10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 16 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:20, 16 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Mae bod yn rhiant yn ymrwymiad sylweddol ac yn gychwyn taith emosiynol sy'n dod â chymaint o fodlonrwydd. Ond fe wyddoch cystal â minnau nad yw bob amser yn syml bod yn rhiant ac y gall heriau godi, ac maen nhw'n codi. Ac, ar yr adegau hyn o her, efallai y bydd angen cymorth arnom ni sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu amgylchedd cartref cariadus a sefydlog—cartref sy'n galluogi ein plant i ffynnu. Mae'r cymorth hwnnw ar gael ar sawl ffurf—boed yn ffrindiau neu deulu, grwpiau cymorth, neu gan amrywiaeth o wasanaethau cyffredinol ac arbenigol.

Mae'n parhau i fod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi yn bersonol bod unigolion yn parhau i ymrwymo eu hunain i ofalu am a chefnogi plant ledled Cymru. Hoffwn i dalu teyrnged arbennig heddiw i'r rhai hynny sydd eisoes wedi mabwysiadu, ac annog unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu i fynegi diddordeb. Ac rwyf hefyd yn dymuno cydnabod y rhan y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau yn ei chwarae wrth gefnogi prosesau mabwysiadu ledled Cymru ac, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y camau a gymerir i alluogi a grymuso gwelliant yn y maes hwn.

Darperir cymorth mwy ymarferol i blant a gaiff eu mabwysiadu, pobl ifanc a theuluoedd yn rhan o fframwaith cenedlaethol sy'n ysgogi cysondeb ac yn gwella canlyniadau. Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu i gefnogi gweithwyr proffesiynol i ymgymryd â gwaith taith bywyd ym maes mabwysiadu. Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddatblygu ar y cyd â phlant, pobl ifanc a mabwysiadwyr, i sicrhau y clywir llais plant a phobl ifanc a, thrwy eu profiadau bywyd, mae'n helpu i ffurfio a llywio gwelliannau pellach.

Yn rhan o sbarduno'r agenda wella hon, rydym hefyd wedi comisiynu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn gyntaf i arwain datblygiad y pecyn cymorth codi ymwybyddiaeth o iechyd sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ac i sicrhau ymchwil i well tystiolaeth o'r rheswm pam mae darpar fabwysiadwyr yn dewis peidio â pharhau â'u ceisiadau.

Sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014. Caiff ei arwain gan lywodraeth leol, yn unol â chyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau lleol o ran mabwysiadu, ac fe'i crëwyd mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch sut y dylid gwella gwasanaethau mabwysiadu. Ac mae gwelliant yn digwydd.

Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cadarnhau bod plant yn cael eu lleoli yn gynt nag o'r blaen gyda theuluoedd sy'n mabwysiadu, bod bron traean o leoliadau yn grwpiau o frodyr a chwiorydd, wrth i frodyr a chwiorydd gael eu lleoli gyda'i gilydd, bod bron pob un o'r lleoliadau mabwysiadu yn barhaus a llwyddiannus, a bod mwy o bobl yn dymuno mabwysiadu. Felly, mae'r rhain yn ganlyniadau cadarnhaol a gaiff eu colli weithiau. A dyna pam mae heddiw a'r wythnos hon yn bwysig, oherwydd ei fod yn ein galluogi i roi pwyslais haeddiannol ar lwyddiannau mabwysiadu yng Nghymru a'u cydnabod.

I barhau â'r daith o wella, mae angen rhagor o gydweithrediad a phartneriaeth i wella canlyniadau ar gyfer plant, ac i fynd i'r afael, ar y cyd, â'r profiadau andwyol yn ystod plentyndod sy'n effeithio ar blant, ni waeth beth fo'u cefndir neu strwythur teuluol. Dyna pam y mae mabwysiadu yn elfen annatod o fy rhaglen waith ar gyfer gwella canlyniadau ar gyfer plant, gyda chyngor fy ngrŵp cynghori gweinidogol.

Mae meithrin lles emosiynol a chydnerthedd plant yn allweddol i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw wedi'u hwynebu, ynghyd â rhoi'r sgiliau iddyn nhw adnabod ac ymdrin â sefyllfaoedd a digwyddiadau a all eu herio yn y dyfodol. Dyma sut y gall gwaith taith bywyd, sydd wedi gwella'n sylweddol ers sefydlu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, helpu i ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu arno a thyfu.

