Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch ichi, Janet, a diolch am eich anogaeth hefyd i deuluoedd a allai fod yn dymuno mynegi diddordeb. Rydym ni'n dymuno i fwy o deuluoedd fynegi diddordeb, a theuluoedd o bob lliw a llun, hefyd. Ond rydym ni'n dymuno gweld mwy o deuluoedd yn mynegi diddordeb, oherwydd y bu gennym rhyw 300 o blant, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn rhan o'r broses fabwysiadu; rydym yn gwybod bod gennym ryw 350 yn mynd drwy'r broses ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio y bydd pob un yn llwyddiannus, ond mae angen mwy o ddarpar deuluoedd i fynegi diddordeb. A gallwn ni chwarae rhan yn hynny, yn sicr, fel unigolion etholedig, oherwydd bod gennym ni dipyn o ddylanwad ein hunain yn y ffordd yr ydym yn hyrwyddo'r hyn sy'n digwydd yr wythnos hon, yn enwedig, wrth i ni sefyll yma heddiw. Ond gallwn wneud mwy hefyd wrth weithio gydag awdurdodau lleol. Hoffwn i annog yr holl awdurdodau lleol, yn ogystal ag asiantaethau, i barhau â'r gwaith maen nhw'n ei wneud a'i ehangu i annog darpar deuluoedd mabwysiadu i fynegi diddordeb hefyd.
Ni all fod yr un wythnos hon yn unig; mae angen iddo fod yn rhywbeth cyson. A dyna, yn fy marn i, lle mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn chwarae rhan gref iawn yn gynyddol—mae'n hyrwyddo gwaith mabwysiadu a'r cyfleoedd yn y lle hwn. Ond rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod llawer o newyddion da a chynnydd yn cael ei wneud ac rwy'n credu bod sefydlu'r fframwaith cenedlaethol yn helpu i ysgogi hynny. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei hun yn helpu i'w ysgogi.
Ond, hefyd, mae rheoli perfformiad yn bwysig iawn. Erbyn hyn, rydym wedi rhoi ar waith yr hyn, yn fy marn i, sydd wedi'i gydnabod fel bod yn fframwaith rheoli perfformiad mwy cadarn ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu. Mae wedi bod yn ddyfais bwysig oherwydd pan allwch chi fesur hyn a phan allwch chi fesur amrywiadau rhanbarthol hefyd, mae'n tueddu i ysgogi gwelliant oherwydd ei fod yn caniatáu'r gymhariaeth ystyrlon rhwng gwahanol ardaloedd o Gymru—ac mae gwahaniaethau, er bod y duedd tuag at i fyny, ceir rhai ardaloedd sydd yn dal i fod ar ei hôl hi. Mae'n ein galluogi ni wedyn, fel Gweinidogion, fel Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, fel partneriaethau lleol, i ychwanegu her wirioneddol at y system a nodi arferion gorau a'u cyflwyno ym mhob man.
Rydym yn credu bod y broses rheoli perfformiad fwy cadarn yn gam sylweddol ymlaen i roi mynediad cyfartal at wasanaethau a chodi ansawdd cyffredinol hefyd. Mae llawer i'w wneud eto. Rydym ni wedi cael yr effaith gadarnhaol honno o ran lleihau'r cyfnod o amser rhwng yr adeg pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal a phan fydd yn cael ei fabwysiadu—mae hynny wedi lleihau. Ceir llai o blant yn aros mwy na chwe mis i gael eu paru. Ond, mewn gwirionedd, rydym yn credu y gallwn ni wneud mwy, a bydd rhai o'r mesurau yr ydym yn eu defnyddio yn awr i adolygu a gweddnewid rhannau o'r system yn cyfateb i'n huchelgais na ddylai unrhyw blentyn aros mis hyd yn oed i gael lle ar y gofrestr. Dylen nhw fod ar y gofrestr ac yna gyda gallu—gallu mwy hyblyg—darpar deuluoedd sy'n mabwysiadu i baru â'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd. Felly, drwy'r amser, rydym yn ceisio dod o hyd i'r ffyrdd newydd hynny o wella perfformiad a sicrhau perfformiad cyson ledled Cymru.