Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 16 Hydref 2018.
Llywydd, nid fy mhrif ddiben yw canolbwyntio'n bennaf ar yr hyn a gyflawnwyd yn yr ardaloedd hynny sydd wedi elwa o gronfeydd yr UE, ond nid yw hi chwaith er lles Cymru i danseilio neu dan-gynrychioli yr hyn a gyflawnwyd gyda chymorth y buddsoddiad hwnnw chwaith: y cwymp mawr mewn anweithgarwch economaidd a'r cynnydd mewn cyfraddau cyflogaeth; gwelliant dramatig yn sgiliau ein pobl, gyda gostyngiad mawr yng nghyfran y boblogaeth o oedran gweithio heb gymwysterau; a chau'r bwlch rhwng gwahanol rannau o Gymru, a lleihau'r bwlch rhwng economi Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae'r £370 miliwn a gawn ni bob blwyddyn gan yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig i Gymru oherwydd mae bywoliaethau ein pobl, ein cymunedau a'n busnesau yn y fantol. Yn ystod cyfnod y rhaglen hon yn unig, mae prosiectau'r UE eisoes wedi helpu i greu 8,400 o swyddi, helpu 11,000 o bobl i gael gwaith, a chefnogi pobl i ennill dros 68,000 o gymwysterau. Mae bywydau pobl yn cael eu newid er gwell, mae teuluoedd yn cael eu magu mewn cartrefi gyda gwaith, ac mae pobl yn cael cefnogaeth i fanteisio ar addysg a hyfforddiant.
Ac mae hyn yn digwydd, yn rhannol, drwy'r 970 o fentrau newydd a grëwyd a'r 5,400 o fusnesau a gefnogir gan brosiectau a ariennir gan yr UE. Bydd y rhai hynny yn cynhyrchu refeniw treth a swyddi ar gyfer y dyfodol, gan ein helpu ni i sicrhau Cymru fwy llewyrchus.
Nawr, Llywydd, wrth inni edrych at y dyfodol, mae ein partneriaid yng Nghymru wedi tynnu sylw at ddau bryder allweddol ynghylch trefniadau yn y dyfodol: y gellid defnyddio'r cyllid newydd mewn meysydd heblaw am ddatblygu rhanbarthol, ac y bydd peidio â chynllunio ar sail sawl blwyddyn yn atal cynllunio tymor hir effeithiol. I ymateb i'r pryderon hynny, hoffwn ailddatgan ymrwymiadau yr wyf i wedi eu gwneud yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ac yn y Siambr hon.
Yn gyntaf, caiff unrhyw gyllid cyfnewidiol ei fuddsoddi i gefnogi datblygu rhanbarthol ac i leihau anghydraddoldeb. Ni chaiff ei sugno i mewn i gyllidebau creiddiol eraill Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi pwyslais ar y dull hwn, ac rwy'n dal i weithio gydag Ysgrifennydd yr economi ar hyn.
Yn ail, gallaf roi sicrwydd y byddwn yn parhau i gynllunio ar sail sawl blwyddyn wrth fuddsoddi cyllid cyfnewidiol fel bod pwyslais hirdymor yn dal i fod ar yr heriau strwythurol yn ein heconomi a'r farchnad lafur.
Yn hyn i gyd, byddwn yn defnyddio arbenigedd sylweddol ein partneriaid ledled Cymru i lunio a darparu ffordd newydd o weithio yma yng Nghymru. Hyd yma buom yn gydweithredgar ac yn flaengar, a heddiw gallaf gyhoeddi dau ddatblygiad i gryfhau hyn ymhellach.
Yn gyntaf, byddwn yn sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, a fydd yn manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sydd gan ein busnesau, awdurdodau lleol, ein sefydliadau academaidd, y trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus ehangach ledled Cymru. Bydd y grŵp yn gweithio'n agos gyda phartneriaethau rhanbarthol sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys elwa ar arweiniad y prif swyddogion rhanbarthol a sefydlwyd o dan y cynllun gweithredu economaidd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein dull newydd o weithio yn gyson â chynllunio datblygu economaidd ehangach.
Yn ail, Llywydd, gallaf gyhoeddi gwerth £350,000 o gyllid y prynhawn yma o'r Gronfa Bontio Ewropeaidd i sefydlu partneriaeth newydd gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i fod yn sail i sut yr ydym ni'n buddsoddi'n rhanbarthol yn y dyfodol ac i sut yr ydym ni'n rhoi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith. Efallai ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae hynny'n gwneud y rhwymedigaeth i barhau i fod yn wlad agored a chysylltiedig yn fwy hanfodol fyth. Bydd gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn atgyfnerthu ein gallu i gynnal cysylltiadau hanfodol â rhanbarthau a gwledydd Ewropeaidd eraill ac yn sicrhau y caiff yr arferion gorau rhyngwladol eu hymgorffori yn ein trefniadau ar gyfer y dyfodol. Bydd Ysgrifennydd yr Economi a minnau yn cyhoeddi manylion pellach am y buddsoddiad newydd hwn cyn bo hir.
Yn y cyfamser, Llywydd, ni allwn ni aros i drafodaethau ystyrlon gychwyn gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau cyllido olynol. Hwyrach na fydd trafodaethau o'r fath, dysgwn bellach, tan adolygiad gwariant 2019. Rhaid inni weithredu'n awr i ddatblygu, mewn gwir bartneriaeth, ffordd newydd o fynd ati sy'n sicrhau bod buddsoddi yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud yn ehangach i ddatblygu'r economi. Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa strategol orau i weinyddu'r cronfeydd hyn, ac i gyflawni'r canlyniad hwn.