– Senedd Cymru am 6:19 pm ar 16 Hydref 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar Wythnos Mabwysiadu. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser mawr gen i allu dathlu Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol gyda chi ac i gydnabod a thalu teyrnged i'r holl unigolion gofalgar sy'n fodlon bod yn rhieni sy'n mabwysiadu a hefyd i'r rhai sy'n eu cefnogi nhw ar eu taith.
Mae bod yn rhiant yn ymrwymiad sylweddol ac yn gychwyn taith emosiynol sy'n dod â chymaint o fodlonrwydd. Ond fe wyddoch cystal â minnau nad yw bob amser yn syml bod yn rhiant ac y gall heriau godi, ac maen nhw'n codi. Ac, ar yr adegau hyn o her, efallai y bydd angen cymorth arnom ni sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu amgylchedd cartref cariadus a sefydlog—cartref sy'n galluogi ein plant i ffynnu. Mae'r cymorth hwnnw ar gael ar sawl ffurf—boed yn ffrindiau neu deulu, grwpiau cymorth, neu gan amrywiaeth o wasanaethau cyffredinol ac arbenigol.
Mae'n parhau i fod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi yn bersonol bod unigolion yn parhau i ymrwymo eu hunain i ofalu am a chefnogi plant ledled Cymru. Hoffwn i dalu teyrnged arbennig heddiw i'r rhai hynny sydd eisoes wedi mabwysiadu, ac annog unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu i fynegi diddordeb. Ac rwyf hefyd yn dymuno cydnabod y rhan y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau yn ei chwarae wrth gefnogi prosesau mabwysiadu ledled Cymru ac, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y camau a gymerir i alluogi a grymuso gwelliant yn y maes hwn.
Darperir cymorth mwy ymarferol i blant a gaiff eu mabwysiadu, pobl ifanc a theuluoedd yn rhan o fframwaith cenedlaethol sy'n ysgogi cysondeb ac yn gwella canlyniadau. Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu i gefnogi gweithwyr proffesiynol i ymgymryd â gwaith taith bywyd ym maes mabwysiadu. Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddatblygu ar y cyd â phlant, pobl ifanc a mabwysiadwyr, i sicrhau y clywir llais plant a phobl ifanc a, thrwy eu profiadau bywyd, mae'n helpu i ffurfio a llywio gwelliannau pellach.
Yn rhan o sbarduno'r agenda wella hon, rydym hefyd wedi comisiynu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn gyntaf i arwain datblygiad y pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth o iechyd sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ac i sicrhau ymchwil i well tystiolaeth o'r rheswm pam mae darpar fabwysiadwyr yn dewis peidio â pharhau â'u ceisiadau.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014. Caiff ei arwain gan lywodraeth leol, yn unol â chyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau lleol o ran mabwysiadu, ac fe'i crëwyd mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch sut y dylid gwella gwasanaethau mabwysiadu. Ac mae gwelliant yn digwydd.
Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cadarnhau bod plant yn cael eu lleoli yn gynt nag o'r blaen gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu, bod bron traean o leoliadau yn grwpiau o frodyr a chwiorydd, wrth i frodyr a chwiorydd gael eu lleoli gyda'i gilydd, bod bron pob un o'r lleoliadau mabwysiadu yn barhaus a llwyddiannus, a bod mwy o bobl yn dymuno mabwysiadu. Felly, mae'r rhain yn ganlyniadau cadarnhaol a gaiff eu colli weithiau. A dyna pam mae heddiw a'r wythnos hon yn bwysig, oherwydd ei fod yn ein galluogi i roi pwyslais haeddiannol ar lwyddiannau mabwysiadu yng Nghymru a'u cydnabod.
I barhau â'r daith o wella, mae angen rhagor o gydweithrediad a phartneriaeth i wella canlyniadau ar gyfer plant, ac i fynd i'r afael, ar y cyd, â'r profiadau andwyol yn ystod plentyndod sy'n effeithio ar blant, ni waeth beth fo'u cefndir neu strwythur teuluol. Dyna pam y mae mabwysiadu yn elfen annatod o fy rhaglen waith ar gyfer gwella canlyniadau ar gyfer plant, gyda chyngor fy ngrŵp cynghori gweinidogol.
Mae meithrin lles emosiynol a chydnerthedd plant yn allweddol i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw wedi'u hwynebu, ynghyd â rhoi'r sgiliau iddyn nhw adnabod ac ymdrin â sefyllfaoedd a digwyddiadau a all eu herio yn y dyfodol. Dyma sut y gall gwaith taith bywyd, sydd wedi gwella'n sylweddol ers sefydlu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, helpu i ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu arno a thyfu.
