Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau, a'ch cefnogaeth unwaith eto eleni ar gyfer y rhaglen tai arloesol. Fe ddechreuaf gyda'ch pwynt olaf, a oedd yn ymwneud â sut y byddwn yn monitro ac yn gwerthuso'r rhaglen. Un o'r pethau cyffrous ynglŷn â'r rhaglen tai arloesol yw bod yn rhaid i bob ymgeisydd am gyllid gytuno i bolisi llyfr agored. Felly, bydd hynny'n cynnwys adroddiadau cynnydd rheolaidd i weithgor y rhaglen tai arloesol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gytuno i gael eu monitro yn ystod ac ar ôl adeiladu. Mae'n rhaid iddyn nhw gytuno i gasglu data, yn arbennig ar faterion o gost a pherfformiad. Ac yna mae'n rhaid iddyn nhw gytuno bod y gwersi a ddysgwyd drwy eu prosiectau yn cael eu rhannu'n gyhoeddus. Felly, y pethau penodol y byddwn yn chwilio amdanyn nhw wrth fonitro a gwerthuso fydd yr ochr dechnegol, perfformiad yr adeiladau, profiad y gwaith adeiladu, ac, fel yr ydych wedi cydnabod, y gwaith gyda thenantiaid hefyd.
Felly, cwestiynau syml: a yw'r tenantiaid yn hoffi eu cartref ac a yw'n lle dymunol a chysurus i fyw? A yw'r cartrefi yn hyblyg i ddarparu ar gyfer ffyrdd o fyw heddiw ac yn y dyfodol? A ydyn nhw'n gartrefi rhad ar ynni ar gyfer preswylwyr? A ydyn nhw'n gartrefi cost isel ar gyfer preswylwyr? A fyddai'n fforddiadwy i adeiladu'r cartrefi hyn yn y dyfodol? A ellir eu hadeiladu ar gyflymder? A ellir eu hadeiladu ar raddfa? A ydyn nhw wedi eu hadeiladu'n dda? A fydd hi'n fforddiadwy i'w cynnal yn y dyfodol? Ac a yw'r datblygiad cyffredinol yn creu lle da i fyw? Felly, dyma'r math o gwestiynau y byddwn yn eu gofyn yn rhan o'n gwaith monitro a gwerthuso.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad tai fforddiadwy, ac mae'r gwaith hwn yn sicr yn digwydd gyfochr â hynny ac mae'n llywio gwaith yr adolygiad tai fforddiadwy. Fel y gwyddoch, o dan yr adolygiad hwnnw, ceir nifer o ffrydiau gwaith yn edrych ar feysydd penodol sydd angen sylw os ydym am gynyddu ein huchelgeisiau ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yn y dyfodol. Mae un o'r ffrydiau gwaith hynny yn ymwneud â safonau a gofynion datblygu ansawdd. Felly, byddwn yn ceisio gweld i ba raddau y mae ein safonau presennol yn gywir, a sut y byddai angen eu newid os ydym am adeiladu mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol. Ac mae ffrwd waith benodol yn edrych ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer adeiladu, gan gynnwys dulliau modern o adeiladu. Felly bydd y ffrwd waith hon yn ystyried sut y bydd y gadwyn gyflenwi, ar draws y dulliau modern o adeiladu yn gweithio a sut y gallwn gynyddu graddfa hyn yn y dyfodol hefyd. Beth yw'r capasiti? A oes prinder sgiliau? Dyma'r cwestiynau y bydd yr is-grŵp penodol hwnnw yn eu hystyried.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyhoeddiad rhagorol yn ddiweddar ynghylch y cyllid a gafodd SPECIFIC a Phrifysgol Abertawe. Roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o roi llythyrau cefnogi i'r prosiect hwnnw ac yn falch iawn o allu darparu £6.5 miliwn i gefnogi'r prosiect hwnnw hefyd. Mae un neu ddau o'n prosiectau yr ydym ni'n eu cyhoeddi heddiw yn ymwneud yn benodol â datblygiad SPECIFIC, ac un yw tir ym Mharc Yr Helyg, Ffordd Colliers yn Abertawe. Prosiect cartrefi fel gorsafoedd pŵer fydd hwnnw, yn cyfuno deunyddiau adnewyddadwy— systemau ffotofoltäig, batris, pympiau gwres o'r ddaear, systemau awyru mecanyddol adfer gwres—a hefyd yn defnyddio'r hyn a elwir yn ffrâm bren ffabrig yn gyntaf safonol Abertawe. A chydweithrediad rhwng SPECIFIC a Bargen Ddinesig Abertawe yw hwnnw. Ceir ail brosiect hefyd ar Ffordd y Goron yn Llandarcy, a fydd yn barc arloesedd i arddangos dulliau adeiladu tai modiwlar a chyfeintiol ac i gymharu'r systemau a chymharu'r hyn sy'n cael ei ddysgu yma yng Nghymru â'r profiad dramor. Felly, mae hyn yn rhan ddiddorol o'r ymchwil a'r dysgu ynghylch y prosiect, felly mae'n cysylltu'n agos â'r gwaith cartrefi gweithredol sydd eisoes wedi ei gyhoeddi.
O ran dylunio, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gael uchelgeisiau a dyheadau mawr ar gyfer ein tai fforddiadwy a'n tai cymdeithasol. Dylai ein nod fod i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol allu byw mewn tai hardd y gall pawb fod yn falch ohonyn nhw. Pan welwn arolygon, mae cymuned—mae'n ddrwg gen i, cynhaliodd y Sefydliad Tai Siartredig arolwg yn ddiweddar. Mae pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn falch o hynny, maen nhw’n ymfalchïo yn eu cymunedau, felly gadewch i ni geisio adeiladu'r tai harddaf posibl ar gyfer y cymunedau hynny. Felly mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth y mae'r adolygiad tai fforddiadwy yn ei ystyried ond mae'n rhywbeth yr hoffwn i ganolbwyntio arno yn fwy ym mlwyddyn 3 y rhaglen.
Ac yna, dylwn i nodi, wrth lunio'r manylebau technegol ar gyfer y rhaglen tai arloesol, fe wnaed hynny gyda grŵp llywio a gadeiriwyd gan Gayna Jones o Gomisiwn Dylunio Cymru. Felly, yn sicr mae gennym ni bwyslais mawr ar ddylunio o ansawdd da.
Ac yn olaf, roeddwn yn falch iawn o gael cyflwyno hyn i'r sector preifat eleni. Rwy'n awyddus iawn i weld pwyslais cryf ar gefnogi busnesau bach a chanolig yn arbennig i ddychwelyd at adeiladu tai. Fe adawon nhw'r gwaith o adeiladu tai beth amser yn ôl a chanolbwyntio ar waith adnewyddu ac ati, ond rwy'n credu bod ganddyn nhw ran gref iawn i'w chwarae yn nyfodol adeiladu tai. Wrth gwrs, pan fydd cymdeithasau tai yn adeiladu cartrefi, pan fydd cartrefi yn cael eu hadeiladu drwy ein rhaglen tai arloesol, y busnesau bach a chanolig sy'n gweithio mewn partneriaeth â nhw i gyflawni hynny. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gymhwyster arall sydd gennym o ran cefnogi busnesau bach a chanolig ochr yn ochr â phethau fel y gronfa datblygu eiddo a'n gwaith ni ar safleoedd lle mae gwaith wedi peidio.