Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 16 Hydref 2018.
Gobeithio—er bod nifer ohonom, ar wahanol adegau, wedi ceisio eu canu. Roeddwn i'n ofni am eiliad fod yr Aelod yn bwriadu mynd drwy'r caniedydd cyfan ar un adeg, a fyddai wedi fy ngadael yn teimlo'n fwy annigonol byth.
Fodd bynnag, gwnaeth hefyd grybwyll rhai pwyntiau diddorol iawn. Efallai na fydd yn dymuno gwybod hyn, ond y llyfr wrth ymyl fy ngwely i ar hyn o bryd yw 'I Know Another Way'. Mae'n gasgliad gan Jon Gower ac mae'n adeiladu ar waith y diweddar Robin Reeves y mae hiraeth mawr ar ei ôl—efallai y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd ag ef—a siaradodd ac a ysgrifennodd am lwybrau pererinion ar draws Cymoedd y De. Ysgrifennodd am y llwybr o Dyndyrn i Dyddewi, y llwybr pererinion hwnnw a oedd, ar y pryd, yn cyfateb i ymweliad â Rhufain—roedd dau ymweliad â Thyddewi yn cyfateb i ymweliad â Rhufain. Ond nid yw mynd i Rufain, wrth gwrs, yn golygu mynd i gysegrfa'r Santes Fair ym Mhen-rhys. Felly, mae yna rai manteision o ddilyn Tyndyrn i Dyddewi yn hytrach na thrafferthu gyda Rhufain.
Mae gennym hanes yno, yn fy marn i, nad yw'n hanes unigryw o amser a lle yn unig, ond mae'n rhywbeth y credaf y mae gennym ddyletswydd i addysgu ein hunain amdano, os mynnwch. Roeddwn yn siarad yn fy etholaeth i yr wythnos diwethaf am y Siartwyr a gorymdaith y Siartwyr o Twyn Star yn Nhredegar a mannau eraill i lawr i Gasnewydd. Byddai llawer o'r dynion a ymgasglodd yn Twyn Star ar y noson honno ym mis Tachwedd wedi bod yn siarad Cymraeg, a ddim yn gallu siarad Saesneg. Adlewyrchir hanes ieithyddol y Cymoedd ym mywydau llawer ohonom sydd yn dod o'r Cymoedd. Gadawodd fy nheulu i fy hun Aberystwyth i fynd i weithio yn Nhredegar. Ganwyd fy mam-gu ym Mhenparcau, a chyrhaeddodd Glanhowy yn Nhredegar ddim yn gallu siarad yr un gair o Saesneg. Magodd fy nhad i siarad Saesneg yn unig, a dim ond Saesneg y siaradwn i fel plentyn. Dwi wedi dysgu siarad Cymraeg, ac yn awr mae fy mhlant yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Mae'r hanes hwnnw o ran yr iaith yn rhywbeth a adlewyrchir yn hanes personol a theuluol llawer ohonom.
Gellir dwyn ynghyd y dreftadaeth gymdeithasol, ieithyddol a diwydiannol. Rydym wedi gweld canolfan Soar ym Merthyr Tudful, wrth gwrs, sy'n gwneud y gwaith gwych o ail-greu'r cadeirlannau mawr hyn i anghydffurfiaeth, fel y gwelsoch yn Nhreforys y diwrnod o'r blaen, a datblygu diwylliant iaith Gymraeg newydd a threftadaeth Cymru newydd, sy'n cael eu creu gennym ni ein hunain yn y Cymoedd hyn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn siarad â'n gilydd ac yn adrodd y straeon hyn.
Cofiaf Gwyn Alf Williams yn siarad rai blynyddoedd yn ôl bellach ac yn disgrifio'r croestanio o Flaenafon i Ferthyr gan sôn amdano'i hun yn fachgen ysgol ym Merthyr Tudful—roedd bob amser yn cyfeirio at ei rieni fel athrawon ysgol Dowlais, wrth gwrs, gyda'r pwyslais ar yr athrawon ysgol ac ar Ddowlais—ac yn sôn am yr hyn yr oedd wedi'i ddysgu, yn sôn am aelwyd y ffwrnais a sut roedd hynny wedi creu Merthyr Tudful ei blentyndod a sut mae gennym ninnau gyfle i wneud hynny unwaith eto heddiw.
Dyna pam mae'r cysyniad hwn o byrth mor bwysig, fel y gall rhywle fel Merthyr, gyda'r prosiect Crucible y mae'r awdurdod lleol yn ei ddilyn ar hyn o bryd, unwaith eto ail-greu'r storïau hyn, ail-greu'r syniadau hyn o bwy yr oeddem ni a phwy y gallwn fod. Wrth geisio addysgu ein plant am yr hanes hwnnw—rydym yn dysgu mwy amdanom ni ein hunain.
Yn sicr, wrth ddathlu pen-blwydd deng mlwydd a thrigain y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, roeddwn i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ddigon ffodus o gael siarad ar y diwrnod hwnnw yn Nhredegar. Roeddem yn dathlu nid yn unig ben-blwydd deng mlwydd a thrigain y Ddeddf Seneddol ond ben-blwydd cant ac wyth ar hugain sefydlu Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a ddaeth o'i blaen, gan sôn nid yn unig am hanes cymdeithasol ond hanes sosialaidd y Cymoedd hefyd. Rwyf wedi cael fy nhemtio, mae'n ddrwg gennyf, i dorri fy sylwadau yn gynharach, felly ni fyddaf yn mynd i lawr y llwybr hwnnw y prynhawn yma. Ond gobeithio y byddaf yn gallu dwyn ynghyd y syniad hwn o'n treftadaeth, ein lleoliad a'n tirwedd. Credaf fod y gair 'lle' yn bwysig, oherwydd mae'n dwyn ynghyd yr holl elfennau gwahanol hyn o beth rydym yn ceisio ei wneud.