Cydnabyddir y bydd plant sydd wedi'u lleoli ar gyfer mabwysiadu yn aml wedi cael profiad o drawma neu golled i ryw raddau yn eu bywydau ifanc. Yn yr un modd, gall meithrin perthynas â chysylltiad cadarn â phlentyn sydd wedi dioddef trawma fod yn heriol. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen dulliau cydweithredol rhwng y partneriaid i ddarparu gwasanaethau di-dor ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi pwysleisio dro ar ôl tro yn 'Cymru Iachach'. Ceir un enghraifft o hyn yn y de-ddwyrain lle mae grŵp cydweithredol rhanbarthol y de-ddwyrain o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cydweithio i sicrhau gwell mynediad at fewnbwn seicoleg glinigol gan y gwasanaeth iechyd seicolegol i blant a theuluoedd.
Ac rydym yn gwybod nad yw heriau a thrawma bob amser yn amlwg ar unwaith. Efallai na fyddan nhw'n dod i'r amlwg tan yn ddiweddarach yn natblygiad y plentyn. Dyna pam y mae'n hanfodol bod asiantaethau mabwysiadu yn parhau i ddarparu mynediad at eu gwasanaethau a chymorth i deuluoedd pan fydd heriau yn dechrau dod i'r amlwg. Mae atal ac ymyrraeth gynnar yn egwyddorion craidd ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd, fel y mae cydweithredu a phartneriaeth hefyd. Rydym yn disgwyl i bartneriaid ddarparu dulliau system gyfan ddi-dor sy'n atal yr angen rhag gwaethygu ac yn lliniaru argyfwng.
Er mwyn ein bod â gwell dealltwriaeth o sut a phryd y daw'r profiadau hyn i'r amlwg, ac i helpu i gasglu tystiolaeth o welliant a llywio gwelliant, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod wedi comisiynu rhagor o waith gyda Phrifysgol Caerdydd sy'n parhau â'r astudiaeth o'r garfan mabwysiadu. Mae hon yn astudiaeth unigryw o bron i 400 o blant a fabwysiadwyd ar ôl bod mewn gofal, sy'n darparu lefel o fanylder am adfyd cynnar, ansawdd perthynas deuluol, iechyd seicolegol y plentyn, ac ati. Bydd y cam nesaf hwn yn ymgysylltu'n uniongyrchol â charfan o deuluoedd i archwilio eu profiadau o ffynonellau ffurfiol ac anffurfiol o gymorth mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys lles seicolegol plant a phrofiadau plant yn yr ysgol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol.
Mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn parhau i nodi a darparu amrywiaeth o gymorth mabwysiadu amserol i deuluoedd, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl i deuluoedd gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer cymorth mabwysiadu ac mae'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol ddiwallu'r anghenion hynny.
Ar gyfer y rheini sy'n ystyried mabwysiadu, ni allaf gynnig gwell anogaeth na'ch cyfeirio'n uniongyrchol at y profiadau a'r hanesion teuluol sydd ar wefan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a geiriau ingol y rhai sy'n gwybod orau. Mae Colin a Carol yn dweud:
'Mae ‘na blant mas ‘na sydd angen mamau a thadau, ac roedden ni’n gwpl oedd eisiau bod yn fam a thad.'
Mae Eileen yn dweud:
'Gall derbyn tri ar yr un pryd fod yn hynod anodd, ond mae wedi rhoi llawenydd anhygoel i mi.'
Ac mae Tony a Jacquie yn dweud:
'Mae wedi bod yn anodd, ond mae’r ddau wedi rhoi’r teulu i ni yr oeddem ni wedi bod ei eisiau erioed. A byddem yn ei wneud eto.'
Ac, yn olaf, geiriau'r rhai hynny sydd wedi eu mabwysiadu. Yn gyntaf, y grym sydd yn Jamie Baulch. Dywed ef:
'Doeddwn i erioed yn awyddus i siarad am fod yn blentyn a fabwysiadwyd tan fod yr amser yn iawn i wneud hynny. Nawr rwyf i'n hapus i ddweud wrth bawb fy mod i wedi cael magwraeth ardderchog. Rwy'n fwy aeddfed erbyn hyn ac wrth i mi edrych yn ôl ar fy mywyd rwyf i'n sylweddoli pa mor wych a rhyfeddol y mae wedi bod.'
Ac, yn ail, ond yr un mor bwysig, Nick, sy'n dweud yn syml iawn, ond yn effeithiol iawn:
'Nid yw'r mabwysiadu’n golygu dim i mi, ond mae fy rhieni’n golygu popeth.'
Felly, yfory, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â dau ddarpar fabwysiadwr newydd i glywed am eu taith bersonol tuag at greu teulu newydd.
Diben heddiw a'r wythnos hon yw cydnabod llwyddiant mabwysiadu yng Nghymru, ac anogaf yr holl Aelodau i ymuno â mi i ddathlu a hyrwyddo mabwysiadu. Diolch, Llywydd.
