Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 16 Hydref 2018.
A gaf i groesawu'r datganiad a hefyd groesawu'r uchelgais a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn y datganiad ardderchog hwn, rhaid i mi ddweud? Hoffwn ddatgelu rhai o'r manylion oherwydd, yn amlwg, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn parchu ac yn haeddiannol falch o'n treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac unigryw. Yn amlwg, y De wnaeth bweru'r chwyldro diwydiannol wedi'r cyfan— ie, yn wir, yn syfrdanol yn ei gyflawniadau a hefyd yn ddinistriol o ran ei effeithiau ar y bobl yma i'r un graddau, wrth inni edrych ar feddau bechgyn naw mlwydd oed a gafodd eu lladd mewn damweiniau a thrychinebau glofaol fel Senghennydd ac Aberfan.
Felly, rwy'n n croesawu'r uchelgais hwnnw ond hefyd bwyslais y gwaith sydd wedi bod yn digwydd gyda'r tasglu o ran, yn enwedig, y dreftadaeth ddiwylliannol a'r adran hunaniaeth. Ac roeddwn yn mynd i dynnu sylw at rai hanfodion, rwy'n credu, sef pwysigrwydd Cymoedd y De o ran treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth, yn gyntaf oll o ran y Gymraeg. Mae llawer o bobl yn credu bod y chwyldro diwydiannol yma yn y De mewn gwirionedd wedi achub yr iaith Gymraeg. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, roedd hanes y tlodi affwysol gwledig yng Nghymru yn golygu bod miloedd o siaradwyr Cymraeg wedi symud i Gymoedd y De i fod yn lowyr o ffermydd amaethyddol gwael, llawn twbercwlosis, fel y gwnaeth nifer o fy nheulu i yn y gorffennol. Ac wrth sôn am gyflawni 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru, wel, ychydig dros ganrif yn ôl, roedd gennym 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio yng Nghymoedd y De yng nghanol y chwyldro diwydiannol hwnnw. Felly, gobeithiaf fod rhywfaint o gydnabyddiaeth o hynny yn digwydd ymysg y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r tasglu gweinidogol a'r holl syniad o barc rhanbarthol y Cymoedd.
A'r ail bwynt yr hoffwn ei bwysleisio o ran hunaniaeth ddiwylliannol, mewn gwirionedd, yw'r etifeddiaeth Gristnogol sy'n cynnwys Cymoedd y De. Fe'i gwelwn yn awr yn y cannoedd o gapeli anghydffurfiol—y rhan fwyaf ohonynt wedi cau; rhai, yn achlysurol, yn ffynnu—a hanes pregethwyr pwerus a diwygiadau yma ac acw o gwmpas y 250 mlynedd diwethaf. Ac, yn amlwg, roedd rhai ohonom— Mike Hedges a minnau a Dafydd Elis-Thomas—gyda'n gilydd yn y Tabernacl, Treforys, ddydd Gwener diwethaf, i ddathlu'r union etifeddiaeth hon o ddiwydiant trwm, yr iaith Gymraeg a hanes Cristnogol yn dod at ei gilydd—a ddathlwyd yn y Tabernacl, Treforys bryd hynny, yn amlwg, gyda darn o waith yn cael ei wneud mewn adran arall o'r Llywodraeth.
Felly, fy nghwestiwn hanfodol i, pan wyf yn siarad am yr iaith Gymraeg a threftadaeth Gristnogol yw: pa waith sy'n digwydd i sicrhau bod gweithgareddau llywodraethol gwahanol mewn gwahanol bortffolios mewn gwirionedd yn ategu ei gilydd yn hytrach na gyrru ar draws? Oherwydd mae gan Gymoedd y De dreftadaeth Gristnogol gyfoethog iawn. Bu raid i fy hen ewythr adael fferm dlawd iawn ger Dolgellau i setlo yn Aberdâr a daeth yn awdur emynau ac yn argraffydd yno. Ac, yn wir, Ap Hefin, Henry Lloyd, yw awdur yr emyn 'I Bob Un Sy'n Ffyddlon', yr ydym yn dal i'w ganu o amgylch theatrau rygbi y dyddiau hyn, nid yn unig yn ein capeli. Mae rhai aelodau angharedig o'm teulu wedi awgrymu mai ef oedd yr unig un ag unrhyw dalent yn llinach y teulu Lloyd.
Ond mae emyn donau eraill yn dod i'r meddwl, fel 'Cwm Rhondda'. Nid oes crynhoad ehangach o ddiwylliant Cymoedd y De—un o'r emynau mwyaf ysbrydoledig erioed—fel 'Calon Lân'. Mae'r geiriau a'r dôn yn dod o Abertawe. Ac mae hynny yn ogystal â'n hanes cyfoethog o gorau meibion a bandiau pres a ddigwyddodd oherwydd yr un hanes diwydiannol cyfoethog ym mhob un o'n Cymoedd yn y De. Felly, byddwn yn gobeithio, o ran treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth, y rhoddir rhwydd hyn iddynt ac nid dim ond rhyw fath o esgus cydnabod— ar ryw adeg yn y gorffennol siaradwyd rhywfaint o Gymraeg yn y Cymoedd hyn ac weithiau roedd rhai pobl yn mynd i'r capel. Mewn gwirionedd mae'n hanes cyfoethog, ysbrydoledig iawn sy'n cael ei anghofio yn aml. Diolch yn fawr.