Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 16 Hydref 2018.
Wrth gwrs, Prif Weinidog, mae'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl, gan fod o fudd i enillwyr cyflog, eu haelwydydd, cymunedau ac economïau lleol. A gwn, cyn Wythnos Cyflog Byw, eich bod chi wedi cefnogi digwyddiadau yn ystod dechrau mis Tachwedd yn frwd erioed. Pa gamau eraill y gellir eu cymryd i hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol ar draws, yn benodol, y sector cyhoeddus, y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, ond hefyd mewn addysg bellach ac uwch?