Onid yw hi'n braf gallu eich dilyn chi ar ôl i chi fynegi eich gwerthfawrogiad a'ch cydnabyddiaeth o'r gwaith y mae ein gwasanaethau yn ei wneud i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu a'r broses fabwysiadu a'n plant? Oherwydd rwyf i wedi cael cryn brofiad gyda rhai teuluoedd—teulu o dri phlentyn, ac, ar hyd y ffordd, rhai o'r heriau a ddaeth i'r amlwg. Roedd hi'n wych, mewn gwirionedd, pan oeddem ni'n gallu mynd i'r afael â'r heriau ac ymdrin â phethau yn gynnar, a dyna pryd y mae ymyrraeth gynnar a gwaith atal yn allweddol. Felly, hoffwn i ymuno â chi ar ran Ceidwadwyr Cymru a mynegi ein diolch diffuant i'r rhai hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau mabwysiadu ac i'r rhai sy'n mabwysiadu plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan wybod eu bod yn gwneud hynny, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gwbl briodol, i gwblhau eu teuluoedd eu hunain. Mae pawb yn gwneud gwaith mor anhygoel i ddarparu dyfodol gwell ar gyfer cannoedd o blant bob blwyddyn, ac rwy'n sicr ein bod i gyd yn cydnabod hyn ar draws y Siambr.
Ar dudalen 2, rwy'n nodi, ynghylch rhieni sy'n mabwysiadu, sut y mae angen i ni bellach mewn gwirionedd helpu i wneud pethau yn gynt ac yn haws i grwpiau o frodyr a chwiorydd, oherwydd eu bod nhw'n cyflwyno mwy o her nag un plentyn. Yn ôl adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, cafodd 300 o blant eu lleoli mewn cartrefi mabwysiadu ledled Cymru yn 2016-17 ac rwy'n croesawu'r gwelliannau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf i'n gwasanaethau mabwysiadu. Fodd bynnag, mae adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi nodi rhai ystadegau sy'n peri pryder, oherwydd, ym mis Mehefin 2018, roedd gennym ni fwy na 300 o blant yn dal i aros am gael eu mabwysiadu, ac mae bron un o bob pump o'r rhain wedi bod yn aros am dros flwyddyn, ac wrth ystyried bod blwyddyn ym mywyd plentyn yn sylweddol—.
Mae unrhyw amser aros ar gyfer rhieni sy'n dymuno mabwysiadu ac, yn wir, y plant, yn rhoi pwysau ychwanegol a straen diangen. Felly, rwy'n dra awyddus i ni ystyried gwneud beth bynnag y gallwn ei wneud i wella ein systemau hyd yn oed yn fwy mewn gwirionedd, er eu bod yn wych. Mae angen brys i ddatblygu a chyflawni dull gweithredu wedi'i dargedu yn well i ddod o hyd i deuluoedd addas ar gyfer plant sy'n flaenoriaeth ledled Cymru, ac yna symleiddio'r broses honno i annog mwy o deuluoedd i fynegi diddordeb mewn mabwysiadu.
Yn eich datganiad, a ddarparwyd i erthygl ITV Cymru a gyhoeddwyd ddoe, rydych yn dweud eich bod yn dymuno annog unrhyw un sydd wedi ystyried mabwysiadu i gysylltu â'i asiantaeth mabwysiadu leol.
Hoffwn ofyn i chi a'ch adran a oes rhywfaint o waith y gallech chi ei wneud efallai sydd, mewn gwirionedd, yn tynnu sylw at yr angen, yn tynnu sylw at y mater hwn, oherwydd rwyf yn gwybod am bobl sy'n ei chael hi'n eithaf anodd mynd drwy'r system weithiau. Felly, gorau oll fyddai unrhyw beth y gallwch chi, fel adran, ei wneud i wneud y cysylltiad hwnnw a'r cydgysylltu hwnnw yn well, a gwneud y teuluoedd hynny yn gyflawn.
Felly, mewn gwirionedd, rwyf am ategu llawer o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud yn y fan yma heddiw, Gweinidog, ond a wnewch chi ateb y cwestiwn hwnnw ynglŷn â beth yn eich barn chi y gallwch ei wneud yn ymarferol i leihau nifer y plant sy'n aros mor hir i gael eu mabwysiadu, a sut yr ydych chi'n credu y gallwch chi wedyn roi mwy o gymorth i deuluoedd—. Ond mae'n ymwneud â chodi proffil hyn er mwyn peidio â bod mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae plant yn aros i gael eu mabwysiadu a rhieni sy'n daer yn eu dymuniad i fabwysiadu'r plant hynny. Diolch.
Diolch ichi, Janet, a diolch am eich anogaeth hefyd i deuluoedd a allai fod yn dymuno mynegi diddordeb. Rydym ni'n dymuno i fwy o deuluoedd fynegi diddordeb, a theuluoedd o bob lliw a llun, hefyd. Ond rydym ni'n dymuno gweld mwy o deuluoedd yn mynegi diddordeb, oherwydd y bu gennym rhyw 300 o blant, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn rhan o'r broses fabwysiadu; rydym yn gwybod bod gennym ryw 350 yn mynd drwy'r broses ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio y bydd pob un yn llwyddiannus, ond mae angen mwy o ddarpar deuluoedd i fynegi diddordeb. A gallwn ni chwarae rhan yn hynny, yn sicr, fel unigolion etholedig, oherwydd bod gennym ni dipyn o ddylanwad ein hunain yn y ffordd yr ydym yn hyrwyddo'r hyn sy'n digwydd yr wythnos hon, yn enwedig, wrth i ni sefyll yma heddiw. Ond gallwn wneud mwy hefyd wrth weithio gydag awdurdodau lleol. Hoffwn i annog yr holl awdurdodau lleol, yn ogystal ag asiantaethau, i barhau â'r gwaith maen nhw'n ei wneud a'i ehangu i annog darpar deuluoedd mabwysiadu i fynegi diddordeb hefyd.
