/Welsh Parliament, sef y teitl a ffafriwyd gan y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater yma. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn ffafrio’r teitl Aelodau Senedd Cymru/Members of the Welsh Parliament, a fyddai’n cyd-fynd â’r teitlau a ddefnyddir gan ddeddfwrfeydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Gyfunol. Er inni ddod i gytundeb cychwynnol ynghylch teitl yr Aelodau, penderfynodd y Comisiynwyr ystyried y mater ymhellach a thrafod eto gyda’u pleidiau. Mae’r trafodaethau yma yn parhau, ond mi fydd angen i’r pleidiau, a chi yr Aelodau, gyrraedd consensws ar y cyfle cyntaf posib ar y mater yma.
Mae’r Comisiwn yn cynnig y dylai enw’r sefydliad gael effaith gyfreithiol ym mis Mai 2020 i sicrhau bod pobl Cymru yn dod yn gyfarwydd â’r term Senedd Cymru/Welsh Parliament cyn etholiad y Cynulliad—Senedd Cymru/Welsh Parliament—yn 2021. Byddwn yn sicrhau bod cost y newid mor isel â phosib ac nid oes bwriad newid logo’r Cynulliad yn gyfan gwbl. Bydd y memorandwm esboniadol a gaiff ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r Mesur pan gaiff ei gyflwyno wrth gwrs yn cynnwys yr amcangyfrifon gorau o’r costau a’r arbedion posib a allai ddod yn sgil y ddeddfwriaeth.
Ail amcan y Mesur fydd gostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16, yn effeithiol o etholiad 2021. Rwy’n gwybod y bydd Aelodau am gael sicrwydd y byddwn yn gwneud ymdrechion sylweddol i roi gwybod i bobl ifanc am y newid yma ac yn annog y lefel uchaf o gyfranogiad ganddynt. Rydym yn cytuno â hyn, ac fel rhan o’r broses ddeddfwriaethol yma, bydd y Comisiwn yn amlinellu pa gamau a gymerir gan y sefydliad a’n partneriaid ar y mater yma.
Y trydydd amcan yw gweithredu’r argymhellion o ran newid deddfwriaethol a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad i egluro a diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch anghymhwyso unigolion rhag bod yn Aelodau Cynulliad. Byddai’r newidiadau hyn yn rhoi eglurder ynghylch cymhwysedd pobl i sefyll mewn etholiad, yn helpu i oresgyn y rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn golygu bod yn rhaid i lawer o bobl ymddiswyddo cyn sefyll fel ymgeiswyr er mwyn osgoi unrhyw risg, ac yn gwahardd, o etholiad nesaf y Cynulliad ymlaen, Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau Senedd Cymru oni bai eu bod yn cymryd cyfnod o absenoldeb o San Steffan.
Yn olaf, y pedwerydd amcan fyddai sicrhau bod darpariaethau ar waith i’w gwneud yn bosib inni ystyried gweithredu yng Nghymru pe bai Comisiwn y Gyfraith yn gwneud unrhyw argymhellion i resymoli’r ddeddfwriaeth ynghylch etholiadau. Gallai Gweinidogion Cymru gyflwyno cynigion o’r fath drwy is-ddeddfwriaeth, a fyddai’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Siambr yma.
Byddai’r Mesur hefyd yn ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad ar ôl etholiad, o saith diwrnod—fel y mae ar hyn o bryd—i 14, yn unol â’r trefniadau yn Senedd yr Alban, a hefyd yn cywiro’r amwysedd deddfwriaethol presennol, drwy egluro bod gan Gomisiwn y Cynulliad y pŵer i godi tâl am ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â’i swyddogaethau.
Fel y dywedais yn gynharach, bydd Aelodau’n cael cyfle i drafod manylion y diwygiadau hyn yn ystod y broses o graffu. Ac os byddwch yn derbyn y cynnig hwn heddiw, rydw i'n edrych ymlaen yn ddiffuant i weithio gyda chi er mwyn creu deddfwriaeth gadarn y gallwn ni, a phobl Cymru, ymfalchïo ynddi.