Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 16 Hydref 2018.
Llywydd, ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad annibynnol yn dadansoddi'r ymatebion i'n papur polisi 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Roedd y papur hwnnw yn nodi egwyddorion ac amcanion, ac yn rhoi canllaw o ran sut i gyfnewid y cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd sydd ar waith yng Nghymru, ac fe gafodd gefnogaeth frwd. Rwy'n credu bod pobl yn dechrau cydsynio yma yng Nghymru ynglŷn â sut yr ydym ni eisiau gweld arian cyfnewid yn gweithio, ac awydd i fwrw ymlaen â hynny. Ymhlith nodweddion allweddol y dyfodol hwnnw yw bod angen fframwaith polisi Cymreig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, un sy'n ymdrin ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac sydd wedi ei seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r rhanbartholi a nodir yn ein cynllun gweithredu economaidd.
Mae angen system arnom ni sy'n canolbwyntio ar ranbarthau synhwyrol i Gymru, gan roi awdurdod i'r rhanbarthau hynny, ac i ardaloedd lleol, wneud mwy o benderfyniadau; system sy'n llai biwrocrataidd, ond sy'n dal yn seiliedig ar y model partneriaeth sydd wedi gweithio'n dda i ni; system sy'n seiliedig ar reolau clir, ond gyda llai o anhyblygrwydd o ran daearyddiaeth a diben; system sy'n gweld buddsoddi cyhoeddus yn dwyn ffrwyth llawn, ond ei fod yn gymesur o ran trefniadau ar gyfer mynediad, monitro ac archwilio.
Rwyf wedi cael trafodaethau manwl gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i ddatblygu ein syniadau, fel y gallwn ni fod yn hyderus, er enghraifft, na chollir cyfleoedd yng nghefn gwlad Cymru, ac y gellir sicrhau bod y buddsoddiad hanfodol hwn yng Nghymru yn ganolog i'r dull a geir yn y cynllun gweithredu economaidd, lle mae buddsoddiad cyhoeddus yn seiliedig ar ddarparu nwyddau cyhoeddus.
Felly, Llywydd, rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU y caiff y £370 miliwn y flwyddyn a gaem ni ar gyfer ein cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd ei roi inni yn llawn fel na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd, fel yr addawyd yn aml yn ystod ymgyrch y refferendwm. Rydym ni hefyd yn disgwyl penderfyniadau ynglŷn â sut a lle y caiff cyllid cyfnewidiol yng Nghymru ei drosglwyddo i aros yma yng Nghymru—fel sydd wedi digwydd dros y 18 mlynedd diwethaf ac sydd yn amlwg wedi'i nodi yn y setliad datganoli. Nid oes unrhyw gefnogaeth yng Nghymru ar gyfer cronfa gyfnewidiol ganolog neu un wedi ei gweinyddu gan y DU. Mae'n anghywir mewn egwyddor, nid oes modd i hynny weithio yn ymarferol ac mae'n hen bryd i Weinidogion y DU ddeall hynny yn union.