Ni all fod yr un wythnos hon yn unig; mae angen iddo fod yn rhywbeth cyson. A dyna, yn fy marn i, lle mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn chwarae rhan gref iawn yn gynyddol—mae'n hyrwyddo gwaith mabwysiadu a'r cyfleoedd yn y lle hwn. Ond rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod llawer o newyddion da a chynnydd yn cael ei wneud ac rwy'n credu bod sefydlu'r fframwaith cenedlaethol yn helpu i ysgogi hynny. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei hun yn helpu i'w ysgogi.
Ond, hefyd, mae rheoli perfformiad yn bwysig iawn. Erbyn hyn, rydym wedi rhoi ar waith yr hyn, yn fy marn i, sydd wedi'i gydnabod fel bod yn fframwaith rheoli perfformiad mwy cadarn ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu. Mae wedi bod yn ddyfais bwysig oherwydd pan allwch chi fesur hyn a phan allwch chi fesur amrywiadau rhanbarthol hefyd, mae'n tueddu i ysgogi gwelliant oherwydd ei fod yn caniatáu'r gymhariaeth ystyrlon rhwng gwahanol ardaloedd o Gymru—ac mae gwahaniaethau, er bod y duedd tuag at i fyny, ceir rhai ardaloedd sydd yn dal i fod ar ei hôl hi. Mae'n ein galluogi ni wedyn, fel Gweinidogion, fel Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, fel partneriaethau lleol, i ychwanegu her wirioneddol at y system a nodi arferion gorau a'u cyflwyno ym mhob man.
Rydym yn credu bod y broses rheoli perfformiad fwy cadarn yn gam sylweddol ymlaen i roi mynediad cyfartal at wasanaethau a chodi ansawdd cyffredinol hefyd. Mae llawer i'w wneud eto. Rydym ni wedi cael yr effaith gadarnhaol honno o ran lleihau'r cyfnod o amser rhwng yr adeg pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal a phan fydd yn cael ei fabwysiadu—mae hynny wedi lleihau. Ceir llai o blant yn aros mwy na chwe mis i gael eu paru. Ond, mewn gwirionedd, rydym yn credu y gallwn ni wneud mwy, a bydd rhai o'r mesurau yr ydym yn eu defnyddio yn awr i adolygu a gweddnewid rhannau o'r system yn cyfateb i'n huchelgais na ddylai unrhyw blentyn aros mis hyd yn oed i gael lle ar y gofrestr. Dylen nhw fod ar y gofrestr ac yna gyda gallu—gallu mwy hyblyg—darpar deuluoedd sy'n mabwysiadu i baru â'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd. Felly, drwy'r amser, rydym yn ceisio dod o hyd i'r ffyrdd newydd hynny o wella perfformiad a sicrhau perfformiad cyson ledled Cymru.
A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog o ran dathlu Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu? Ac, yn amlwg, rydym ni i gyd, ar y meinciau hyn, yn hapus iawn i ymuno â'r dathliadau helaeth ar gyfer yr wythnos mabwysiadu. Rwy'n hapus iawn i eilio'r deyrnged i'r holl ddarpar rieni fydd yn mabwysiadu a'r rhai sydd wedi mabwysiadu plant a phobl ifanc dros y blynyddoedd. Mae hynny yn aruthrol yn wir. Rwy'n llawn parch, mewn gwirionedd. Rwy'n llawn parch, oherwydd ceir agenda enfawr yma, yn amlwg. Roeddwn i'n arfer synnu, flynyddoedd yn ôl, yn fy nghlinigau babanod yng nghanolfan feddygol Fforest-fach—. Roeddwn i'n arfer gweld babanod bach a oedd yn union yr un fath â fy mabanod fy hun ar y pryd, ond bydden nhw'n cael profiadau gwahanol iawn i fy mhlant i, ac fe allech chi weld effaith greulon amrywiaeth eang o brofiadau plentyndod andwyol a oedd yn niweidio plant ifanc, ac nid eu bai nhw oedd hynny. Ac roedd yn gwbl ofnadwy eu gweld. Mae yr un math o sefyllfa, yn anffodus, yn dal i fodoli y dyddiau hyn, ac weithiau mae'n ymddangos bod yr ymadrodd, 'profiadau plentyndod andwyol' yn cuddio'r creulondeb a'r cam-drin sy'n digwydd o hyd, ac mae'r niwed yn ddwfn ac yn para am hir. Ac yn amlwg, gall aros yn hir yn y system gofal weithiau fod yr un mor greulon hefyd. Ac felly, mewn gwirionedd mae mabwysiadu yn eithriadol o bwysig, ac rwy'n canmol, yn amlwg, yn ogystal, waith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol hefyd.
