Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 16 Hydref 2018.
Wel, mae gennym ni ymgyrch gref ar hyn ar draws y sector cyhoeddus: yn y Llywodraeth, wrth gwrs; ein cyrff a noddir; y GIG; parciau cenedlaethol; sefydliadau addysg uwch; rhai awdurdodau lleol, er enghraifft, maen nhw i gyd yn talu'r cyflog byw gwirioneddol i'w staff eu hunain. Wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd ar draws awdurdodau lleol. Mae angen iddo gael ei ystyried fel rhywbeth sy'n arferol, nid eithriadol, yn y sector cyhoeddus, ac rydym ni eisiau symud ymlaen nawr i ddefnyddio'r grym prynu sydd gennym ni yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei fabwysiadu'n ehangach yn rhan o waith teg ar draws yr economi.