1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2018.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant? OAQ52801
Wel, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhagweld y bydd tlodi yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i doriadau creulon Llywodraeth y DU i fudd-daliadau. Rydym ni'n buddsoddi i dyfu ein heconomi, i greu swyddi ac i gynorthwyo plant, trwy Dechrau'n Deg, trwy Teuluoedd yn Gyntaf, trwy ein cynnig gofal plant a'r grant datblygu disgyblion.
Hoffwn ddychwelyd at y mater o ginio ysgol am ddim, Prif Weinidog. Y mis diwethaf, efallai y byddwch yn cofio brolio am y cynnig hael yr oeddech chi'n ei wneud, ond mae'n ffaith bod Cymru ymhell y tu ôl i Ogledd Iwerddon pan ddaw i ddarparu prydau ysgol. Yno, maen nhw wedi cyflwyno terfyn enillion llawer mwy hael o £14,000 i deuluoedd, sydd bron i ddwbl y terfyn a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Nawr, nid i mi yn unig y mae hyn yn peri pryder; mae Cymdeithas y Plant yn ymgyrchu yn ymarferol yn erbyn y cyfyngiad llym yr ydych yn bwriadu ei gyflwyno. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y pennir y terfyn enillion yng Nghymru? A ydych chi wedi archwilio terfynau enillion eraill ac, os felly, beth oedden nhw? Ac, wrth inni nesáu at 2020—blwyddyn erbyn pryd y gwnaeth y Blaid Lafur yng Nghymru addo dileu tlodi plant ar un adeg—pam mae eich Llywodraeth yn cyflwyno polisi sy'n mynd i'w wneud yn waeth?
Wel, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl y bydd yn ei wneud yn waeth. Mae'n gynnig mwy hael na'r hyn a geir yn Lloegr. Rydym ni'n darparu cyllid ychwanegol o £4 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy gynllun grant. Rydym ni hefyd yn rhoi £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20. Mae ein dadansoddiad diweddaraf yn awgrymu y bydd mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy gydol y cyfnod cyflwyno credyd cynhwysol oherwydd y polisi hwn nag y byddai wedi bod yn wir fel arall o dan yr hen system a etifeddwyd. Ac mae ein cynigion diogelwch trosiannol yn golygu na fyddai unrhyw blentyn yn colli ei hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod cyflwyno credyd cynhwysol, a thu hwnt, gan y bydd unrhyw hawlwyr presennol yn parhau i gael eu diogelu tan ddiwedd eu cyfnod ysgol. A chofiwch, rydym ni wedi gwneud hyn er nad ydym wedi cael unrhyw gyllid ychwanegol i reoli effaith agenda diwygio lles Llywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim.
Prif Weinidog, ym ôl ym mis Chwefror, o dan y datganiad busnes, codais waith arloesol Cyngor Gogledd Swydd Lanark yn yr Alban, sy'n ceisio darparu prydau ysgol am ddim i'r rhai sy'n gymwys 365 diwrnod y flwyddyn. Nawr, ceir manteision a brofwyd i ddisgyblion yno nid yn unig o ran iechyd a llesiant, ond hefyd o ran cyrhaeddiad academaidd hefyd. Dywedodd arweinydd y tŷ y byddai Llywodraeth Cymru yn dilyn y fenter hon gyda diddordeb brwd. Pa wersi ydych chi wedi eu dysgu oddi wrthi hyd yn hyn?
Wel, mae'r rhain yn faterion sy'n dal i gael eu harchwilio. Wrth gwrs, mae beth bynnag a wnawn yn cael ei effeithio gan y cyllid sydd ar gael. Ac rydym ni'n gwybod nad yw'r sefyllfa yn mynd i wella, er fy mod i'n sylwi, ar ôl dod i'r swydd hon wrth i gyni cyllidol ddechrau, fel yr wyf i ar fin gadael bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi ei fod ar ben. Ni wnaf i ei gymryd yn bersonol. Ond os yw'n wirioneddol wir bod cyni cyllidol ar ben, yna bydd hynny'n golygu y bydd mwy o adnoddau ar gael i ddarparu'r math o wasanaethau y byddem yn hoffi eu darparu ac yr ydym ni wedi llwyddo i'w darparu, ar y cyfan, er gwaethaf gafaeliad tynn cyni cyllidol.
Prif Weinidog, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn datgan,
Bydd swyddi o ansawdd da a rhanbarthau sy’n fannau deniadol i weithio, i fyw ac i fuddsoddi ynddynt, yn rhoi rheswm i bobl aros neu ddychwelyd i weithio ac i fyw mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Mae addysg dda, wrth gwrs, yn sail i'r uchelgais hwn, ac, er ei bod yn ymddangos bod y datganiadau hyn wedi eu targedu at bobl ifanc sydd eisoes mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, mae bod yn ddwyieithog yn fantais yn y gweithle ac yn offeryn o symudedd cymdeithasol hefyd. Felly, pa lwyddiant y mae eich Llywodraeth yn ei gael yn codi lefel sgiliau Cymraeg ymhlith pobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau lle nad yw'r Gymraeg yn iaith gymunedol?
Wel, un o'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu yw na allwn ddweud, er gwaethaf y ffaith bod y Gymraeg wedi bod yn orfodol hyd at 16 oed mewn ysgolion ers dechrau'r 1990au, ein bod ni wedi creu siaradwyr Cymraeg hyderus mewn ysgolion cyfrwng Saesneg o ganlyniad, a dyna pam, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm yn cael ei ddiwygio, sy'n dangos bod Cymraeg yn sgìl—y mae i'r rhan fwyaf o bobl—yn hytrach na chymhwyster academaidd, a sicrhau bod pobl yn gallu mesur eu rhuglder yn yr iaith yn well. Bu gennym ni raniad artiffisial rhwng iaith gyntaf ac ail iaith ers amser rhy faith, yn hytrach na mesur lefel rhuglder rhywun. Ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn sicr yn rhan o'r cwricwlwm, i sicrhau bod addysgu Cymraeg yn effeithiol a hefyd bod y Gymraeg yn bwnc sydd yno i gael ei astudio fel sgìl, ac wyf i'n credu y bydd hynny yn ennyn brwdfrydedd llawer mwy o bobl ifanc.