Nawr, yn syml, mae fy nghwestiwn yn cynnwys—. Yn syml, felly, mae mabwysiadu'n well, yn amlwg, nag aros yn y system gofal am gyfnod hir o amser. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa mor ffyddiog ydyw bod y pwyslais presennol ar geisio sicrhau bod plant yn gallu dychwelyd i'w rhieni genedigol, er yn ddealladwy, bod y math hwnnw o bwyslais ar geisio sicrhau y gall plant ddychwelyd at eu rhieni genedigol, yn cael ei ystyried dim ond pan fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n rhan o'r sefyllfa honno yn derbyn bod hyn yn bosibilrwydd realistig? Oherwydd, mae'n fater pwysig, ac mae sefyllfaoedd yn eithriadol o anodd. Ni ellir rhuthro penderfyniadau, ond yn amlwg mae'n rhaid iddyn nhw fod y penderfyniadau cywir hefyd. Diolch.
Dai, diolch yn fawr iawn, ac ar y pwynt pwysig iawn hwnnw, credaf mai dyma pam, yn rhyfedd iawn, nad yw'r gwaith yn y sector mabwysiadu yn gwbl ar wahân i'r mater ehangach o ran plant sy'n derbyn gofal, a gwella canlyniadau ar gyfer pob plentyn. Rwy'n credu, yn y gwaith eang iawn hwn, mai'r hyn sydd fwyaf pwysig ac y mae cefnogaeth statudol iddo, hefyd, yn seiliedig ar ein cred mewn hawliau plant, yw mai'r plentyn sy'n dod yn gyntaf. Bydd ef a minnau weithiau, fel holl Aelodau'r Cynulliad, yn cael rhai sgyrsiau heriol â rhieni genedigol a fydd yn dweud, 'Wel, y lles gorau i'r plentyn fydd iddo aros gyda mi', ac eto y cyngor proffesiynol aml-asiantaeth yw: 'er ein bod yn cydymdeimlo â'r rhieni, y lle gorau mewn gwirionedd, yw rhywle arall.' Weithiau, fodd bynnag, mae hi fel arall, a chyda'r gefnogaeth therapiwtig gywir, yr ymyriadau cywir ar waith gyda'r teulu, gellir canfod atebion ble gellir, yn ddiogel, eu cadw yn y teulu, yn aml gyda chymorth ychwanegol eithaf dwys, ond mae'n rhaid bod hyn er budd pennaf y plentyn. Ac, yn rhyfedd iawn, dyna ble y mae gwaith y tu hwnt i fabwysiadu ond mewn gwirionedd o fewn y grŵp cynghori, a'r ffrydiau gwaith y maen nhw wedi eu gosod o'u blaenau, gan gynnwys un, sef—. Mewn gwirionedd, eu prif ffrwd waith ar hyn o bryd, mae'n debyg, yw lleihau'n ddiogel nifer y plant sy'n dod yn blant sy'n derbyn gofal, ond mae hefyd ynglŷn â'r ansawdd ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal.
Ond mae mabwysiadu yn cynnig, rydym yn gwybod, gyda'r cymorth cywir yn ei le, ffordd dda iawn i mewn i fywyd teuluol—gyda'r cymorth cywir yn ei le, ffordd dda iawn o ddychwelyd i fywyd teuluol, a hefyd rhywbeth sy'n gallu cael dylanwad parhaus a dwfn ar ddatblygiad plant a phobl ifanc. Drwy ddathlu'r wythnos hon, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, mae'n galonogol gweld y llwyddiant yr ydym yn ei gael yn cynyddu'r niferoedd, ond hefyd bod yr achosion hynny o fabwysiadu yn llwyddiannus i raddau helaeth—er gwaethaf y trallod, yn aml iawn, gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn gynharach mewn bywyd, sy'n dal i fod angen ymyriadau therapiwtig i helpu, a bydd angen cymorth ar y teulu hefyd. Ond mae'n gweithio, ac mae pobl yn gweithio drwy hyn.
Fel yntau—a defnyddiodd y geiriau hynny ei fod 'yn llawn parch' tuag at y bobl hynny sy'n mynd ar y daith hon. Mewn gwirionedd, mae llawer ohonyn nhw sy'n mynd ar y daith hon, yn cael gymaint allan ohono hefyd, ond rwyf hefyd yn llawn parch oherwydd yr her o wneud hyn. Nid yw'n hawdd magu unrhyw blentyn, ond mewn gwirionedd i ddweud, 'rydym ni'n mynd i gymryd plentyn y gwyddom ei fod yn dod atom ni â phroblemau cymhleth, y byddwn ni'n gorfod gweithio drwyddyn nhw am flynyddoedd lawer' ac i wneud hynny, wel, mae'n eithaf syfrdanol. Ond, rydym ni eisiau i lawer mwy o bobl ddod ymlaen a gwneud hynny hefyd.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn ymuno â'r Gweinidog i roi teyrnged i'r rheini a gynigiodd eu hunain i fabwysiadu plentyn sydd angen cartref cariadus a sefydlog, ac rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Er nad yw'r Gweinidog wedi sôn am niferoedd o ran y gwelliannau a oedd yn nodi yn ei ddatganiad, croesawaf y newyddion y lleolir plant yn gynt gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu, bod cyfran sylweddol o grwpiau o frodyr a chwiorydd yn cael eu rhoi gyda'i gilydd, a bod mwy o bobl eisiau mabwysiadu. Mae'n newyddion da, yn yr un modd, fod y mwyafrif o achosion o fabwysiadu yn barhaol ac yn llwyddiannus. Fel y dywed y Gweinidog, mae'r wythnos mabwysiadu yn cynnig cyfle i ganolbwyntio ar fabwysiadu a chydnabod llwyddiannau Cymru.
