Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 16 Hydref 2018.
Wrth gwrs, mae gweithfeydd haearn y Gadlys yn enwog, ac mae'r gymhariaeth â Merthyr yn un dda, ond mae'r naill a'r llall yn pylu o'u cymharu â Sirhywi, wrth gwrs, lle mae'r gwaith haearn yno—. Mae'n enghraifft dda, mewn gwirionedd, pan adawyd rhan eithriadol bwysig o'n treftadaeth i bydru ac i ddirywio am ddegawd ar ôl degawd, oherwydd nad oeddem ni—bob un ohonom yma o'r rhanbarth—erioed wedi deall ei bwysigrwydd mewn termau hanesyddol. Ni oedd y rhai a'i gadawodd yno—ni allwn feio Llywodraeth Llundain neu fannau pell eraill am ganiatáu i hynny ddigwydd. Rydym eisiau buddsoddi yn y mannau hyn heddiw fel y gallwn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu dysgu a deall.
Byddaf yn edrych ar y lleoedd hyn—mae fy mab wyth mlwydd oed, druan ohono, wedi treulio gormod o lawer o'i wyliau, rwy'n credu, yn cael ei dywys gan ei dad i ymweld â gwahanol leoedd. Rwy'n cael y teimlad yn aml y byddai'n well ganddo fod yn gwylio'r teledu, ond ei fod yn cael ei lusgo ar draws i—. Mae wedi bod i Flaenafon sawl gwaith, mae'n rhy fyr i fynd lawr i'r pwll mawr, ond fe ddaw. Nid yw wedi ymweld â'r Gadlys eto, ond bydd yn gwneud hynny, ac mae wedi ymweld â hanes Merthyr hefyd, lle mae gennych hanes y rheilffyrdd, wrth gwrs, yn digwydd yno.
Ond gadewch inni edrych ar y mater am y twneli. Ymwelais â'r Rhondda yr wythnos diwethaf. Euthum i Flaencwm a siarad â grŵp o bobl a oedd wedi gobeithio ailagor twnnel rhwng Blaencwm a Blaengwynfi. Pan oeddwn yn gyrru oddi yno, fe'm gadawyd â'r syniad gwych hwn o greadigrwydd yn fwy nag unrhyw beth arall—creadigrwydd pobl sy'n adnabod eu lle, a chreadigrwydd pobl sy'n deall eu lle, a chreadigrwydd pobl sydd ag uchelgais ar gyfer eu lle a'u cymuned. Wrth ddatblygu'r prosiect hwn, nid gweision sifil ym Mharc Cathays, neu hyd yn oed Weinidogion ym Mae Caerdydd, ond y bobl hynny sydd â'r syniad, breuddwyd, hunaniaeth, ymdeimlad o le ac ymdeimlad o hanes fydd yn llywio'r prosiect hwn, ac yn gwneud llwyddiant mawr ohono. A dyna pam mae'r Aelod dros Gwm Cynon yn sôn am yr economi sylfaenol. Mae'n hanfodol, wrth wneud hynny, bod y cyfoeth yr ydym yn ei greu yn parhau i fod yn y gymuned, ac yn parhau i fod yn rhan o'r gymuned honno, nid yn unig i helpu i adfywio'r gymuned ond i ail-greu'r cymunedau hynny. Ac, fe wyddoch, i mi—ac amlinellodd llefarydd y Ceidwadwyr hyn ei hun—caiff llwyddiant y prosiect hwn ei fesur yn nhermau diwylliannol a hanesyddol, ond rhaid inni bob amser gydnabod pwysigrwydd creu gwaith cynaliadwy yn ein cymunedau. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny, ac y bydd y cyfoeth yr ydym yn ei gynhyrchu yn gallu aros yn y gymuned.
A gaf i ddweud gair am Ynysybwl? Y tro diwethaf yr ymwelais ag Ynysybwl, roeddwn ar fy ffordd i Lanwynno, a gelwais heibio'r Fountain yno; efallai fod rhai Aelodau yn ymwybodol ohono. Ac wrth gerdded o amgylch—wnes i ddim dilyn esiampl Guto Nyth Brân a rhedeg i Aberpennar, ond cerddais drwy Goedwig Llanwynno, a rhaid imi ddweud y gallech fod yn unrhyw le yn y byd, y goedwig ysblennydd sydd gennym yno, coetir naturiol hefyd. Mae'n rhywbeth y credaf y dylem ni ei ystyried o ddifrif: sut ydym ni yng Nghymru yn creu coedwig neu goetir sy'n rhan o'n hunaniaeth? Ac roeddwn yn cerdded drwy Geunant Clydach uwchlaw fy etholaeth i fy hun i lawr at y Fenni rai wythnosau yn ôl, yn edrych ar y coetir naturiol yno. Mae'n goetir hanesyddol yng Nghymru. Mae'n amgylchedd hanesyddol, yn ecosystem hanesyddol. Felly sut allwn ni ddiogelu hynny i'r dyfodol, a sut allwn ni sicrhau bod gennym nid yn unig y rheolaeth dŵr y mae angen inni ei chael, y rheolaeth ecosystemau y mae angen inni ei chael, ond wedyn sicrhau bod gennym fynediad hefyd, fel bod pobl yn gallu cael mynediad at y safleoedd rhagorol hyn, yn deall beth mae'r safleoedd hynny yn ei olygu? Ac yna roi sylw i'r materion a godwyd yn y datganiad ar fynediad i bobl anabl, i sicrhau bod y mynediad hwn ar gael i bawb ar draws y gymuned, a'n bod yn rheoli hynny er mwyn galluogi pawb i gael budd ohono.
Felly, credaf fod yr holl gyfleoedd sydd gennym yma yn gyfleoedd y byddwn yn eu gwireddu trwy gydweithio, gan gyd-gynhyrchu gyda'n gilydd rywbeth na allai unrhyw un ohonom ei gyflawni yn annibynnol neu ar wahân.