Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 16 Hydref 2018.
Onid yw hi'n braf gallu eich dilyn chi ar ôl i chi fynegi eich gwerthfawrogiad a'ch cydnabyddiaeth o'r gwaith y mae ein gwasanaethau yn ei wneud i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu a'r broses fabwysiadu a'n plant? Oherwydd rwyf i wedi cael cryn brofiad gyda rhai teuluoedd—teulu o dri phlentyn, ac, ar hyd y ffordd, rhai o'r heriau a ddaeth i'r amlwg. Roedd hi'n wych, mewn gwirionedd, pan oeddem ni'n gallu mynd i'r afael â'r heriau ac ymdrin â phethau yn gynnar, a dyna pryd y mae ymyrraeth gynnar a gwaith atal yn allweddol. Felly, hoffwn i ymuno â chi ar ran Ceidwadwyr Cymru a mynegi ein diolch diffuant i'r rhai hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau mabwysiadu ac i'r rhai sy'n mabwysiadu plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan wybod eu bod yn gwneud hynny, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gwbl briodol, i gwblhau eu teuluoedd eu hunain. Mae pawb yn gwneud gwaith mor anhygoel i ddarparu dyfodol gwell ar gyfer cannoedd o blant bob blwyddyn, ac rwy'n sicr ein bod i gyd yn cydnabod hyn ar draws y Siambr.
Ar dudalen 2, rwy'n nodi, ynghylch rhieni sy'n mabwysiadu, sut y mae angen i ni bellach mewn gwirionedd helpu i wneud pethau yn gynt ac yn haws i grwpiau o frodyr a chwiorydd, oherwydd eu bod nhw'n cyflwyno mwy o her nag un plentyn. Yn ôl adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, cafodd 300 o blant eu lleoli mewn cartrefi mabwysiadu ledled Cymru yn 2016-17 ac rwy'n croesawu'r gwelliannau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf i'n gwasanaethau mabwysiadu. Fodd bynnag, mae adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi nodi rhai ystadegau sy'n peri pryder, oherwydd, ym mis Mehefin 2018, roedd gennym ni fwy na 300 o blant yn dal i aros am gael eu mabwysiadu, ac mae bron un o bob pump o'r rhain wedi bod yn aros am dros flwyddyn, ac wrth ystyried bod blwyddyn ym mywyd plentyn yn sylweddol—.
Mae unrhyw amser aros ar gyfer rhieni sy'n dymuno mabwysiadu ac, yn wir, y plant, yn rhoi pwysau ychwanegol a straen diangen. Felly, rwy'n dra awyddus i ni ystyried gwneud beth bynnag y gallwn ei wneud i wella ein systemau hyd yn oed yn fwy mewn gwirionedd, er eu bod yn wych. Mae angen brys i ddatblygu a chyflawni dull gweithredu wedi'i dargedu yn well i ddod o hyd i deuluoedd addas ar gyfer plant sy'n flaenoriaeth ledled Cymru, ac yna symleiddio'r broses honno i annog mwy o deuluoedd i fynegi diddordeb mewn mabwysiadu.
Yn eich datganiad, a ddarparwyd i erthygl ITV Cymru a gyhoeddwyd ddoe, rydych yn dweud eich bod yn dymuno annog unrhyw un sydd wedi ystyried mabwysiadu i gysylltu â'i asiantaeth mabwysiadu leol.
Hoffwn ofyn i chi a'ch adran a oes rhywfaint o waith y gallech chi ei wneud efallai sydd, mewn gwirionedd, yn tynnu sylw at yr angen, yn tynnu sylw at y mater hwn, oherwydd rwyf yn gwybod am bobl sy'n ei chael hi'n eithaf anodd mynd drwy'r system weithiau. Felly, gorau oll fyddai unrhyw beth y gallwch chi, fel adran, ei wneud i wneud y cysylltiad hwnnw a'r cydgysylltu hwnnw yn well, a gwneud y teuluoedd hynny yn gyflawn.
Felly, mewn gwirionedd, rwyf am ategu llawer o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud yn y fan yma heddiw, Gweinidog, ond a wnewch chi ateb y cwestiwn hwnnw ynglŷn â beth yn eich barn chi y gallwch ei wneud yn ymarferol i leihau nifer y plant sy'n aros mor hir i gael eu mabwysiadu, a sut yr ydych chi'n credu y gallwch chi wedyn roi mwy o gymorth i deuluoedd—. Ond mae'n ymwneud â chodi proffil hyn er mwyn peidio â bod mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae plant yn aros i gael eu mabwysiadu a rhieni sy'n daer yn eu dymuniad i fabwysiadu'r plant hynny. Diolch.