Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf ei bod yn deg dweud bod llawer iawn o ewyllys da ar draws y Siambr hon ar gyfer menter tasglu'r Cymoedd, ond, efallai, ar y dechrau, roedd hynny'n gymysg â rhywfaint o optimistiaeth bwyllog pan deimlwyd na fyddai llinell gyllideb ar wahân ar ei chyfer. Felly, croesawaf yr ymrwymiad o £7 miliwn yn fawr iawn tuag at barc rhanbarthol y Cymoedd.
Roeddwn yn edrych drwy brosbectws y parc rhanbarthol yn gynharach heddiw, ac roeddwn yn falch iawn o weld y cyfeiriad at ddatblygu cyfleoedd ar gyfer yr economi sylfaenol o fewn hynny. Fel un o Aelodau'r Cynulliad sydd wedi bod yn awyddus i hyrwyddo manteision yr economi sylfaenol, credaf fod hyn yn newyddion gwych. Gwn, er enghraifft, efallai y bydd cyfleoedd i gymunedau fel Ynysybwl, lle mae cynlluniau i gynnal a oes modd ichi ymhelaethu ar botensial yr economi sylfaenol o fewn yr agenda hon.
Hoffwn hefyd godi ychydig o bwyntiau eraill o'r prosbectws, yn gyntaf ynghylch adborth. Croesawaf eich sylwadau yn y Siambr heddiw ynghylch gwahodd cymunedau i gymryd rhan yn y gwaith o symud y fenter hon yn ei blaen. Ond a oes modd ichi roi rhai manylion pellach ar sut y gall cymunedau barhau i gymryd rhan wrth ddatblygu blaenoriaethau ac amcanion y parc rhanbarthol drostynt hwy eu hunain? Fel y noda'r ddogfen, nid yw ein cymunedau yn y Cymoedd yn homogenaidd, a gwn fod hynny'n rhywbeth yr ydych chi eich hun wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon, felly sut fydd y gwaith ymgysylltu hwnnw'n adlewyrchu natur y gwahanol gymunedau hynny?
Hefyd, gwn fod hyn yn rhywbeth yr wyf wedi tynnu sylw ato ynghyd â Gweinidogion eraill, ond credaf fod cyfleoedd gwirioneddol o fewn y parciau rhanbarthol ar gyfer manteisio ar ein rhwydwaith o dwnelau rheilffordd segur—hynny yw o ran cysylltiadau teithio llesol, twristiaeth treftadaeth a chymaint mwy. Sut fyddech chi'n gweld hyn yn rhan o bolisi ehangach parc rhanbarthol y Cymoedd? Rwy'n meddwl yn benodol am dwnnel Abernant, sy'n cysylltu fy etholaeth o ag etholaeth fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden ym Merthyr Tudful, ac yn dod allan, mewn gwirionedd, yn union ger y fynedfa i BikePark Cymru. Felly, mae'r potensial sydd yno, yn fy marn i, ac ym marn Dawn hefyd, mi wn, yn enfawr.
Yn olaf, yr wythnos diwethaf, cymerais ran mewn taith gerdded dywysedig o hen weithfeydd haearn y Gadlys. Rwyf mewn perygl o beri gofid i fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, sy'n cynrychioli, yn amlwg, yr etholaeth sydd fwyaf enwog am ei threftadaeth haearn, ond caiff gweithfeydd haearn y Gadlys yn Aberdâr yn wir eu disgrifio fel y gyfres sydd wedi'i chadw orau o ffwrneisiau chwyth y DU. Roedd hyn yn agoriad llygad gwirioneddol, ond yn un y mae llawer rhy ychydig o bobl yn ymwybodol ohono mewn gwirionedd. Mae prosiectau fel hyn yn golygu ymrwymiadau ariannol mawr, ac mae hwn yn benodol yn dibynnu ar dîm o wirfoddolwyr sy'n gysylltiedig ag Amgueddfa Cwm Cynon, felly mae'n anodd iawn deall potensial hwnnw. A fydd potensial i sefydliadau fel hynny fanteisio ar agenda'r parc rhanbarthol a chyflwyno achos ar gyfer cysylltu safleoedd treftadaeth fel hwnnw?