Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 16 Hydref 2018.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Er, mae'n rhaid imi ddweud, mae'n rhyfedd ei fod yn gwneud y datganiad hwn pan fo Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori ar ffurf cronfa ffyniant gyffredin newydd y DU yn y dyfodol, ac wedi ymrwymo hefyd i wneud yn siŵr ei fod yn parchu'r setliad datganoli o ran y ffordd y caiff y gronfa honno ei gweinyddu. Fe'i caf yn rhyfedd iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn dod yma heddiw, yn dweud wrthym ni y bydd yn gwario mwy eto o arian gwerthfawr y trethdalwyr ar sefydlu bydysawd cyfochrog, o ran dosbarthu cronfeydd rhanbarthol, drwy sefydlu'r grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol—cwango arall unwaith eto, a dweud y gwir, gyda mwy o swyddi ar gyfer gwŷr a gwragedd dethol y mae'r Llywodraeth hon sydd gennym ni, sy'n rhoi ffafrau i'w chyfeillion, eisiau gallu eu dosbarthu.
Gadewch imi ddweud ar goedd yn awr nad oes gennyf i ddim ffydd o gwbl yng ngallu'r Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru i ddosbarthu unrhyw arian ledled Cymru mewn ffordd deg a chyfiawn i'r rhannau hynny o'r wlad sydd eu hangen. Does ond angen edrych ar y setliad llywodraeth leol—does ond angen edrych ar y setliad llywodraeth leol a gawsom ni'r wythnos diwethaf: mae'n glir iawn eich bod yn hoffi dosbarthu arian i leoedd penodol yng Nghymru, er anfantais i eraill, gan gynnwys y gogledd, y canolbarth, a'r gorllewin. Yn wir, yr hyn yr hoffwch chi ei wneud fel Llywodraeth yw dosbarthu arian i'ch cyfeillion yn y Blaid Lafur, mewn rhannau eraill o'r wlad, o ran awdurdodau lleol sy'n cael eu rhedeg felly. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi mwy o eglurder inni ynglŷn â beth fydd union gostau y corff hwn—y grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol hwn—a pham ydych chi'n gweithredu'n gynamserol drwy wneud y datganiadau hyn yn awr, pan rydych chi eto i gael unrhyw fath o ddogfen ymgynghori gan Lywodraeth y DU.
Rydym ni i gyd yn gwybod bod ar Lywodraeth Cymru eisiau ceisio clochdar am lwyddiant y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd hyd yn hyn. Ond y gwir amdani yw y buon nhw ymhell o fod yn llwyddiant. Yn wir, rydym ni wedi mynd tuag yn ôl o ran ein gwerth ychwanegol crynswth cymharol yn y DU, fel cyfran o werth ychwanegol crynswth y DU. Mae hynny'n destun cywilydd. Yr unig reswm bod y cyfansymiau di-waith wedi gostwng yn y meysydd hyn yw oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Dorïaidd dros y ffin, yn Llundain, sydd wedi peri i'r cyfanswm di-waith ostwng, gan greu miloedd o swyddi bob wythnos ers inni ddod i rym yn ôl yn 2010. Felly, rwy'n siomedig iawn eich bod chi'n gweithredu'n gynamserol, eich bod yn gwneud y datganiad hwn heddiw, y byddwch chi'n gwario mwy eto o arian a lafuriwyd i'w ennill ac sy'n perthyn i drethdalwyr, a hynny mewn ffordd wastraffus, gan sefydlu'r system gyfochrog hon, pan fo hi'n hollol debygol o fod yn gwbl ddiangen.
A wnewch chi dderbyn y bu methiant dros y ddau ddegawd diwethaf o ran y ffordd yr ydych chi wedi buddsoddi—fel Llywodraeth, wedi cymryd yr awenau wrth fuddsoddi'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd hyn? Rydym ni'n gwybod y bu methiant i roi terfyn ar dlodi yng Nghymru. Ni yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig o hyd, cyn belled ag y bo'r ffigurau yn dangos, o ran y rhanbarthau Ewropeaidd o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n warthus. Mae'n destun cywilydd. Mae'n drueni bod Cymru yn y sefyllfa hon, ond dyna lle'r ydym ni o ganlyniad i benderfyniadau eich Llywodraeth o ran rheoli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd hyd yma.
A gaf i ofyn hefyd sut y gwnewch chi sicrhau y caiff gwahanol ranbarthau Cymru wneud penderfyniadau mor lleol ag sy'n bosib yn y dyfodol? Rydych chi eisoes wedi clywed gan Lywodraeth y DU y byddant yn parchu'r setliad datganoli o ran y trefniadau hyn. Ond sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod unrhyw arian a roddir ichi i'w ddosbarthu, o dan unrhyw gronfa ffyniant y DU yn y dyfodol, mewn gwirionedd yn mynd i gyrraedd pob rhan o Gymru gan fynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli ar draws y wlad? Rydym ni yn gwybod, wrth gwrs, bod gennym ni gyfle newydd gyda chronfa ffyniant gyffredin y DU i estyn allan i gymunedau tlotach nad ydyn nhw yn y gorllewin na'r Cymoedd. Ar hyn o bryd, mae gennym ni'r hualau daearyddol hyn, sydd amdanom ni yn sgil penderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd, sy'n ein gorfodi i wario arian mewn lleoedd penodol ar draul y lleoedd hynny yn y dwyrain.
Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni: a yw diosg yr hualau hynny yn rhywbeth y teimlwch chi y gall Cymru elwa ohono? Sut ydych chi'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y cymunedau tlotach hynny mewn rhannau eraill o Gymru yn mynd i gael yr arian sydd ei angen arnyn nhw er mwyn cynyddu ffyniant? Ac a ydych chi'n derbyn na fydd cael mwy o'r un peth, sef yr hyn a gredaf eich bod yn ei gynnig, yn gweithio ac y bydd yn methu unwaith eto yn y dyfodol?