1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl cyflog byw go iawn? OAQ52774
Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr cyflog byw, ac rwy'n falch bod y Llywodraeth hon wedi cymryd camau i gefnogi a hybu'r nifer sy'n derbyn y cyflog byw gwirioneddol gan gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Wrth gwrs, Prif Weinidog, mae'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl, gan fod o fudd i enillwyr cyflog, eu haelwydydd, cymunedau ac economïau lleol. A gwn, cyn Wythnos Cyflog Byw, eich bod chi wedi cefnogi digwyddiadau yn ystod dechrau mis Tachwedd yn frwd erioed. Pa gamau eraill y gellir eu cymryd i hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol ar draws, yn benodol, y sector cyhoeddus, y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, ond hefyd mewn addysg bellach ac uwch?
Wel, mae gennym ni ymgyrch gref ar hyn ar draws y sector cyhoeddus: yn y Llywodraeth, wrth gwrs; ein cyrff a noddir; y GIG; parciau cenedlaethol; sefydliadau addysg uwch; rhai awdurdodau lleol, er enghraifft, maen nhw i gyd yn talu'r cyflog byw gwirioneddol i'w staff eu hunain. Wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd ar draws awdurdodau lleol. Mae angen iddo gael ei ystyried fel rhywbeth sy'n arferol, nid eithriadol, yn y sector cyhoeddus, ac rydym ni eisiau symud ymlaen nawr i ddefnyddio'r grym prynu sydd gennym ni yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei fabwysiadu'n ehangach yn rhan o waith teg ar draws yr economi.
Ac yn olaf, cwestiwn 8. Bethan Sayed.