Caffael Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 16 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 16 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni, wrth gwrs, yn annog cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gynyddu amlygrwydd contractau trwy GwerthwchiGymru. O'r 22,000 o gontractau a ddyfarnwyd hyd yn hyn trwy GwerthwchiGymru, mae tua dwy ran o dair wedi bod i gyflenwyr o Gymru ac mae 75 y cant o'r rhain wedi bod i fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Gwn fod yr Aelod wedi gofyn am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, gallaf ddweud fod cyfran y gwariant caffael cyhoeddus a enillir gan gwmnïau yng Nghymru yn 50 y cant erbyn hyn. O 1 Ebrill 2017 tan 30 Mehefin eleni, £7,000,700 oedd y gwariant trwy gytundebau Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac o hynny roedd 57 y cant yn gyflenwyr wedi eu lleoli yng Nghymru. Pan fydd polisi manteision cymunedol yn cael ei gymhwyso, mae'r ffigurau yn uwch fyth. Er enghraifft, cadwyd 82 y cant o'r arian yng Nghymru pan fydd hwnnw'n cael ei gymhwyso. Gofynnodd, wrth gwrs, sut yr ydym yn cynyddu hyn. Rydym ni eisiau gwneud hynny trwy bwysigrwydd blaenoriaethau rhanbarthol a lleol mewn awdurdodau lleol, ac rydym ni'n ystyried mabwysiadu gwahanol ddulliau lle bydd caffael cydweithredol rhanbarthol yn cael ei wneud, sy'n cryfhau economi a chymunedau yn y rhanbarthau hynny.