Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 16 Hydref 2018.
Llywydd, bydd y flwyddyn nesaf yn diffinio ein perthynas yn y dyfodol â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn gyfle i ni osod trefniadau i sicrhau twf economaidd, a herio anghydraddoldebau rhanbarthol. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau, ac yn edrych ymlaen at gael rhannu rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau yn y dyfodol.