Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 16 Hydref 2018.
Gadewch imi ddweud hyn: dylai creu parc rhanbarthol yng Nghymoedd y De fod yn rhywbeth y gellir ei ddathlu ar draws y wlad gyfan. Roedd yr araith gyntaf, Dirprwy Lywydd, a wneuthum yn y lle hwn, rhywbeth fel 11 neu 12 mlynedd yn ôl yn ymwneud â pheryglon plwyfoldeb, gosod pentref yn erbyn pentref, lle yn erbyn lle, sir yn erbyn sir, gogledd yn erbyn de, dwyrain yn erbyn gorllewin, gwledig yn erbyn trefol. Credaf yn aml fod yr Aelodau yn gwneud y camgymeriad hwnnw o wneud hynny yn gynnig i'w dadl. Gobeithio y byddwn yn gallu symud y tu hwnt i hynny, a gobeithio y gallwn ddathlu llwyddiant yng Nghymru lle bynnag y mae hynny'n digwydd bod. Yn sicr, yr hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw yw model y gellir—rwy'n gobeithio, os yw'n llwyddiannus, ac rwy'n credu y bydd—ei ymestyn i fannau eraill. Rwy'n gobeithio, drwy greu parc rhanbarthol yng Nghymoedd y De, ein bod ni hefyd yn creu rhywbeth lle gellir dysgu gwersi mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Gobeithio hefyd ei fod yn ffordd o uno Cymru fel y bydd pobl yn gallu ymweld â rhannau o Gymru efallai nad ydynt wedi ymweld â nhw o'r blaen a dysgu mwy am ein gwlad ein hunain, ein hanes ein hunain, ar ein telerau ein hunain. Credaf mai dim ond peth da yw hynny.
Felly, gobeithio y bydd llefarydd y Ceidwadwyr yn ymdrechu i edrych y tu hwnt i rai o'r llinellau hawdd ac y bydd yn edrych tuag at fenter a fydd yn fenter sy'n uno, ac nid yn rhywbeth y gellir ei chreu i gael ei rhannu unwaith eto, yn ôl seiliau plaid neu ddaearyddol neu seiliau cymdeithasol. Felly, gadewch inni beidio â gwneud hynny.
Gobeithio bod y ffordd yr ydym yn cymryd yr amser i ddatblygu'r model yn dangos ein bod yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, ac yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Gobeithio, wrth ddarparu'r math o lywodraethu a'r strwythur cyflawni hwn, y byddwn yn gwneud yr union beth yr awgrymodd llefarydd y Ceidwadwyr ac yn gwneud hynny drwy ddarparu ar y cyd a thrwy ymgynghori a chreu strwythur cyflawni sy'n dod â phobl ynghyd o bob rhan o'r rhanbarth, ond ar yr un pryd yn gallu manteisio i'r eithaf ar effaith y bobl â'r sgiliau gwahanol a'r adnoddau gwahanol sydd ar gael iddynt.
Mae'r £7 miliwn a ddyrannwyd i ni yn y gyllideb yno er mwyn ein galluogi i wneud hynny, i sefydlu'r strwythur hwnnw, i sefydlu ffordd o weithio, i sefydlu'r fenter yn y lle cyntaf, ac yna, wrth gwrs, mae angen inni allu ariannu hynny drwy gyllid refeniw yn y blynyddoedd i ddod. Ond, ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar sut yr ydym yn ei sefydlu a sut yr ydym yn cyflawni hynny ar y cyd gydag awdurdodau lleol, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gyda'r trydydd sector a grwpiau cymunedol gwahanol ledled y cymunedau. Drwy wneud hynny gobeithiaf y gallwn wneud mwy na dim ond cyfeirio at niferoedd ar siart. Rwy'n cydnabod ond yn rhy dda effaith nid yn unig cynni, ond anhrefn economaidd, yn y gymuned a gynrychiolaf. Rwyf wedi gweld effaith cau gwaith dur ar fy etholaeth. Rwyf wedi gweld effaith cau glofeydd yn fy etholaeth. Rwyf wedi gweld hynny'n digwydd, ac rwyf wedi gweld yr effaith a gafodd, nid yn unig yn y graffiau economaidd a ddyfynnwyd gan lefarydd y Ceidwadwyr, ond rwyf wedi gweld yr effaith ar bobl a theuluoedd. Mae hyn yn ymwneud â chreu—. Dwi ddim yn awgrymu ei fod yn brofiad unigryw, ond yr hyn a ddywedaf yw y byddwn yn mesur llwyddiant hyn mewn termau dynol yn ogystal â safbwynt economaidd. A gobeithio hefyd y byddwn yn mesur llwyddiant hyn o safbwynt ein hamgylchedd, ein bioamrywiaeth, o ran sut y gallwn reoli ein tirweddau, ac o ran sut y gallwn addysgu ein hanes ein hunain i'n pobl.
Felly, rwyf eisiau i hyn fod yn ddull llawer mwy cyfannol o sicrhau dyfodol Cymoedd y De na strwythur syml neu arwyddion ar ochr y ffordd. Gobeithio, pan fyddwn yn gallu gwneud hynny, y bydd yn creu rhywbeth a fydd yn dangos bod ganddo wydnwch a chynaliadwyedd rhywbeth y gallwn ddysgu oddi wrtho yn y dyfodol. Mae'r cynllun cenhadon twristiaeth a ddyfynnir gan yr aelod yn ffordd o allu dod â phobl at ei gilydd a sicrhau bod y busnesau, y mentrau, y cyfleusterau sydd gennym ar gael yn y Cymoedd yn creu cymorth a chyflogaeth ar gyfer pobl y Cymoedd, ac mai pobl y Cymoedd sy'n adrodd eu straeon eu hunain.