Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 16 Hydref 2018.
Dirprwy Lywydd, rhaid i bob trafodaeth ar Gymoedd De Cymru gynnwys trafodaeth ar Gastell-nedd. Mae'n gwbl hanfodol inni roi sylw i hanes a diwylliant y lle gwych hwnnw. Gadewch imi ddweud hyn: Ymwelais â Chefn Coed, rwy'n deall y problemau—rwy'n gobeithio fy mod yn deall rhai o'r problemau sy'n codi yno—ac y mae angen inni weld sut y gallwn ni sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd ar draws yr holl bortffolios gwahanol a'r portffolios newidiol i sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer pobl.
Yn awr, un o'r materion yr wyf am roi sylw iddo dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yw llunio strwythur y ddarpariaeth a'i roi ar waith. Mae gennym ni brosbectws yn cael ei lansio heddiw, mae gennym ni'r cysyniad yn cael ei lansio heddiw a'r hyn sydd angen inni ei wneud yn awr yw sicrhau bod gennym ni'r llywodraethiant a'r strwythur cyflenwi a fydd yn ein galluogi ni i wireddu hynny, a dyna'r hyn y byddwn yn gweithio arno nesaf. Ac yn sicr, bydd y materion ynghylch y gymuned a'r sicrwydd bod grwpiau cymunedol yn gallu bod yn rhan o hynny yn gwbl hanfodol ac fe fydd yn brawf litmws, fel yr wyf wedi dweud eisoes, ar gyfer sut y byddwn yn ceisio cyflawni'r cysyniad hwn.