Fodd bynnag, mae hefyd yn gyfle i'r Gweinidog a'i adran feddwl a oes rhwystrau i bobl sy'n gwneud cais i fabwysiadu neu sy'n parhau gyda'r broses fabwysiadu. Mae hefyd yn gyfnod priodol i'r Gweinidog ystyried a yw'r canllawiau y mae ef a'i adran yn eu darparu i asiantaethau mabwysiadu a gwasanaethau y gorau y gallan nhw fod, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn aros am rieni mabwysiadol yn hirach nag sy'n gwbl angenrheidiol. Felly a yw'r Gweinidog yn bwriadu adolygu'r canllawiau hynny ac a fydd yn adrodd yn ôl i'r lle hwn ar ganlyniadau ei adolygiad?
Rwy'n credu'n gryf mai'r ansawdd rhianta y gall mabwysiadwr ei gynnig i blentyn ddylai droi'r fantol pan leolir plentyn gyda rhieni mabwysiadol, cyn yr holl ystyriaethau eraill. Mae gwefan Barnardo's yn awgrymu bod anhawster ychwanegol i ganfod cartrefi mabwysiadol ar gyfer plant duon a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant sydd ag ymddygiad heriol.
Tybed a yw'r Gweinidog yn ymwybodol o'r fenter o'r enw Mabwysiadu Gyda'n Gilydd, a gefnogir gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac y soniwyd amdani mewn erthygl ar wefan y BBC yn gynharach yr wythnos hon? Rwy'n cymryd ei fod ef. Mae'n ymddangos ei bod yn ffordd dda i leoli plant. Ond, er y dywed ei bod wedi'i thargedu i ddod o hyd i gartrefi cariadus ar gyfer plant pedair oed a hŷn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant ag anghenion ychwanegol, a phlant ag anghenion meddygol neu ansicrwydd meddygol—mewn geiriau eraill, y plant hynny y nodwyd eu bod yn aros hwyaf am deulu—nid yw'n sôn am blant o gefndir lleiafrif ethnig.
Pam, gofynnaf imi fy hun, pan fo Barnardo's wedi nodi bod plant duon a lleiafrifoedd ethnig yn grŵp sydd angen ystyriaeth arbennig, y mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn eu hepgor, onid ydyn nhw hefyd yn perthyn i un o'r categorïau eraill? Mae hynny, wrth gwrs, yn gwestiwn sy'n fwy priodol i'w ofyn i Mabwysiadu Gyda'n Gilydd, ond a ydych chi'n pryderu am y gwahaniaeth ymagwedd tybiedig ac a allai gwahaniaeth o'r fath effeithio ar y nifer o rieni sy'n cynnig eu hunain i fabwysiadu plant duon a lleiafrifoedd ethnig?
Mae'n anodd canfod a yw asiantaethau ac awdurdodau lleol sy'n gweithredu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yn hollol agored i fabwysiadu rhwng yr hiliau. A ydych chi'n cytuno â mi y dylai gallu'r rhiant neu'r rhieni sy'n mabwysiadu i ddarparu cartref sefydlog a chariadus fod y pryder pennaf wrth ddod o hyd i gartref teuluol parhaol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal? Ac, fel yr ydym ni yn hollol briodol yn gwbl agored i gyplau hoyw fabwysiadu, dylem ni hefyd fod yn agored i fabwysiadu plant mewn teuluoedd o ethnigrwydd gwahanol iddynt eu hunain.
Pwynt arall y gallai fod darpar fabwysiadwyr yn ei ystyried yn annymunol yw bod un asiantaeth yn dweud bod yn rhaid i ddarpar fabwysiadwyr fod yn berchnogion cartrefi neu gael tenantiaeth sicr. Rwy'n bryderus bod hyn yn eithrio nifer enfawr o ddarpar fabwysiadwyr. Mae tenantiaethau sicr yn eithaf anodd i ddod o hyd iddyn nhw erbyn hyn yng Nghymru ac mae rhentu yn cynyddu, yn enwedig gyda phrisiau a gofynion blaendal fel y maen nhw. Rydym yn mynd i gael problem enfawr i ddod o hyd i gartrefi cariadus a sefydlog i blant os ydym ni'n eithrio pobl sy'n rhentu o'r gronfa o ddarpar fabwysiadwyr.
