Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 16 Hydref 2018.
Yn amlwg, mae gennym ni Swyddfa Archwilio Cymru i fonitro'r pethau hyn yn fanwl. Roeddwn i eisiau eich holi chi am y darlun ehangach o ran y grym caffael sydd gennym ni. Mae gennym ni sector cyhoeddus sy'n gwario dros £4 biliwn bob blwyddyn ar gaffael, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gallem ni gaffael mwy o'n gwariant yng Nghymru fel ein bod ni'n creu swyddi lleol yn hytrach na mewn cwmnïau amlwladol sy'n allforio'r elw wedyn.
Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ymwneud â chaffael bwyd. Rwy'n pryderu gweld o adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fis Mai diwethaf nad oes ffynhonnell gyhoeddus o ffigurau cywir a chyfredol ar gaffaeliad bwyd sector cyhoeddus Cymru, felly byddwn yn awyddus i ddarganfod sut y gallwn ni wella caffaeliad bwyd lleol yng Nghymru, oherwydd, yn amlwg, byddai hynny'n dda i'n busnesau a hefyd yn dda i'n hiechyd.