Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 16 Hydref 2018.
O ran gweithredu ar nifer o faterion gwahanol, rydym ni wedi gweld drwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol nifer o asedau cymunedol yn cael bywyd o'r newydd. Ymwelais i â Neuadd y Gweithwyr Blaenafon beth amser yn ôl ac mae'n rhyfeddol ei gweld hi'n cael ei haileni unwaith eto. Yn fy etholaeth i, mae Sefydliad Glowyr Llanhiledd yn parhau i fod yn ganolfan i'r gymuned. Rydych chi'n gyrru ar draws y Cymoedd neu rydych chi'n symud ar draws y Cymoedd, mae gennych chi Neuadd y Dref, Maesteg a'r Neuadd Les yn Ystradgynlais. Gallwch enwi nifer o gyfleusterau gwahanol sydd wrth galon y cymunedau hynny. Yr hyn yr wyf i'n gobeithio y gallwn ni ei wneud yw sicrhau eu bod yn parhau wrth galon eu cymunedau.
Mewn sawl ffordd, mae'r problemau diwylliannol y mae Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru eisoes wedi cyfeirio atynt wrth wraidd ein huchelgais. Ond os ydym ni i lwyddo, yna mae'r seilwaith sy'n cael ei ddisgrifio yn gwbl hanfodol: mae'n rhaid i seilwaith trafnidiaeth, seilwaith cyfleusterau—boed yn doiledau cyhoeddus neu'n ganolfannau ymwelwyr neu gaffis, bwytai, gwestai, llety—fod wedi eu sefydlu. Dyma'r math o seilwaith y byddem ni'n ceisio ei ddatblygu a'i roi ar waith dros amser. Dyna pam, wrth ddatblygu'r cysyniad, yr ydym ni'n gweithio gyda, nid dim ond awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ond yn gweithio gyda'r holl bobl hynny sy'n gallu darparu a chefnogi'r cyfleusterau hynny ledled rhanbarth y Cymoedd.