Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 16 Hydref 2018.
A gaf i ddweud, cyn i mi ddechrau hyd yn oed, rwy'n credu—o ran natur hanesyddol ein hetholaethau a'r dreftadaeth—a gaf i ddweud bod y twnnel yn mynd o Ferthyr Tudful i Abernant, nid y ffordd arall? [Chwerthin.] Darganfu Richard Trevithick y locomotif stêm ym 1803, ac aeth o Benydarren ym Merthyr Tudful i Aberdâr. Iawn.
A gaf i ddweud—a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll—? [Torri ar draws.] [Chwerthin.] Nid ein bod ni'n gystadleuol o gwbl ynghylch ein hanes, ond dyna ni. A gaf i ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Rwy'n mynd i ddychwelyd at rai meysydd ychydig mwy cyffredin. Rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau am y pryderon ynghylch Cwm Rhymni uchaf a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros economi am ddod gyda mi i ymweld â chynrychiolwyr lleol a sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd, a siarad â hwy a rhannu'r pryderon hynny. Ond y mae'n ymddangos i mi, mewn llawer o'n hen ardaloedd diwydiannol fel Rhymni, bod edrych ar ffyrdd arloesol newydd o adfywio yn hanfodol, felly, rwy'n croesawu'n fawr iawn y themâu cyflawni cysylltiedig ynghylch y cynigion ar gyfer y parc rhanbarthol, yn arbennig yr agweddau sy'n croesi Blaenau'r Cymoedd.
Byddwch yn gwybod, mewn rhannau o Rymni, bod gennym ni ardaloedd mawr o hyd o hen dir diwydiannol diffaith, sy'n symbol o'r dirywiad yn y cymunedau hynny dros y 30 mlynedd diwethaf, fwy neu lai, ac mae'r ardaloedd hynny yn dal heb ddenu buddsoddiad busnes sylweddol. Ond, wedi dweud hynny, fel yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes, mae'r ardal gyfan, wedi'i hamgylchynu gan harddwch naturiol syfrdanol. Felly, mae gennym ni'r diffeithwch diwydiannol hwn yng nghanol rhywbeth sy'n cael ei amgylchynu gan y fath harddwch, ac yn amlwg y mae angen i ni fanteisio ar hynny, i gyflawni'r nodau economaidd a llesiant.
Ac rwy'n edrych ar rywfaint o'r llwyddiant, llwyddiant enfawr, rhai o'r gweithgareddau hamdden a welsom ni'n cael eu datblygu mewn hen chwareli llechi yn y Gogledd, a tybed a yw hynny'n rhyw fath o lasbrint ar gyfer beth y gallem ni ei wneud mewn rhai o'n hen ardaloedd diwydiannol yng Nghymoedd y De. O gofio bod lles y cymunedau yn y Cymoedd yn rhan hanfodol o waith y tasglu, a gaf i ofyn a yw'n rhan o'ch gweledigaeth chi ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd i edrych ar y meysydd hynny o ddiffeithwch gyda golwg ar ailddatblygu o bosibl ar gyfer gweithgaredd hamdden a llety, i ategu'r ardaloedd o harddwch naturiol rywsut, gan eu troi'n atyniadau ymwelwyr yn eu rhinwedd eu hunain a defnyddio hyn fel un o'r dewisiadau amgen i ail-gyflwyno diwydiant i adfywio ardaloedd diwydiannol a hen ardaloedd diwydiannol yn unig?
Roeddwn hefyd yn falch o'ch clywed yn sôn, rwy'n credu mewn ateb i Dai Lloyd, am y Comisiwn Dylunio i Gymru ym Merthyr Tudful, ac fe fyddwn yn falch petaech chi'n ymhelaethu ychydig ar hynny, oherwydd y cynigion ynghylch charrette y Comisiwn Dylunio, beth a ddaw allan o hynny yw nid dim ond yr adeiladau—Castell Cyfarthfa a ffwrneisi chwyth ac ati—ond y mae hefyd yn ymwneud ag adrodd stori gyfan y diwydiant haearn ym Merthyr a'r bobl a'i creodd, yr holl ffordd at wrthryfel Merthyr a thu hwnt, ac a yw hynny'n ffurfio rhan o'ch gweledigaeth ar gyfer parc tirwedd y Cymoedd. A fydd y math hwnnw o brofiad wedi ei seilio ar yr hanes a'r dreftadaeth yn rhan o'r parc tirwedd hefyd?