Mae'n ymddangos yn eironi creulon iawn y byddai asiantaeth yn fodlon gadael plentyn mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddo symud o gartref maeth i gartref maeth yn rheolaidd neu o gartref gofal i gartref gofal dim ond oherwydd nad yw'r asiantaeth eisiau ei roi mewn teulu y gallai fod angen iddyn nhw symud. Mae symud i dŷ gwahanol yn gam ffisegol, nid yw yr un fath â symud i deulu gwahanol.
Felly, a ydych chi'n fodlon y dylai morgais neu denantiaeth sicr fod yn rhagofyniad ar gyfer mabwysiadu? Os ydych chi, yn hytrach nag atal pobl sy'n rhentu ar sail byrddaliol rhag dod yn rhieni mabwysiadol, oni ddylech chi gyflwyno polisïau i gynyddu hyd y tenantiaethau byrddaliol? Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn cydgysylltu eu gwaith er budd plant a phobl ifanc?
Mae'n galonogol bod byrddau iechyd hefyd yn ystyried cydweithio i'w gwneud hi'n haws cael mewnbwn seicoleg glinigol. Ac fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog sut bydd ef yn dysgu gwersi o'r gwaith hwn, a chyflwyno'r gwersi hynny ledled Cymru. Yn olaf, hoffwn ymuno â'r Gweinidog i ddathlu mabwysiadu. Ac rwy'n gobeithio, y tro nesaf y daw'r Gweinidog i'r lle hwn i roi adroddiad ar fabwysiadu yng Nghymru, y bydd yn gallu adrodd bod y mesurau y mae'n eu gweithredu yn awr, wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Michelle. Os gallaf ddechrau gyda'r pwynt cyntaf a wnaethoch chi, ar ôl ichi groesawu'r dathliad hwn yr wythnos hon a hyrwyddo mabwysiadu, fe wnaethoch chi sôn am yr her ynghylch beth yw'r canlyniadau yr ydym ni'n eu cael. Cyfeiriais at rai ohonyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, ond rwy'n hapus i egluro: lleolwyd mwy na 300 o blant y llynedd mewn cartref mabwysiadol newydd; cafodd tua 300 o orchmynion mabwysiadu plant eu cyhoeddi; ac mae 350 o blant erbyn hyn gyda'r awdurdod cyfreithiol i gael eu lleoli, sy'n aros i gael eu paru neu eu lleoli gyda theulu newydd ar ddiwedd y flwyddyn. Beth arall? Mae gennym ni fwy na 500 o blant ble mae gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar waith. Mae'r Gwasanaeth Cenedlaethol wedi hwyluso bron i 3,500 o drefniadau cyswllt blwch llythyrau gweithredol. Maen nhw wedi darparu gwasanaeth i fwy na 320 o rieni genedigol, ac ati. Mae'r ffigyrau hynny i gyd yn dangos gwelliant mewn perfformiad, o safbwynt cenedlaethol, fodd bynnag, fel y cyfeiriais o'r blaen, un o'r materion y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yw cael cysondeb ledled Cymru, yn yr holl ranbarthau.
Rwy'n credu y gwnaethoch chi hefyd sôn am yr agwedd o gyflymu'r broses—ai dyna oedd eich pwynt?
Nac oedd, mewn gwirionedd.
Dim ond i roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad, mae gennym ni ychydig o ddarnau ymgynghori sy'n fyw ar hyn o bryd ym maes deddfwriaeth fabwysiadu, ac maen nhw'n ymwneud â chyflymu'r broses mewn gwirionedd. Dyna'r cyntaf, sy'n cwmpasu rheoliadau newydd sy'n ofynnol, sy'n deilio o'r rheoliadau risg. Ac mae'r ail yn cynnwys cynnig i gyflwyno system dau gam ar gyfer asesu a chymeradwyo pobl sydd eisiau mabwysiadu, sy'n ymdrin â rhai o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu crybwyll, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar leihau'r amserlen pan gaiff manylion plant a darpar fabwysiadwyr cymeradwy eu hychwanegu at gofrestr Cymru i uchafswm o un mis, a fyddai'n gam mawr ymlaen.
