1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith caffael Llywodraeth Cymru? OAQ52798
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau'r gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gorau posibl o'n gwaith caffael.
Diolch. Rwyf i wedi cael gafael ar restr o drafodiadau ar gardiau caffael Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18 yn ddiweddar. Fodd bynnag, cefais sioc fawr o weld y gwariwyd bron i £1.6 miliwn ar y cardiau credyd hyn dros y 12 mis, a bod llawer o'r trafodiadau yn parhau i fod yn bryderus o amwys. Un enghraifft yw'r £13,255 a wariwyd trwy PayPal—dim gwybodaeth am yr hyn a brynwyd ac oddi wrth pa gwmnïau. Un arall yw £460 a wariwyd yn yachtshop.co.uk, neu'r £8,300 a wariwyd mewn un trafodiad ar awyren British Airways. Ceir enghreifftiau dirifedi hefyd o'r cardiau hyn yn talu am danysgrifiadau Amazon Prime neu iTunes heb unrhyw fanylion. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd, fel Prif Weinidog, i wella tryloywder a gonestrwydd ariannol gan fonitro sut y mae arian y mae trethdalwyr yn gweithio'n galed i'w ennill yn cael ei wario ar y cardiau credyd caffael Llywodraeth Cymru hyn?
Rydym ni'n cyhoeddi ein gwariant dros £25,000 yn rheolaidd i wella tryloywder o sut y mae cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio. Byddaf yn galw ar yr enghreifftiau y mae'r Aelod wedi eu defnyddio ac yn ceisio rhoi ateb manwl i'w chwestiynau iddi hi.
Yn amlwg, mae gennym ni Swyddfa Archwilio Cymru i fonitro'r pethau hyn yn fanwl. Roeddwn i eisiau eich holi chi am y darlun ehangach o ran y grym caffael sydd gennym ni. Mae gennym ni sector cyhoeddus sy'n gwario dros £4 biliwn bob blwyddyn ar gaffael, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gallem ni gaffael mwy o'n gwariant yng Nghymru fel ein bod ni'n creu swyddi lleol yn hytrach na mewn cwmnïau amlwladol sy'n allforio'r elw wedyn.
Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ymwneud â chaffael bwyd. Rwy'n pryderu gweld o adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fis Mai diwethaf nad oes ffynhonnell gyhoeddus o ffigurau cywir a chyfredol ar gaffaeliad bwyd sector cyhoeddus Cymru, felly byddwn yn awyddus i ddarganfod sut y gallwn ni wella caffaeliad bwyd lleol yng Nghymru, oherwydd, yn amlwg, byddai hynny'n dda i'n busnesau a hefyd yn dda i'n hiechyd.
Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni, wrth gwrs, yn annog cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gynyddu amlygrwydd contractau trwy GwerthwchiGymru. O'r 22,000 o gontractau a ddyfarnwyd hyd yn hyn trwy GwerthwchiGymru, mae tua dwy ran o dair wedi bod i gyflenwyr o Gymru ac mae 75 y cant o'r rhain wedi bod i fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Gwn fod yr Aelod wedi gofyn am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, gallaf ddweud fod cyfran y gwariant caffael cyhoeddus a enillir gan gwmnïau yng Nghymru yn 50 y cant erbyn hyn. O 1 Ebrill 2017 tan 30 Mehefin eleni, £7,000,700 oedd y gwariant trwy gytundebau Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac o hynny roedd 57 y cant yn gyflenwyr wedi eu lleoli yng Nghymru. Pan fydd polisi manteision cymunedol yn cael ei gymhwyso, mae'r ffigurau yn uwch fyth. Er enghraifft, cadwyd 82 y cant o'r arian yng Nghymru pan fydd hwnnw'n cael ei gymhwyso. Gofynnodd, wrth gwrs, sut yr ydym yn cynyddu hyn. Rydym ni eisiau gwneud hynny trwy bwysigrwydd blaenoriaethau rhanbarthol a lleol mewn awdurdodau lleol, ac rydym ni'n ystyried mabwysiadu gwahanol ddulliau lle bydd caffael cydweithredol rhanbarthol yn cael ei wneud, sy'n cryfhau economi a chymunedau yn y rhanbarthau hynny.