Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 16 Hydref 2018.
Iawn. Diolch yn fawr, Llywydd. Yn fyr, felly, nid ydym wedi gorffen chwarae trympiau uchaf gyda gweithfeydd haearn—rwy'n mynd i godi'r ods gyda gweithfeydd haearn Castell-nedd. Ond rydw i'n ei wneud yn benodol iawn, oherwydd, wrth gwrs, nid oes unrhyw sôn am gyd-gynhyrchu yn y prosbectws ei hun, ond mae'n cyfeirio at stiwardiaeth gymunedol, ac mewn gwirionedd rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych ar gymoedd Nedd a Dulais fel ymgeiswyr da ar gyfer pyrth—fel enghreifftiau lle mae stiwardiaeth gymunedol o asedau treftadaeth naturiol a diwylliannol yn amlwg iawn. Ac, wrth gwrs, yn faes lle gellir datblygu—rhan o waith tasglu'r Cymoedd—twristiaeth mewn ffordd sy'n fuddiol i bawb ar gyfer lles preswylwyr ac ar gyfer yr economi, heb wneud y cynnig yn debyg i rywbeth allan o Disney.
Mae gennych enghraifft o fiosffer Dyfi o'ch blaen chi, Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ble y mae'r cydbwysedd hwnnw yn gyraeddadwy. Fe'i cydnabyddir yn rhyngwladol, ac efallai y ceir gwersi y gallwn eu dysgu i lawr yn y de o hynny hefyd. Felly, fy nghwestiwn sylfaenol yw: ble fydd y cyrff llawr gwlad hyn, er eu bod yn gyfrifol am stiwardiaeth gymunedol, yn cael mynediad at y cronfeydd hyn? A yw'r cyfan i gael ei wario ar lefel strategol yn unig?
Ac yna, tybed a allech chi ateb cwestiwn a godwyd gan Dai Lloyd, ond na wnaethoch ei ateb ar y pryd ynghylch gweithio traws-lywodraethol. Oherwydd y mae gennym sefyllfa yng Nghastell-nedd ar hyn o bryd, lle bu rhai diffygion neu anawsterau ac anallu ar ran Llywodraeth Cymru i wario arian ar adfer fframiau pen Cefn Coed yn yr Amgueddfa Lofaol yno. A yw'r strategaeth yr ydych yn siarad amdani yn gallu ôl-lenwi problemau fel hynny neu a ddylem ni fod yn edrych am arian o'r ffynhonnell hon i guddio'r diffygion mewn mannau eraill? Diolch.