Nid yw llawer o'r pwyntiau a godwyd gennych chi o ran y meini prawf ar gyfer teuluoedd sy'n mabwysiadu mewn gwirionedd wedi eu dwyn i fy sylw fel materion o bwys. Mae hi wedi bod yn fwy ynglŷn â pharu mewn gwirionedd y teulu iawn gyda'r plentyn neu'r person ifanc iawn yn fwy nag unrhyw beth arall; nid yw wedi bod yn fater yn ymwneud â morgeisi, ac ati. Ond byddaf yn edrych ar hynny, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ar y mater. Gofynnodd hi pa hyder sydd gennym ni i fwrw ymlaen â hyn. Mae gennym ni'r hyder hwnnw—un, oherwydd y gwelliant mewn perfformiad y gallwn ni ei weld eisoes, ond hefyd oherwydd bod gennym ni'r Fframwaith Cenedlaethol ar waith, gan fod gennym ni bellach ragolygon cenedlaethol strategol gyda'r gwasanaeth cenedlaethol, ac am fod gennym ni asesiad ar y gweill o beth yr ydym ni yn ei wneud hefyd. Ond byddaf yn hapus i ysgrifennu atoch ar y mater a godwyd gennych chi yn ymwneud â diogelwch deiliadaeth. Dof yn ôl at y pwynt a ddywedais wrth Dai hefyd: mae popeth a wnawn ni yn y maes hwn bob amser gyda'r pwys mwyaf ar les y plentyn, yn gyntaf ac yn bennaf, yn ogystal â pharu gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu. Ond byddaf yn ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r mater hwnnw, oherwydd ni ddygwyd ef i fy sylw o'r blaen, ac nid yw wedi codi fel problem, felly byddaf yn ceisio darganfod ai dyna yw'r achos. Os oes gennych chi unrhyw enghreifftiau penodol ble bu hynny yn broblem, byddwn yn hapus pe byddech chi yn eu rhannu â mi hefyd.
Yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, rwy'n croesawu yn fawr iawn ddatganiad y Gweinidog dros blant yn dathlu wythnos mabwysiadu, a'r bwrlwm o waith arloesol sy'n digwydd nawr ledled Cymru, mewn cartrefi ac yn ein hasiantaethau. Mae'r Gweinidog, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet, wedi hyrwyddo ers peth amser yr egwyddor o gydweithio rhwng asiantaethau sy'n bartneriaid inni, fel y pwysleisiwyd yn 'Cymru Iachach'. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn cydnabod yn ffurfiol yn y Siambr hon yr arferion arloesol sy'n torri tir newydd yn y maes hwn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ar draws de-ddwyrain Cymru yn arbennig? Mae cydweithrediad rhanbarthol de-ddwyrain Cymru, sy'n cynnwys y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, wedi gweithio'n strategol gyda'i gilydd i sicrhau bod y gwasanaethau seicoleg glinigol sydd eu hangen ar gael yn rhwyddach. Felly, a fyddai'n cydnabod felly enghreifftiau o ragoriaeth o'r fath o fewn y Fframwaith Cenedlaethol newydd, a sicrhau bod gwaith arloesol o'r fath yn cael ei gydnabod, ei wella a'i atgynhyrchu ar draws Cymru, nid yn unig i blant sydd wedi eu mabwysiadu ar hyn o bryd, ond hefyd ar gyfer plant a gaiff eu mabwysiadu yn y dyfodol a'u teuluoedd gydol oes y mae angen mawr amdanyn nhw?
Rhianon, ie, diolch yn fawr iawn. Ac, unwaith eto, diolch ichi am eich cefnogaeth i'r maes hwn ac am hyrwyddo mabwysiadu hefyd. Ac yn sicr mae'r de-ddwyrain yn bwrw ymlaen. Ceir enghreifftiau eraill, rhaid imi ddweud, mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ond mae'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn ardal y de-ddwyrain, yn enwedig gyda mynediad i seicoleg glinigol, wedi bod yn torri tir newydd, ac un o'r pethau y bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn edrych i'w gwneud yw gweld sut y gallwn ni wedyn atgynhyrchu hyn yn ehangach ledled Cymru. Oherwydd dyna'r ffordd, yn y math hwnnw o bartneriaeth, dull cydweithredol, strategol, ond drwy gyflwyno arferion gorau a gwneud yr arferion hynny yn gyffredin, y byddwn ni'n gweld gwelliannau gwirioneddol. Oherwydd, yn aml iawn, o ran teuluoedd sy'n mabwysiadu, mae angen iddyn nhw wybod—a bydd yr astudiaethau yn dangos inni, bydd astudiaeth Prifysgol Caerdydd yn dangos inni—bod angen y gefnogaeth gywir ar yr adeg briodol, pan fyddan nhw ei hangen, er mwyn osgoi i bethau waethygu neu gyrraedd pwynt o argyfwng. Felly, mae'r math o waith sy'n digwydd yn ne-ddwyrain Cymru yn rhywbeth y dylem ni ei hyrwyddo ac yna ceisio gwneud yn siŵr ei fod yn digwydd ar draws y sector hefyd. Mae gennym ni nawr lawer o'r enghreifftiau hyn o arferion da a chredaf fod llawer o hynny yn cael ei ddatblygu drwy'r Fframwaith Cenedlaethol a thrwy'r gwasanaeth cenedlaethol hefyd. Felly, ie, a phan fydd hi'n gadael y fan yma heddiw rwy'n siŵr y bydd hi—rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hi—yn mynd a gwneud yn siŵr yn ei chyfryngau lleol ac ati ei bod hi'n hyrwyddo'r angen hwnnw am ragor o deuluoedd i gynnig eu hunain.
Diolch i'r Gweinidog a dyna ni, dyna ddiwedd ar ein trafodion am heddiw.