Cydnabyddir y bydd plant sydd wedi'u lleoli ar gyfer mabwysiadu yn aml wedi cael profiad o drawma neu golled i ryw raddau yn eu bywydau ifanc. Yn yr un modd, gall meithrin perthynas â chysylltiad cadarn â phlentyn sydd wedi dioddef trawma fod yn heriol. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen dulliau cydweithredol rhwng y partneriaid i ddarparu gwasanaethau di-dor ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi pwysleisio dro ar ôl tro yn 'Cymru Iachach'. Ceir un enghraifft o hyn yn y de-ddwyrain lle mae grŵp cydweithredol rhanbarthol y de-ddwyrain o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cydweithio i sicrhau gwell mynediad at fewnbwn seicoleg glinigol gan y gwasanaeth iechyd seicolegol i blant a theuluoedd.

Ac rydym yn gwybod nad yw heriau a thrawma bob amser yn amlwg ar unwaith. Efallai na fyddan nhw'n dod i'r amlwg tan yn ddiweddarach yn natblygiad y plentyn. Dyna pam y mae'n hanfodol bod asiantaethau mabwysiadu yn parhau i ddarparu mynediad at eu gwasanaethau a chymorth i deuluoedd pan fydd heriau yn dechrau dod i'r amlwg. Mae atal ac ymyrraeth gynnar yn egwyddorion craidd ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd, fel y mae cydweithredu a phartneriaeth hefyd. Rydym yn disgwyl i bartneriaid ddarparu dulliau system gyfan ddi-dor sy'n atal yr angen rhag gwaethygu ac yn lliniaru argyfwng.

Er mwyn ein bod â gwell dealltwriaeth o sut a phryd y daw'r profiadau hyn i'r amlwg, ac i helpu i gasglu tystiolaeth o welliant a llywio gwelliant, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod wedi comisiynu rhagor o waith gyda Phrifysgol Caerdydd sy'n parhau â'r astudiaeth o'r garfan mabwysiadu. Mae hon yn astudiaeth unigryw o bron i 400 o blant a fabwysiadwyd ar ôl bod mewn gofal, sy'n darparu lefel o fanylder am adfyd cynnar, ansawdd perthynas deuluol, iechyd seicolegol y plentyn, ac ati. Bydd y cam nesaf hwn yn ymgysylltu'n uniongyrchol â charfan o deuluoedd i archwilio eu profiadau o ffynonellau ffurfiol ac anffurfiol o gymorth mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys lles seicolegol plant a phrofiadau plant yn yr ysgol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol.

Mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn parhau i nodi a darparu amrywiaeth o gymorth mabwysiadu amserol i deuluoedd, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl i deuluoedd gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer cymorth mabwysiadu ac mae'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol ddiwallu'r anghenion hynny.

Ar gyfer y rheini sy'n ystyried mabwysiadu, ni allaf gynnig gwell anogaeth na'ch cyfeirio'n uniongyrchol at y profiadau a'r hanesion teuluol sydd ar wefan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a geiriau ingol y rhai sy'n gwybod orau. Mae Colin a Carol yn dweud:

'Mae ‘na blant mas ‘na sydd angen mamau a thadau, ac roedden ni’n gwpl oedd eisiau bod yn fam a thad.'

Mae Eileen yn dweud:

'Gall derbyn tri ar yr un pryd fod yn hynod anodd, ond mae wedi rhoi llawenydd anhygoel i mi.'

Ac mae Tony a Jacquie yn dweud:

'Mae wedi bod yn anodd, ond mae’r ddau wedi rhoi’r teulu i ni yr oeddem ni wedi bod ei eisiau erioed. A byddem yn ei wneud eto.'

Ac, yn olaf, geiriau'r rhai hynny sydd wedi eu mabwysiadu. Yn gyntaf, y grym sydd yn Jamie Baulch. Dywed ef:

'Doeddwn i erioed yn awyddus i siarad am fod yn blentyn a fabwysiadwyd tan fod yr amser yn iawn i wneud hynny. Nawr rwyf i'n hapus i ddweud wrth bawb fy mod i wedi cael magwraeth ardderchog. Rwy'n fwy aeddfed erbyn hyn ac wrth i mi edrych yn ôl ar fy mywyd rwyf i'n sylweddoli pa mor wych a rhyfeddol y mae wedi bod.'

Ac, yn ail, ond yr un mor bwysig, Nick, sy'n dweud yn syml iawn, ond yn effeithiol iawn:

'Nid yw'r mabwysiadu’n golygu dim i mi, ond mae fy rhieni’n golygu popeth.'

Felly, yfory, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â dau ddarpar fabwysiadwr newydd i glywed am eu taith bersonol tuag at greu teulu newydd.

Diben heddiw a'r wythnos hon yw cydnabod llwyddiant mabwysiadu yng Nghymru, ac anogaf yr holl Aelodau i ymuno â mi i ddathlu a hyrwyddo mabwysiadu. Diolch, Llywydd.