Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 16 Hydref 2018.
Ie, hollol, fe fydd, a'r prawf litmws fydd Rhymni—nid oes gennyf amheuaeth ynghylch hynny. Os ydym yn edrych ar ddatblygu'r parc rhanbarthol fel cysyniad, fel fframwaith i ddatblygiadau eraill ddigwydd ynddo, yna os llwyddwn ni, yna byddwn yn llwyddo yn Rhymni. Os edrychwch ar y mathau hynny o gymunedau lle'r ydych chi wedi cael trefi mawr yn agos—rydym ni wedi gweld buddsoddiad a datblygiad sylweddol, ac nid yw trefi llai wedi gweld yr un lefel o fuddsoddiad, ac fe welodd y ddau ohonom ni effaith hynny ar ganol y dref y pryd hynny. Mae angen i ni allu sicrhau bod pobl, boed yn Rhymni neu mewn mannau eraill, yn gallu gweld budd hynny ac nad yw'n ddim ond araith a wnaed ym Mae Caerdydd, ond yn realiti ar garreg y drws ac ym mywydau pobl.
Cefais fy ysbrydoli pan euthum drwodd a siarad â phobl am y prosiect Crucible ym Merthyr Tudful, am y rheswm yr ydych yn ei roi: nad yw'n ymwneud yn unig â'r amgylchedd adeiledig—wrth gwrs ei fod ef, ond nid yw'n ymwneud â hynny'n unig—mae'n ymwneud â'r bobl sy'n byw yno hefyd a'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau, a'n straeon, ein hanes, ein dyfodol. Ac mae ein gallu i wneud hynny, rwy'n meddwl, yn gwbl allweddol a sylfaenol i lwyddiant y prosiect hwn. Mae'r Gweinidog dros ddiwylliant a thwristiaeth a threftadaeth yn ei le'r prynhawn yma a bydd yn gwrando ar y trafodaethau hyn, ac mae'r sgyrsiau a gawsom am sut y mae ein treftadaeth yn rhan o'n dyfodol yn gwbl ganolog i'r hyn yr ydym yn awyddus i'w gyflawni. Roedd yn ddigon caredig i ymweld â'm hetholaeth yn y gwanwyn i drafod etifeddiaeth Aneurin Bevan, ac rydym yn dymuno dod â'r llinynnau gwahanol hynny ynghyd a sicrhau ein bod yn gallu ailddyfeisio'r cymunedau hyn. Mae'r Aelod dros Ferthyr—. Mae'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni yn iawn i—bron imi â gwneud camgymeriad, camgymeriad ofnadwy, yn y fan yna—yn iawn i nodi'r tir diffaith a welwn o gwmpas y dref ac ym mhen uchaf Cwm Rhymni. Rwy'n gyfarwydd â hwnnw. Mae angen inni edrych ar sut yr ydym yn ail-greu'r cymunedau hyn. Nid yn Rhymni yn unig, ond mewn mannau eraill, lle y gwelwn nad oes angen y tir a ddefnyddiwyd o'r blaen ar gyfer diwydiant trwm yn yr un ffordd mwyach.
Un o'r materion yr ydym yn rhoi sylw iddo fel rhan o waith ehangach tasglu'r Cymoedd, y byddwn yn ei drafod ar adegau eraill y prynhawn yma, yw mater y Cymoedd uchaf. Rwy'n credu bod materion penodol ym Mlaenau'r Cymoedd sydd yn fwy anodd, os mynnwch chi, nag mewn rhannau eraill o'r Cymoedd. Felly, byddwn ni'n edrych ar hynny, yn benodol. Ond yn sicr, gobeithiaf y byddwn yn gallu, yn y blynyddoedd i ddod, ddangos bod y gwaith yr ydym ni'n ei roi ar waith heddiw yn cael ei weld yn y dyfodol fel trobwynt ar gyfer y Cymoedd ac yn cael ei weld fel rhywbeth nad arweiniodd at dwf economaidd yn unig, ond a arweiniodd at newid cymdeithasol hefyd a newid yn ein dyfodol ni. Gobeithiaf y gallwn gyflawni hynny.